Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Celfyddydau
Llio Rhydderch
Llio Rhydderch

Magwyd: Bangor ac Ynys Môn

Addysg: Ysgol y Merched, Bangor a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth.


Telynores a chyfansoddwraig sy'n llysgennad i'r delyn deires drwy'r byd.

Daw Llio Rhydderch o linach o delynorion Cymreig sy'n mynd yn ôl genedlaethau ac fe gafodd ei thrwytho yn yr etifeddiaeth draddodiadol honno o oedran ifanc iawn.

Cafodd ei magu ar fferm Coed Mawr ym Mhenrhos ger Bangor, a fferm Aberlleiniog ym Mhenmon, Ynys Môn.

Roedd ei thad, Prydderch Williams, yn faledwr a chanwr penillion a fu'n feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac fe gafodd Noson Lawen y Â鶹Éç ei chynnal droeon ar fferm y teulu ym Mhenrhos. Oddi yno y darlledwyd y Noson Lawen gyntaf erioed ar y radio pan oedd Llio yn fabi.

Dechreuodd ganu'r delyn yn wyth mlwydd oed a chafodd ei dysgu gan feistres y delyn deires, Nansi Richards, Telynores Maldwyn.

"Roedd fy athrawes delyn, Nansi Richards, yn perthyn o bell," meddai Llio mewn cyfweliad arbennig efo Lleol.

"Byddai'n dod i aros ar y fferm yn aml pan fyddai'n gweithio gyda'r Â鶹Éç ym Mangor ac felly fe fyddai ei thelyn yma yn y tÅ· ar yr adegau hynny."

Yn 15 oed, enillodd wobr telyn arian Mostyn am unawd agored ac ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr un flwyddyn.

Llio Rhydderch (ar y dde eithaf) yn perfformio ar lwyfanAeth ymlaen i astudio Cymraeg a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ac, ar ôl graddio, aeth yn athrawes Gymraeg. Symudodd i'r Bontfaen gyda'i gŵr a bu'n dysgu yn y de am 12 mlynedd cyn dod yn ôl i fyw yn y gogledd i ofalu am ei rhieni.

Yn rhyfeddol, dim ond tua deng mlynedd yn ôl y gwnaeth hi ailafael yn y delyn o ddifri.

Erbyn hyn cydnabyddir ei bod wedi etifeddu mantell Nansi Richards, ac mae'n trosglwyddo'i chrefft i Delynwyr Llio, grŵp o delynwyr ifanc sy'n cael eu dysgu, fel y cafodd hithau, yn y dull traddodiadol o wrando a dehongli yn hytrach na darllen cerddoriaeth ysgrifenedig.

Mae Llio wedi cydweithio a pherfformio ag artistiaid o wahanol draddodiadau: cerddorion o Mali, Madagasgar, Irac a Thibet yn eu plith. Perfformiodd hefyd ag unigolion fel John Cale ar gyfer y ffilm Camgymeriad Gwych; Andrew Cronshaw yn ei brosiect diweddaraf, Ochre; Donal Lunny a Lesley Garrett i enwi dim ond rhai.

Yn ogystal â chyfrannu traciau i gryno ddisgiau aml-gyfrannog, fel CD Cwpan Rygbi'r Byd 1999, mae wedi cyhoeddi tri CD unigol: Telyn, Melangell ac Enlli.

Mae hefyd wedi ymddangos mewn gwyliau ar draws y byd, o Efrog Newydd i Rufain, gyda myrdd o artistiaid gwahanol.

Does dim syndod felly ei bod yn dweud ei bod yn cael trafferth dewis uchafbwyntiau ei gyrfa gerddorol: "Roedd gweithio efo John Cale yn brofiad, ac hefyd ffilmio'r cyngerdd efo Lesley Garrett yn y Round House yn Llundain. Roedd chwarae ar wahoddiad Radio 3 yng Ngŵyl Ryngwladol Caeredin ac yng Ngŵyl Delynau Caeredin hefyd yn uchafbwynt.

"Mae cymaint o bethau bendigedig wedi digwydd i mi - mae'n fraint cael fy ngwahodd i wneud cymaint o bethau."

Mae ei cherddoriaeth hefyd wedi ymddangos ar raglenni radio a theledu ar Â鶹Éç 2, Â鶹Éç Radio 4 a Radio 3 ac S4C.

Mae wedi cyhoeddi sawl CD o'i gwaith: "Fydda i byth yn ysgrifennu'r gerddoriaeth i lawr ar bapur - mae'r cwbl lot yn fy mhen. Mae pobl yn gofyn sut y galla i recordio CD fel hynny - ond rydw i'n ei weld fel perfformiad. Mae pob un perfformiad yn wahanol, a'r gerddoriaeth yn newid trwy'r amser."

Mae mwy o wybodaeth am Llio Rhydderch, ei gwaith a'r artistiaid mae wedi cydweithio â nhw ar ei gwefan; mae'r ddolen yn y golofn ar ochr dde'r dudalen hon.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý