麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y S卯n Roc

麻豆社 Homepage
麻豆社 Cymru
麻豆社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

麻豆社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Frizbee Frizbee
Ywain Gwynedd, prif leisydd Frizbee, sy'n s么n am ei arwyr a'i hoff gigs, er mai dim ond hanner y stori tu 么l i enw'r band gawn ni ganddo fo ....
Aelodau
Owain Jones ar y b芒s, Jason Hughes ar y dryms a fi (Ywain Gwynedd - dde) yn canu ac yn chwarae'r git芒r.

O lle
Ardal Ffestiniog - er nad oes 'run ohonon ni o Blaenau ei hun! Dwi o Llan Ffestiniog ac Ows Coch o Danygrisiau, fel hogia Anweledig ac Estella. Mae J yn dod o dros y Crimea yn Nolwyddelan, er ei fod wedi ei fagu yn Llan a 'da ni wedi bod yn ffrindiau ers talwm.

Pryd wnaethoch chi ffurfio?
2003.

Pam ddaru chi ffurfio band?
Roedd Jase a fi yn yr ysgol fach efo'n gilydd, ac ro'n i yn yr ysgol uwchradd efo Owain. Er fod J wedi symud i Ddolwyddelan, mi ddaru ni ddod yn ffrindiau da efo Owain.

Ddaru ni weld Stomp Radio Cymru efo Owain a Dylan cwpwl o flynyddoedd yn 么l a meddwl y byse ni'n rili hoffi cymryd rhan, a chwarae o flaen gymaint o pobl.

Roedd Ows wastad wrth ei fodd efo miwsig. Mae ei frawd mawr, Phil Jones, yn aelod o Estella. Ond yn y cychwyn, doedd J nac Ows ddim yn gallu chwarae offeryn felly ddaru Ows benderfynu dysgu'r git芒r f芒s ac roedd gen i hen set o ddryms i J eu defnyddio.

Gig gwaetha
Dweud y gwir yn onast, Stomp Stiniog. Ni oedd y band cyntaf am 11:30 y bore. Doedd neb yna, ddaru amp y b芒s chwythu ac wedyn mi ddaru hi gychwyn bwrw! Ond roedd o'n swnio'n reit dda ar Radio Cymru wedyn felly doedd o ddim mor ddrwg yn y diwedd!

Gig gorau
Mae o rhwng dau. Mi ddaru ni agor gig Anweledig yn Eisteddfod Casnewydd a dyna'r tro cyntaf i ni weld lot o bobl yn canu ein caneuon. Daeth dros gant o bobl i'r blaen i wrando arnon ni.

Ond yr un mor dda a hwnna, mewn ffordd wahanol, oedd gig yng nghlwb rygbi Dolgellau y dydd Sul ar 么l Sesiwn Fawr. Pawb yn dawnsio ar ben y byrddau a'r lle yn llawn.

Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
'Da ni gyd i fewn i Supergrass ar y funud, yn enwedig yr albwm ddiweddaraf i ddathlu bod efo'i gilydd am ddeng mlynedd, a phob trac yn glasur.

Ddaru nhw gychwyn fel three piece, fel ni, a nhw sy'n setio'r safon. Maen nhw mor broffesiynol.

Mae'r Gogz yn fand gwych hefyd. Maen nhw 'di'n helpu ni lot ers i ni gychwyn, yn chwarae'r dryms wrth i J ddysgu a wastad yn gofyn i ni chwarae efo nhw. Maen nhw'n hogia gr锚t.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Fi sy 'di sgwennu'r naw c芒n ar yr albwm gyntaf, gan fy mod wedi sgwennu lot o ganeuon cyn i Jase ag Ows ddysgu sut i chwarae'r offerynnau yn iawn. Ond roedd trac wyth, Dora Gusan, yn combined effort rhwng Ows a fi. Mae o 'di dod yn un sy'n gallu dod i fyny efo hooks a baselines gwych.

Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Mynd adre a chysgu! Da ni weithiau yn cael cwpl o beintiau i fynd mewn i'r un m?d a phawb arall ond dim gormod.

Dydi o ddim yn roc a r么l iawn gan fod J yn gorfod codi'n gynnar i weithio yn y chwarel.

Dwi'n gweithio'n rhan amser mewn swyddfa a mae Ows yn gweithio mewn ffatri wl芒n dros yr haf.

Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Y Sugar Puff monster!

Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Ar 么l i ni ddefnyddio tromb么n a chornet ar yr albwm mae rhai wedi dweud ein bod ni'n adlewyrchu ein hardal ac mae hynny'n wych i'w glywed.

Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Piwma, gan fod ganddyn nhw egni!

O lle ddaeth yr enw?
Ga' i'm deud! Wel, mae 'na fersiwn fudr ac un gl芒n! Mae Frizbee yn un o'r geiriau 'na sy'n colli ei ystyr os 'da chi'n ei ddweud drosodd a throsodd, yn debyg i 'carreg'. Yn 么l un ffrind, bob tro mae'n gweld y gair 'frizbee' r?an dydi o ddim yn meddwl am y petha da chi'n eu lluchio, dim ond amdanon ni!

Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Egn茂ol, hwyl, ymmm!

Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Ar ben y Crimea.

Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Mae fy nghariad newydd sythu fy ngwallt cyrls. Mae ganddon ni gig yn Ninas Mawddwy heno a dwi am dr茂o rhywbeth gwahanol! Roedd o'n lyfli - mi fyswn i'n gallu cysgu r?an!


Cyfrannwch

lisa jones port
newchi prodi fi bbzxxxxxxxxxxxxxx
Tue Feb 26 10:13:52 2008

Llio Dudley! O Garn!
O MAI GOD!!Dwin lyfioo chi i gyd!espesiali y drymar!dachi gyd yn realy del de!lol a miwsic chi jyst yn amazing!!see you soon gobithio!!xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxcaru chi loadss!!
Mon Feb 25 18:44:18 2008

Laura Mynytho
Hei Hogia... Da chi'n wych. Un o'r bandiau gora dwi wedi gweld sy'n canu yn Gymraeg! Tro dwytha welish i chi oedd y Tan y Ddraig(roedd hona yn noson wych). Chi oedd y band gora oedd yna. Gobeithio welai chi flwyddyn nesa.
Fri Dec 7 14:22:16 2007

llio lloyd williams, cwm strad
dwin rili licio caneuon chi, ma nw jest yn neud fy mywyd i yn complete! maent yn gyrru ias oer i lawr fy nghefn! welai chi rywbryd eto, efallai yn y faenol y blwyddyn nesaf.
Tue Oct 16 21:34:58 2007

Cai Parry O Brenteg
hello! Rydw i'n meddwl fy modi'n gaeth i'ch cerddoriaeth mae geni ofn! Mi fyswn yn falch iawn o gael y cyfle i wrando ar eich cerddorieth yn fyw ond mae geni ofn unwaith eto, fod gen i ddim yr arian i wneud hyn! felly, mi fyswn yn hoffi i chi ddod draw am baned riw bryd a rhannu cymorth i fy mhlentyn sydd yn breuddwydio am fod yn ganwr enwog!
Tue Sep 18 18:32:00 2007

Ceeeeet Haf a Mari o Fro Ddyfi
Mei'n hen bryd i weld Frizbee yn dod nol i ardal Machynlleth. De ni di cel digon o fflio o gwmpas Cymru i ddod i weld chi....pwy sy isio mynd i Bankock a nol bob wthnos! Gwir ffans Frizbee....xxxxx
Mon Jan 22 09:11:12 2007

arwel, felinheli
ywain, ti'n cofio fi o coleg menai, tim football? pan gesdi gash yn dy shin yn south wales dwi'n meddwl, gorfod mynd a chdi i'r ysbyty? ma na tua 5 mlynedd ers hynu.. pob lwc i chdi a dy fand yn y dyfodol met.
Thu Nov 16 21:18:07 2006

huw willz o blaenau ffestiniog
dal ati bois, da chi yn class ! band gora y byd i v
Wed Nov 8 19:10:38 2006

Elin a Helen o Sir Fon!
Helo hogia!!!!! Jst isho deu bo chi'n wych!! unig air i ddisgrifio chi! enwedig yn royal welsh eleni!!:)Pryd ma'r albym nesaf yn dod allan????
Mon Nov 6 11:36:42 2006

Kelly Fleming (Felly Kleming) o Machynlleth
Wel helo hogia!! Dwi jest isho deud - dwi'n lyfio chi!!! Band gore rioed!! a dewch i neud gig yn Red lion Dinas Malddwy PLIS!!! Diolch! welai chi yna!! xxx
Wed Nov 1 11:34:03 2006

Marc caldecott o wrecsam
mae rhaid imi cyfadde wnes im licio chi ar y cychwyn ond ers i chi ddod i'n ysgol morgan llwyd dwi'n meddwl eich bod chi'n wych! dal ati bois! hoff ganeuon - ti, dyro gusan a heyla
Sat Oct 28 01:34:20 2006

Anna a Lois Porthmadog
Ni ydir fans fwya yn y byd dani wrth ein bodda yn gwrando ar y cd's. Nath y ni cal hwyl yn y gig yn Sesiwn Fawr, Porthmadog, Cricieth, Blaenau dal ati bois. Dani hoffi hefyd mynd i'r Traeth i gwylio Ywain yn chwarae pel-droed Pob lwc yn y dyfodol bois xxx
Tue Oct 24 11:01:36 2006

Francess, Andrew a Non
Da chi'n Wych!!!!!!!!! dim gair arall i ddisgrifio
Fri Oct 20 15:11:25 2006

Sian Lewis o Fachynleth
Bechgyn bech, oeddech chi'n WAW yn Ysgol Bro Ddyfi heddiw - y gig gore dwi erioed di gweld chi'n gwneud! yn y darn cyfweliad lle ma nhw'n gofyn be wyt ti'n neud rwan - a dweud bod gan chi gig yn Ninas Mawddwy. o ni yna!
Fri Oct 6 20:20:59 2006

Sion o Dde Cymru
Mae'r albwm newydd yn arbennig! Mi glywais chi am y tro gyntaf yn perfformio Heyla ar Uned 5! Arbennig bois!
Mon Aug 28 22:36:11 2006

Ellie Roberts o Prestatyn
Mae Frizbee yn rockio fy sannau!!Roedd y dydd yn llangollen yn yr eisteddfod yn gret! dw i'n caru nhw!! xxxxxxxxx
Thu Jul 6 19:25:03 2006

Fans Frizbee o Pen Llyn
Roedd Frizbee'n wych yn gwyl Pendraw'r Byd. Gobeithio fyddech yn ol blwyddyn yma. Ma'r albym newydd yn wych! Da iawn chi bois! Gutted o glywad bod gig chi yn Ty Newydd Sarn wedi ei ganslo!
Thu May 18 14:33:29 2006

Emyr o Llanuwchlyn
Dwi a fy ffrindia (Ednyfed a Rhydlis) wrth ein bodda gyda Frizbee, band gora cymru yn ein barn ni. pob hwyl yn y dyfodol hogia!!
Mon Apr 10 12:46:10 2006

Sian o Wrecsam
Waw!! Newydd clywed chi yn y Stiwt, ac wedi clywed chi o'r blaen yn y Talbot! Ddaru ni fynd yn wyllt pan wnest ti chwarae "Ti"!!! Dda i glywed eich bod chi o Llan 'stiniog (teulu o fanne.
Sat Feb 25 12:54:09 2006

Joyce Roberts o'r Parc ger Y BALA
Dwi yn gandryll nad oedd John ac Alun ar y brig. Mae nhw yn well na Frisbi ac yn fwy gorge!
Fri Nov 25 13:57:21 2005

Euros Rees o Bethel
Rydwi wrth fy modd hefo'r gwallt curls Ywain- dwi rioed di gweld canwr pop sy'n edrych mor unigryw!!
Thu Nov 24 16:23:29 2005

Ffion
Dwi jest eisio dweud i Ywain mor hapus ydw i ei fod o'n gneud mor dda!! Fues i yn Coleg Meirion Dwyfor gyda fo, a dwi'n colli ei gwmni yn fawr iawn.
Fri Sep 30 22:54:58 2005

Bob Owen o Traws
Iawn bois? Dwi di dod fewn i caneuon Frizbee yn y wythnos diwethaf, mae nhw efo few good songs. Dwi yn lyvio Yws Gwynedd!
Wed Sep 28 22:02:00 2005

Aberdaron
Nes i'm clwad chi yn canu yn gwyl Pendraw Byd, ond mi oedd pawb yn dweud eich bod yn dda! Gobeithio y gaf eich clwad yn rwla yn fuan!
Fri Sep 9 18:28:32 2005

Ffans mwyaf Frizbee!
Roedd y noson yn Borthmadog yn gret! Dan ni dal yn drist na newn ni ddim eich gweld chi yn sesiwn fawr!
Sun Jul 10 21:14:35 2005

Catrin,Elen a Bethan
Dan ni wedi bod yn darllen am dannoch chi a 'da ni'n drist bod gennych chi gariad! Plis peidiwch a sythu'r gwallt, mae o'n lyfli yn cyrli! Den ni wedi penderfynu i gel perm fel chi!
Wed Jun 29 09:38:35 2005

Rachel Robert o Llanrwst
Dani gyd yn Llanrwst yn lyfio gwrando arnoch chi a barod i'ch weld chi fory yn llanrwst
Tue Nov 23 15:00:03 2004


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r 麻豆社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
麻豆社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy