Dan arweiniad Rory Francis o Goed Cadw a Liz Fleming-Williams, aelod o Fforwm y Coed Hynafol, cafwyd taith gerdded o amgylch coed hynafol Parc y Faenol oedd yn rhoi golwg ar fyd colledig yr hen goed roedd traffig y Steddfod yn eu pasio bob dydd ar ei ffordd i mewn i'r maes. Prif ffocws y daith oedd coeden Castanwydden bêr sydd gannoedd o flynyddoedd oed a blannwyd yn y parc yn y canol oesoedd i fwydo ceirw â chnau castan yn y gaeaf. I goroni'r daith, cafwyd cerddoriaeth yng nghysgod canghennau'r Gastanwydden gan y grŵp â'r enw addas, Brigyn. Meddai Liz Fleming-Williams: "Mae coed hynafol ymysg y pethau byw hynaf sy gynnon ni yng Nghymru. Maen nhw'n rhan bwysig o'n hanes ni yn ogystal â'n hamgylchedd naturiol ni. "Coeden anhygoel yw Castanwydden y Faenol. Mae'n debyg ei bod hi'n dyddio'n ôl i'r canoloesoedd, pan fyddai ei chnau castan yn darparu cyflenwad o fwyd i geirw trwy'r gaeaf. Does dim dwywaith fod y goeden hon wedi gweld sawl canrif yn mynd heibio."
|