Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Bryn y Castell, Ffestiniog

Bryn y Castell: © Hawlfraint y Goron CBHC

Mae'n werth ymweld â Bryn y Castell. Cloddiwyd y fryngaer fechan yma ger Ffestiniog yn 1979-85 ac ers hynny mae'r rhagfuriau a rhai adeiladau o'i mewn wedi'u hail adeiladu yn rhannol, gan roi syniad da o sut y gallai fod wedi edrych.

Oherwydd hyn mae'n werth mynd i weld Bryn y Castell. Wrth fynd i mewn i'r gaer, sylwch ar y cerrig sy'n nodi'r tyllau pyst a oedd unwaith yn cynnal cilbyst mawr. Yn ystod Oes yr Haearn, byddai'r tu mewn i'r gaer yn orlawn o adeiladau amrywiol.

Mae gwaith cloddio ar y safle wedi esgor ar dystiolaeth werthfawr o fwyndoddfa haearn, oddi mewn i'r gaer ac mewn cwt crwn. Chwiliwch am y tai crwn siâp malwen - mae archeolegwyr yn credu mai yma oedd yr efail a'r fwyndoddfa haearn. Mae adeiladau eraill wedi'u marcio gan gerrig crynion ac mae'r hen waliau o bolion pren yn awr wedi'u nodi gan gerrig syth.

Mae'r dystiolaeth yn dangos fod y safle yn cynhyrchu haearn yn niwedd Oes yr Haearn ac yn y cyfnod yn fuan ar ôl goresgyniad y Rhufeiniaid. Byddai'r Celtiaid yn defnyddio mwyn haearn o'r gors islaw'r mawn sy'n amgylchynu'r bryniau ar gyfer mwyndoddi a gweithio haearn.

Cyfarwyddiadau
Dilynwch y B4391 tuag at y Bala o Ffestiniog. Wedi 1.9 cilometr, trowch i'r chwith ar groesffordd i lôn â giât arni. Gallwch barcio'r car yr ochr draw i'r gweithfeydd dwr, wrth groesffordd y traciau. Dilynwch y trac sy'n mynd i'r dde i Fryn y Castell. Mae'r fynedfa ar yr ochr ogleddol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý