Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Beddrod RJ Lloyd Price Ymweliad â Rhiwlas
Mae cyndeidiau teulu Rhiwlas ger y Bala yn cynnwys dyfeisydd treialon cŵn defaid, RJ Lloyd Price, a Rhys ap Meredydd a sefydlodd y stâd ar ôl ennill tiroedd gan Harri VII, fel y clywodd aelodau Cymdeithas Hanes Meirionnydd.
"Mae teithiau Cymdeithas Hanes Meirionnydd yn hynod o boblogaidd ac mae amryw o aelodau yn cael eu siomi bob blwyddyn oherwydd nad oes digon o le i bawb.

Gymaint oedd y galw yn 2006 nes i ail ymweliad gael ei drefnu â phlasty Rhiwlas, Y Bala, ar 27 Mehefin. Croesawyd y cwmni yn wresog gan sgweier Rhiwlas, Mr Robin Price a'i wraig. Amlinellodd Mr Price dipyn o hanes y teulu a'r stâd a chawsom sgwrs ddifyr a ffraeth hefyd gan Buddug Medi.

Rhys ap Meredydd oedd yn cario baner y Ddraig Goch ar faes Brwydr Bosworth ac am hynny fe'i gwobrwywyd yn hael â thiroedd gan Harri VII. Cafodd y teulu ragor o diroedd gan Harri VIII wedi iddo ddiddymu'r mynachlogydd. Dros y canrifoedd tyfodd y stâd a bu'r teulu yn noddwyr hael i'r beirdd. Clough Williams Ellis a gynlluniodd y tŷ hardd, yn 1954, ar sylfeini yr hen blasty.

Yr aelod amlycaf o'r teulu yn y cyfnod diweddar oedd R J Lloyd Price. Ef a gafodd y syniad o gynnal treialon cŵn defaid am y tro cyntaf. Sefydlodd gwmni chwisgi Cymreig yn Fron-goch yn ogystal â llu o ddiwydiannau eraill i greu gwaith yn yr ardal. Collodd lawer o'i gyfoeth drwy gamblo and bu'n lwcus drwy fetio ar geffyl o'r enw Bendigo a defnyddiodd beth o'i enillion i godi beddrod sylweddol i'r teulu yn eglwys Llanfor (gweler y llun uchod).

Cyn ymadael, cafodd yr aelodau de ardderchog gan Mr a Mrs Price.

Nod y gymdeithas yw hybu diddordeb yn hanes a diwylliant y sir ac mae croeso i unrhyw un ymaelodi drwy ffonio 01341 424681."

Nan Griffiths

Ewch i ddarllen mwy o hanes Rhiwlas a'r egsentrig RJ Lloyd Price yn ein horiel enwogion yma.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý