|
|
|
Maharishi Fel Kentucky AFC, gerbil sy'n cysgu drwy'r dydd ac i fyny drwy'r nos ydy Maharishi yn ôl Euron Jones (ar y chwith), sydd eisiau cynnal gig ar gopa'r Wyddfa. |
|
|
|
Aelodau
Gwilym Davies sy'n canu, Richard Durrell sy' ar y bâs, Danny Morrison sydd ar y drums a dwi (Euron) yn chwarae'r gitâr.
O lle
Dwi'n dod o Lanrwst, mae Gwilym o Lansannan, Rich o Ruthun a Danny o Fethesda.
Pryd wnaethoch chi ffurfio?
1998.
Pam ddaru chi ffurfio band?
Roedd Rich, Gwil a fi yn y coleg ym Mangor efo'n gilydd a gan fod ganddon ni gymaint o amser ar ein dwylo, mi ddaru ni ffurfio band. Gadawodd y drymiwr gwreiddiol ar ôl coleg, a mi wnaeth Danny ymuno efo ni.
Gig gwaetha
Mi ddaru ni a rhai bandiau eraill fel Estella droi fyny i gig yng Nghaerfyrddin, ond doedd y trefnwr ddim yn deall 'i betha a dweud y gwir! Wnaeth neb droi fyny - a ddaru ni gyd fynd adref!
Gig gorau
Maes B, Steddfod Llanelli. Roedd y gig mewn ryw garej enfawr ac roedd y s?n yn lot gwell na'r marcîs arferol.
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Pob math, o'r Beatles i'r Super Furries a'r Beach Boys.
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Gwil sy'n cael y syniad gwreiddiol ac mi fydd pawb arall yn taflu syniadau i mewn hefyd.
Be ydych chi'n ei wneud ar ôl gig?
Cael 'chydig o beintiau. Mae'n hwyr pan da ni'n gorffen fel arfer, felly mae'n rhaid i ni yrru adref.
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Britney Spears.
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Mae bandiau fel y Cyrff o Lanrwst wedi dylanwadu arna i.
Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Gerbil - cysgu trwy'r dydd, ar ein traed trwy'r nos.
O lle ddaeth yr enw?
Fi feddyliodd amdano. Mi ddaeth guru o'r enw Maharishi i Fangor, a dysgu meditation a ballu i'r Beatles ac eraill.
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Melodig, catchy, chilled.
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Ar ben y Wyddfa.
Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Dim llawer!
|
|
|
| |
Olivia o Ysgol Y Strade chi yw fy hoff grwp roc yn y byd i gyd! Rwy'n caru chi! Fri Feb 8 13:10:40 2008
Glesni Llwyd Fi'n caru Maharishi yn fwy na Defid. Sat Apr 30 18:45:09 2005
Rob James o Gaerffili Mae fy mab eisiau prynu copi o'ch CD, 'Ystafell llawn mwg'. Mae Sain wedi dweud nad oes copiau ganddyn nhw mwyach. O ble allwn ni gael copi?
Diolch.
Tue Mar 29 12:49:26 2005
Manon Elain o Rhuthun Caru Maharishi, a rili edrych mlaen at fynd i Lanast i weld nhw a cael sesh go iawn de wa! Wed Nov 10 17:03:33 2004
| |
|
|
|