Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Celfyddydau
Gwyn Hughes Jones
Gwyn Hughes Jones

Ganwyd: 25 Hydref 1969

Magwyd: Llanbedrgoch, Ynys Môn

Addysg: Ysgol Llangefni


Tenor opera

Dechreuodd Gwyn Hughes Jones ar ei yrfa ganu fel bariton ac astudiodd yn Llundain, yn Ysgol Gerdd a Drama'r Guildhall a'r Stiwdio Opera Genedlaethol.

Fel Bryn Terfel o'i flaen, fe enillodd wobr bwysig Kathleen Ferrier ym 1992. Enillodd hefyd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Neue Stimmen yn Gtersloh, gwobr Cyngor Celfyddydau Cymru i gantorion ifanc o Gymru ym 1996 ac fe gynrychiolodd ei wlad yn rownd derfynol Canwr y Byd yn 1997.

Ond tenor ydy Gwyn bellach, ac mae'n astudio efo David Pollard.

Dechreuodd ei yrfa broffesiynol operatig gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn canu Ismaele Nabucco. Mae wedi perfformio droeon gyda'r Cwmni fel y Dug yn Rigoletto a Don Giovanni yn Faust gan Gounod.

Rhoddodd ei berfformiad cyntaf yn Ewrop fel Camille de Rossillon yn Die Lustige Wite gyda chwmni Opera National de Paris yn 1991 ac yn America fel Fenton Falstaff i Opera Lyric Chicago.

Ymhlith uchafbwyntiau ei yrfa mewn cyngherddau, roedd ei berfformiad o Ode to Joy o Symphony Rhif 9 gan Beethoven yn seremoni agoriadol Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Nagano Japan a pherfformiad gala yn Teatr Amazonas, Manaus, Brazil.

Fe ymddangosodd yn sioe Proms y Â鶹Éç am y tro cyntaf yn 2001 yn canu yn Serenade to Music, Vaughan Williams, ar y noson gyntaf.

Mae wedi recordio Curlew River gan Britten i Collins Classics yn ogystal â dwy CD ar label Sain.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý