Un o arwyr y bêl hirgron a chwaraeodd dros Gymru a'r Llewod.
Ganwyd Dewi Iorwerth Ellis Bebb, mab yr hanesydd enwog W. Ambrose Bebb ym Mangor ac yno y cafodd ei addysg hefyd. Ar ôl cwblhau ei wasanaeth milwrol, aeth i Goleg y Drindod, Caerfyrddin ac yna i Gaerdydd i hyfforddi'n athro.
Chwaraeodd gyntaf i dîm rygbi Abertawe mewn gêm yn erbyn Llanelli ar 11 Hydref 1958 a hynny ar yr asgell chwith. Roedd yn gapten ar Abertawe o 1963 i 1965 ac fe chwaraeodd mewn gemau allweddol i'r clwb fel yn erbyn y Springboks yn 1960, y Crysau Duon yn 1963 ac Awstralia yn 1966.
Er iddo symud i fyw i Gaerdydd yn ystod y chwedegau ac er gwaethaf diffyg llwyddiant y clwb, fe fu Dewi yn ffyddlon i Abertawe. Fe chwaraeodd mewn 221 o gemau drostyn nhw gan ennill 87 cais ac ymddangos am y tro olaf mewn gêm yn erbyn Pontypŵl ar 22 Ebrill 1967.
Ond fe ddechreuodd Dewi ei yrfa ryngwladol yn erbyn yr hen elyn sef Lloegr a chwarae yn eu herbyn am y tro olaf yn y crys coch hefyd. Mae'r chwe chais a sgoriodd yn eu herbyn yn dal i fod yn record a rhwng 1959 ac 1967 enillodd 34 cap dros ei wlad a sgorio 11 cais.
Cafodd gyfle i fynd ar daith efo'r Llewod yn 1962 ac 1966, gan chwarae mewn dau brawf yn Ne Affrica, pedwar yn Seland Newydd, dau yn Awstralia ac un yng Nghanada. Fo oedd y prif sgoriwr ar daith 1966.
Yn ystod ei yrfa fe chwaraeodd Dewi dros nifer o dimau gan gynnwys Bae Colwyn, Biwmares, y Llynges a'r Barbaiaid.
Athro oedd o'n wreiddiol yng Nghaerdydd ond yn ddiweddarach aeth i fyd darlledu a newyddiadura. Bu farw ar 14 Mawrth 1996 ac yntau yn 57 oed.
Diolch yn fawr i Sioned o Gyffordd Llandudno am gynnig enw Dewi.
Ystadegau:
Ymddangosiad cyntaf dros Gymru: yn erbyn Lloegr 17 Ionawr 1959Capiau dros Gymru: 34Pwyntiau dros Gymru: 33Gemau i Abertawe: 221Pwyntiau dros Abertawe: 87