Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y Sîn Roc

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Anweledig Anweledig
Y ffaith fod Blaenau'n "hardd a lliwgar" a Ceri'n canu fel Tasmanian Devil ydy cyfrinach Anweledig yn ôl Rhys Roberts.
Aelodau
Joseff Buckley, allweddau, Gareth (Gai Toms) Thomas ar gitâr, Iwan Jones hefyd ar gitâr; Alwyn Evans ar y drymiau, Ceri Cunnington yn canu a dwi (Rhys) ar y bâs.

O lle
Blaenau Ffestiniog.

Pryd wnaethoch chi ffurfio?
1991

Pam ddaru chi ffurfio band?
Roedden ni gyd yn yr ysgol efo'n gilydd, ac roedd yna lawer o fandiau o gwmpas yn Blaenau ar y pryd; Llwybr Llaethog, Cylchoedd Hud, Y Mistêcs. Mi wnaethon nhw i gyd ddylanwadu arnon ni, ac mi ddaru ni benderfynu cychwyn ein band ein hunain.

Gig gwaetha
Ymmm - y rhan fwyaf ohonyn nhw am y ddwy flynedd gynta!

Gig gorau
Ar daith drwy Lydaw yn 2002.

Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Bob math - Valium, Wendykurk a Pep Le Pew.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Mi fydd Gai yn dod fyny efo'r geiriau, a wedyn mi fyddwn ni i gyd yn yfed 'chydig ac yn dod i fyny efo'r gân!

Be ydych chi'n ei wneud ar ôl gig?
Ffeindio parti.

Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Halle Berry.

Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Yndi yn bendant. Mae'r lle mor hardd a lliwgar - mae o'n gwneud i chi 'sgwennu miwsig braf a hapus.

Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Gai Toms a Ceri CunningtonTasmanian Devil. Mi welais i un am y tro gyntaf ar y teledu wythnos diwethaf - doeddwn i ddim yn siŵr os oedden nhw'n bodoli neu ddim! Mae'r sŵn maen nhw'n ei wneud yn anhygoel - fel y cartŵn (a fel Ceri pan mae o wedi yfed gormod).

O lle ddaeth yr enw?
Dwi'n meddwl mai merched yr ysgol feddyliodd amdano fo.

Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Hwyl a sbri.

Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Ar ben Tre'r Ceiri, Pen LlÅ·n.

Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Eistedd yn y swyddfa!


Cyfrannwch

Jamie Holland
Wow! Saw these guys in Liverpool 'bout 7 years ago. Awesome! Didn't understand a word, but they were out of this world!
Wed Mar 5 22:56:48 2008

Bob Owen o Traws
Iawn boys? Orsym o ganeuon funky. Mae Keri yn nuts ar stage, yn gwbod sut i cael y crowd fynd!
Wed Sep 28 21:55:44 2005

Heledd, Bethesda
Anweledig rydych chi yn rheoli, rydw i a llawer o ffrindiau eisiau clywed am gig yn y dyfodol agos sydd hefyd yn agos i gartref felly plis allwch chi gael gig arall PLIS!!
Sat Sep 10 21:53:42 2005

Theta a Jiw
Yn yr haf mae nhw'n gwisgo sombrero. Fel ni. Da ni'n ffans enfawr, a methu aros i'ch gweld yn perfformio eto. Waio waio...
Tue May 17 20:06:28 2005

Shakoon, Sir Stalwyn
Anweledig da chi'n swperb! Cadwch hi fyny a dwi'n disgwl clwad mwy ohonno chi yn y dyfodol - mwy o gigs plis!
Thu Feb 24 18:58:43 2005


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý