Os am wybodaeth am eich prif sioeau lleol chi yn ystod y flwyddyn, cliciwch ar y misoedd: Mai,
Mai,Mehefin, Gorffennaf, Awst, Medi a Tachwedd.MAI
North Wales Garden and Country Fair
23 i 25 Mai 2009 (penwythnos GwÅ·l Banc y Gwanwyn)
Parc Neuadd Kinmel, St George, Abergele
Gwefan:
Digwyddiadau: arddangosfeydd garddwriaethol, dangos cŵn, rasio anifeiliaid, crefftau, cerddoriaeth, dawnsio a stondinau.
Sioe Amaethyddol LlÅ·n a'r Cylch (Sioe Nefyn)
4 Mai 2009 (Gŵyl y Banc)
Caeau fferm Botacho Wyn, Nefyn
Digwyddiadau: Cystadlaethau gwartheg, defaid, dofednod, anifeiliaid bach, coginio, gwaith crefft. Bydd hefyd arddangosfa o hen geir a pheiriannau ac arwerthiant cist car.
MEHEFIN
Sioe Amaeth Dyffryn Ogwen
13 Mehefin 2009 (ail Sadwrn ym Mehefin)
Caeau Dôl Ddafydd (caeau Clwb Rygbi Bethesda)
Digwyddiadau: Merlod, dofednod, cŵn, dychweliad y dosbarthiadau geifr a defaid wedi'r clwy a chystadlaethau coginio, gwneud ffon fugail, cawio plu a rasys sach ac ŵy ar lwy i'r plant, stondinau.
GORFFENNAF
Sioe Amaethyddol Gogledd Cymru
04 July 2009 (Sadwrn cyntaf yng Ngorffennaf)
Cae Du, Ffordd Bethel, Caernarfon
Digwyddiadau: Nifer o ddosbarthiadau ceffylau ac adrannau daeargwn a chŵn potsiwrs (lurchers), dofednod, defaid. Bydd hefyd rasys daeargwn, arddangosfa gyrru ceffyl a chart, cystadleuaeth ffotograffiaeth, coginio, crefftau, blodau a llysiau.
AWST
Sioe Môn
11-12/08/08 (yr ail ddydd Mawrth a Mercher yn Awst)
Maes y Sioe, Gwalchmai
Digwyddiadau: Dosbarthiadau gwartheg, moch, defaid, ceffylau, ieir, cwningod a cholomennod. Hefyd, cystadlaethau codi wal gerrig sych a chŵn hela a bydd y babell gynnyrch yn ganolfan i'r cystadlaethau llysiau, blodau a choginio.
Sioe Eglwysbach
8 Awst 2009 (ail Sadwrn yn Awst)
Cae Henblas, Eglwysbach
Digwyddiadau: Dosbarthiadau bridiau prin, gwartheg, defaid a cheffylau a chystadlaethau blodau, cynnyrch yr ardd, coginio, mêl a gwinoedd. Bydd hefyd ffair, adloniant i'r plant ac arddangosfa gelf yn ysgol gynradd y pentref.
Sioe Aberhosan
20 Awst 2009 (trydydd dydd Iau yn Awst)
Digwyddiadau: Sioe gŵn, ceffylau, defaid, gwartheg a ieir. Yn y babell mae cystadlaethau coginio, garddio a chystadlaethau i'r plant.
Sioe Wledig Llanrwst
15 Awst 2009 (trydydd Sadwrn yn Awst)
Caeau TÅ· Gwyn, Ffordd Betws, Llanrwst
Digwyddiadau: Gwartheg, defaid, ffwr a phlu, gymkhana a chystadlaethau coginio, llysiau a thrin blodau.
Sioe Amaethyddol Dinas Mawddwy
22 Awst 2009 (y Sadwrn cyn WÅ·l y Banc)
Y caeau yn agos i Ysgol Dinas Mawddwy
Digwyddiadau: Dosbarthiadau defaid, treialon cŵn defaid, coginio, garddio ac 'It's a knock out'.
North Wales Town & Country Fair
29 i 31 Awst 2009
Parc Neuadd Kinmel, St George, Abergele
Gwefan:
Digwyddiadau: Neuadd bwyd a chrefftau, Punch a Judy, arddangosfeydd cŵn defaid, gyrru cart a cheffyl, rasio geifr a rasio hwyaid.
Sioe Meirionnydd
26 Awst 2009
Y lleoliad i'w gadarnhau
Sioe Amaethyddol Dinas Mawddwy
23/08/08 (Y Saturday cyn Gŵyl y Banc mis Awst)
Caeau ger Ysgol Dinas Mawddwy
Digwyddiadau: Dosbarthiadau defaid, treialon cŵn defaid, cystadlaethau coginio a garddio, mabolgampau a mabolgiamocs.
Sioe Cylch Pennal
29 Awst 2009 (dydd Sadwrn Gŵyl y Banc)
Caeau Esgairweddan, Pennal
Digwyddiadau: Dosbarthiadau cŵn, ceffylau, defaid a chystadlaethau cneifio, blodau, crefft, coginio a llysiau gardd.
Sioe Llansannan
31 Awst 2009 (dydd Llun Gŵyl y Banc)
Cae Hendre Llan, Llansannan
Digwyddiadau: Dosbarthiadau Defaid, Ceffylau a Chŵn Defaid. Hefyd, Adrannau Crefft, Coginio, Gardd a Blodau, Ieir a Cneifio.
MEDI
Sioe Cerrigydrudion
5 Medi 2009 (Sadwrn cyntaf ym Medi)
Caeau Gwynfa, ger Cerrig
Digwyddiadau: Gwartheg, defaid, ceffylau, gymkhana a chystadlaethau coginio, garddio, gwaith celf a threfnu blodau. Bydd hefyd groeso i bawb ddod a'u hen beiriannau i'w harddangos.
Sioe Corris
05 Medi 2009 (Sadwrn cyntaf Medi)
Ysgol Gynradd Corris
Digwyddiadau: Cystadlaethau garddwriaethol
Sioe Trawsfynydd
5 Medi 2009 (Sadwrn cyntaf ym Medi)
Cae Glasfryn
Digwyddiadau: Cystadlaethau ŵyn hyrddod, defaid a 'sbinod ac adrannau coginio, llysiau a chrefftau yn neuadd y pentref.
Sioe Hydref Cymdeithas Garddwriaethol Bae Colwyn
21 Medi 2009
Neuadd Eglwys Fethodistaidd Rhos, Ffordd St George's, Rhos-on-Sea, Bae Colwyn
Digwyddiadau: Garddwriaeth, cynnyrch cartref, ffotograffiaeth a chystadlaethau plant.
TACHWEDD
Sioe Aeaf Môn
22 a 23 Tachwedd 2009
Yr adeiladau ar faes y sioe, Gwalchmai
Digwyddiadau: Dosbarthiadau da byw a chystadlaethau addurno blodau a choginio.