|
|
|
Estella Ai un teulu mawr neu s? ydy Estella? Phil Jones sy'n ateb ar ran y band sydd wedi dysgu o'u Mistêcs. |
|
|
|
Aelodau
Dwi ar y dryms (Phil), Robbie Buckley ar y bâs, Kaz Spencer ar y gitâr, ei frawd Asa ar y tamborîn, y gitâr ar allweddau, Lauren, eu chwaer, yn canu, Sharon ar percussion a Han ar y bongos ac yn canu.
O lle
Rydan ni i gyd yn dod o'r Blaenau, heblaw Han sy'n dod o'r Wyddgrug a Sharon o sir Fynwy. Mi wnaethom ni i gyd gyfarfod yng Ngholeg Harlech.
Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Tua chwe mlynedd yn ôl.
Pam ddaru chi ffurfio band?
Yn lle creu trwbl ar y strydoedd! Ro'n i, Kaz ac Asa yn arfer bod yn aelodau o fand y Mistêcs yn yr wythdegau. Ac wrth gwrs mae hanner y gr?p yn ddau frawd a chwaer!
Gig gwaetha
Pan mae un neu ddau ohonon ni wedi meddwi! Yn enwedig os mai fi ar y drymiau sy'n meddwi, wedyn mae popeth yn mynd o'i le.
Gig gorau
Roedd mynd ar daith i wlad y Basg yn Ebrill 2003 yn brofiad gwych.
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Dwi'n hoffi John Lennon. Mae'r band i gyd yn hoffi reggae, soul, funk - pob math o fiwsig. Mae cerddoriaeth o'n hamgylch ni trwy'r amser.
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Kaz sy'n gwneud lot o'r sgwennu, er bydd pawb arall hefyd yn cynnig syniadau.
Be ydych chi'n ei wneud ar ôl gig?
Fel arfer, mi fyswn i'n meddwi a gwneud pethau gwirion, ond dwi wedi stopio yfed erbyn hyn, felly mi fyddwn i'n mynd adref i gael diod o coco!
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
John Lennon.
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Do 'swn i'n ei ddweud. Mae beth sy'n digwydd o'n hamgylch ni'n bownd o fod yn ddylanwad arnon ni wrth sgwennu caneuon. Mae ein miwsig ni am bethau sydd wedi digwydd, neu pethau y bysen ni'n hoffi iddyn nhw ddigwydd.
Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Cymysgedd o saith anifail gwahanol. Fel s?! Mi fydd yna eliffant rhywle, llew ac efallai oen bach, aderyn, ac efallai darn o bysgodyn!
O lle ddaeth yr enw?
Mi wnaeth rywun o'r band gael breuddwyd bod ganddo fo blentyn bach, ac Estella oedd ei henw hi. Mae yna hefyd le yng Ngwlad y Basg o'r enw Estella.
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair: Absolutely chuffin fabulous!
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Mae Sesiwn Fawr Dolgellau yn wych! Ond does yna ddim llawer o lefydd dydan ni heb ei chwarae a dweud y gwir.
Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Recordio.
|
|
|
|
|
|
|
Ìý
|
|
|
|
Dyw'r Â鶹Éç ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
|
|
|
|