|
|
|
Straeon Huw Bu Huw Gruffydd Roberts o Bentre Ucha ond bellach yn byw yng Nghricieth, yn gweithio i Gymdeithas Amaethwyr Eifionydd am 25 mlynedd. Dyma rai o'r ymadroddion a'r straeon difyr mae'n eu cofio o'r cyfnod. |
|
|
|
Gofyn i gwsmer a alwai yn y warws:
"Sut ydach chi heddiw?"
"Digon ryw frith 'fachgan;"
Yr un cwestiwn i un arall.
"Digon balch a thlawd," fyddai ateb hwnnw yn ddi-eithriad.
Yn fuan wedi i mi ddod i'r warws yn Chwilog, ac heb ddod i adnabod pawb wrth eu henwau, a lle 'roedd cwmni arall yn gwerthu glo.
Un yn gofyn imi, "Welaist ti 'Dafydd Cerrig Drudion' hyd y fan yma?"
"Naddo wir, dwi ddim yn ei nabod o rwy'n meddwl."
"Mae pawb yn nabod 'Dafydd Cerrig Drudion,' ond mae o yn dweud mae glo mae o'n werthu!"
Wrth gws 'roeddwn yn adnabod y gŵr wrth ei enw priodol. Portar yn Stesion yn pwyso llwyth oedd yn mynd allan gan fasnachwr arbennig, a hwnnw yn dueddol o sefyll ar gwr y glorian - a meddai'r portar:
"Newch chi 'symud o fa'na."
Meddai'r masnachwr: "Wyt ti'n deud m'od i'n lleidr?"
A'r ateb: "Nac ydwyf, ond 'does arnaf ddim eisiau i neb arall gael dweud!"
Cymeriad arbennig arall, a'i ofyniad: "Oes gen ti 'rwbath yma nad oes ar neb ei eisiau?"
Yr awgrym oedd, nadoedd, waeth iddo ef ei gael am - am ddim wrth gwrs, gan ychwanegu:
"Mae gen i hen lyfr yn y tÅ· acw (gan gyfeirio at y Beibl) ac mae o'n deud yn hwnnw y dylen ni helpu ein gilydd!"
Cyrraedd fferm a'r tywydd yn wedi bod yn wlyb am gyfnod a phob man yn fwdlyd dan draed, y wraig yn fy nghyfarch yn y drws gyda: "Dowch i mewn," yn groesawgar.
"Na wir, mae'n nhraed i yn fudur iawn."
"O dim rhaid i chi dynnu eich sanau," meddai.
Gwraig yn mynd i siop John Williams, Penlan, Pwllheli - y siop y byddai blawd llif yn cael ei daenu ar y llawr, ac yn cario i'r stryd wrth i chwi gerdded allan, ac yn pwysleisio yr hoffai gael 'cig mochyn cartra'.
"Siŵr, popeth yn iawn," meddai'r hen siopwr. Wrth droi allan meddai'r wraig: "Ia, 'roedd o'n fochyn cartra yn doedd."
"Oedd yn tad," meddai yntau, "ond fod ei gartra dipyn yn bell." (Danish)
Ifan David Evans, Coed Cae Gwyn, Llangybi yn trafeilio yn ei hen gar yn gyson trwy groeslon TÅ· Newydd, Pencaenewydd yn y cyfnod pan na oedd hawl blaenoriaeth i'r naill ffordd na'r llall.
Ond un dydd bu gwrthdrawiad, a dywedodd Ifan David: "Bu inni ddigwydd cyfarfod ar adeg ychydig bach yn anghyfleus."
Meddai'r gyrrwr arall: "Ble rydych yn trïo mynd ddyn?"
Ac meddai Ifan yn ei addfwynder, gan weld y dŵr yn llifo o'r radiator: "Mae'n edrych yn debyg nad â'i unman rwan!"
Wil Vaughan wedi colli dafad, ac yn cerdded y ffordd i chwilio amdani ac yn gofyn i hen fachgen oedd yn torri metlin (cerrig a ddefnyddwyd i drwsio'r ffyrdd cyn amser y tarmac).
"Welaist ti ddafad yn pasio gyda 'V' ar ei chefn?" holodd Wil.
"Mae'n rhaid ei bod yn gythral o un gre'," meddai hwnnw.
Gŵr a gwraig yn teithio mewn car, ac wedi anghydweld ar ryw bwynt, ac yn trafeilio am bellter heb i'r un dorri gair.
Yn sydyn meddai'r wraig wrth weld mul yn y cae: "Yli, dy frawd."
Ac meddai yntau, "a'th frawd yng nghyfraith ditha!"
'Roeddwn yn teithio adref o Bwllheli i Bentre Uchaf ar fws Llithfaen.
Wrth droi yn yr Efail Newydd, dyma rhywun yn nodi gyda rhyfeddod y nifer o dociau tyrchod oedd yng nghaeau fferm y Penllwyn.
Ar hynny dyma Griffith Williams, Y Gwnys, ar ei draed, ac yn ei ffordd unigryw yn dweud: "Dowch i Gwnys, mae acw dociau fuasai yn baglu eliffant!"
Parch Morgan Griffith, Pwllheli, yn pregethu, a phlentyn bach ar lin ei fam yn torri allan i grïo ac aflonyddu.
Cododd y fam i fynd ag ef allan, a Morgan yn ymateb: "Dowch a fo i'r set fawr yma, mi gysgith hefo'r rhain!"
Hen fachgen byr o gorff wedi meddwi yn o arw, yn cael ei hebrwng gartre gan ddau o'i ffrindiau, un o bobtu yn hanner ei gario.
Yr hen heddwas Lymley Jones yn eu cyfarfod, a dweud: "Wedi meddwi heno eto?"
Ac meddai Wil: "Ia, ac yn cael trafferth i fynd â'r ddau yma adra!"
Gwraig i yrrwr bws wedi cael efeilliad - er syndod iddo, dwy ferch fach.
Gofynnodd un o'i gydweithwyr iddo; "Beth wyt am eu galw?" ac meddai; "Un yn Kate a'r llall yn Duplicate." Yn Sychnant, Pentre Uchaf roeddwn yn cael gwasanaeth i'm car a gŵr o Sais yn aros am ran i'w gerbyd.
Dyma Twm (Tomos Gwilym Griffith) yn dod oddiwrth y ffôn wedi cael gwybodaeth na ddaethai'r rhan am ryw awr, ac meddai'r Sais yn ddigon siriol: "I'll hang around Tom," ac meddai Twm yn syth: "I'm sure you'll find a rope somewhere!"
Blaenor a weithiai gyda'r ffyrm boblogaidd o'r de 'Corona' ac a ddaliai ar bob cyfle i ganmol y diodydd ysgafn hynny, hyd yn oed yng nghyfarfodydd y Capel.
Apeliwyd arno i beidio, ac addawodd ymatal, ond pan ddaeth cyfarfodydd crefyddol dechrau blwyddyn ac yntau yn llywydd y mis, cyhoeddodd:
"Emyn 666, Corona eto'r flwyddyn hon!"
Stori Potchar, yn cael ei ymlid gan gipar yr afon, gan alw arno: "Stopia, rwy i wedi dy 'nabod 'di." Ac meddai'r potchar: "Stopia 'di - 'does yna neb ar d'ôl 'di!"
Un arall yn cael ei ddwyn o flaen Llys am ei drosedd - ond yn gwadu. Meddai Cadeirydd y Llys wrtho: "Sut y gallwch chi wadu nad aethoch drwy'r afon â'ch dillad yn socian o wlyb?"
"Gwlith syr," meddai'r troseddwr.
Roedd teulu Tomos Jones, Plas Du, Chwilog yn dal i gynyddu ac meddai cymydog iddo:
"Pryd wyt ti am stopio cael plant?"
"Wedi i mi gael tîm fwtbol," meddai yntau.
Ymhen amser 'roedd un arall ar y ffordd, ac meddai Tomos: "Roedd yn rhaid cael reffari!"
Roedd y Bardd, y Parch R.S. Thomas yn aros am fws o Aberdaron i Bwllheli.
Fe ddaeth bws mawr a neb ond y gyrrwr ynddo ac meddai R.S. Thomas: "Fyddai ddim yn well i chi gael 'Mini Bus?'
Ateb y gyrrwr: "Fyddai yn well i chi gael 'Mini Church?"
William Hugh, fy ewythr, wedi cael gwybod fod ei lyfr pensiwn wedi cyrraedd y post ac meddai yn siriol wrth Williams y Post Feistr:
"Rwy'n disgwyl am hwn ers pan oeddwn yn un-ar-bymtheg oed!"Rhan o sgwrs gan Huw Roberts.
|
|
|
|
|
|