Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Owen R Jones (pedwerydd o'r chwith) yn ei lifrai Llythyr Owen R Jones
Ysgrifennodd Owen Robert Jones o Fôn y llythyr hwn at ei deulu yn Minnesota wedi brwydr Missionary Ridge ger Chattanooga.

Chattanooga, Tenn
Dec 1st 1863

Fy Anwul frawd a chwaer a fferthynasau. Wele fi unwaith eto yn cael y fraint o'ch cyfarch trwu gyfrwng y llythyrfa.

Derbyniais eich llythyr wedi ei ddyddio Nov 17 . Mi roeddwn yn bur falch o'i gael a deall eich bod oll yn iach. Gallaf fina ddeud fy mod yn mwynhau yr un trigaraidd, i Dduw y bo y diolch.

Mae yn ddiamau eich bod yn hysbus o'r ymladdfa galad sydd wedi ei hymladd eich hun. Gallaf eich hysbysu fy mod wedi bod yn wrthruch o dosdiri gost anfeidrol trwm yr holl beryglon fel na chawdd yr un niwed gyffwrdd a fy mhaball. Yr wyf yn ceisio cydnabod yr arglwudd am ei ofal mawr amdanaf. Mae ein byddin wedi bod yn orchfygol ar bob point. Yr ydym wedi cymeryd tua 27000 yn garcharorion a thua 52 cannons. Tydi ddim iws imi dreio rhoi yr hanes i chwi o ran mi rydych wedi gwelad yn y papurau yr holl hanas eich hun.

Mi roedduch yn son am fund i'r hen wlad. Mae yn sicir eich bod yn gwybod am eich amgylchiadau yn well na mi ond mi [...] ddim yn meddwl y gallwch ei gwneud i dalu i chwi. Ond os yduch am fyned mi liciwn i chwi aros tan bo fy amsar i fynu yn yr army fel ac y gallwn i fund hefo chwi os byddwn yn teimlo felly y fynud hynu.

Mi rwyf yn meddwl os budd i fy hun ddal a fy iechyd gael ei gadw tan mis Awst am brynu tim o geffyla a wagan a dod i Minnesota yn y ffol ac os gallaf gael pisin o dir yn agos i chwi mi driaf i gael. Ond os na allaf mi rwuf yn meddwl y gallaf wneud gwell buwoliaeth yn Minnesota hefo tim o geffyla cryfion nac wrth weithio wrth y mis.

Ni toes gen i ddim bud neilltol i'w ysgrifenu. Cofiwch fi at Jane a'r plant yn y modd caredicaf a cymerwch ran i chwi eich hunan. Terfynaf mewn cariad atoch oll.

Eich diffuant frawd, Owen.

Please write soon to Chattanooga.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý