Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Daith Haf ym Mhontypridd Y daith haf yn cyrraedd Caernarfon a Llanberis
Dros benwythnos 23 - 24 Gorffennaf roedd Taith Haf Planed Plant a Â鶹Éç Radio Cymru yn ymweld ag ardal Caernarfon.
Roedd yn rhan o fwrlwm gweithgareddau Gŵyl Caernarfon ar ddydd Gwener, 23 Gorffennaf ac yna Ras yr Wyddfa ar ddydd Sadwrn, 24 Gorffennaf.

Roedd cyflwynwyr Planed Plant yn perfformio eu sioe arbennig yng Nghaernarfon a chafwyd cerddoriaeth gan Max N, Epitaff a Martin John tra roedd Max N, Meinir Gwilym a Gogz yn diddanu'r gynulleidfa yn Llanberis. Cafwyd cyfle hefyd i gyfarfod â rhai o hoff gymeriadau Planed Plant Bach gan gynnwys Sali Mali, Sam Tân, SuperTed a chymeriadau bywiog cyfres y Â鶹Éç, y Bobinogi.

Yno hefyd roedd cyflwynwyr Radio Cymru - Jonsi yng Nghaernarfon a Hywel Gwynfryn yn Llanberis.

Dyma'r tro cyntaf i Blaned Plant a Radio Cymru fynd ar daith gyda'i gilydd trwy Gymru ac i'r gorau o sêr y byd teledu a radio rannu llwyfan mewn 11 o leoliadau gwahanol.

Meddai Aled Glynne Davies, Golygydd Radio Cymru: "Mae Radio Cymru wedi credu'n gryf ers rhai blynyddoedd ei bod hi'n hollbwysig inni fynd â'n rhaglenni ni allan i ganol y bobl. Yn sicr, dydi eleni ddim yn eithriad.

"Rydan ni yn Radio Cymru yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gydweithio'n agos ag S4C - gan ddod â chryfderau'r ddau dîm at ei gilydd a chreu sioeau da nid yn unig i'r bobl fydd yn dod draw i'n gweld ni ond i'r rheini a fydd yn gwrando ar y radio."

Rhoddodd Eleri Twynog, Pennaeth Marchnata S4C, groeso i'r bartneriaeth newydd gyda Radio Cymru: "Byddwn yn teithio i bob cwr o'r wlad gan gyfarfod â channoedd o blant a'u teuluoedd sy'n wylwyr Planed Plant ac yn wrandawyr cyson ar Radio Cymru. Mae'r daith hon yn caniatáu i ni fynd â'r adloniant at eu stepan drws nhw, gyda rhywbeth at ddant pawb."

Manylion y Daith Haf:

Gwener, 23 Gorffennaf - Gŵyl Caernarfon, Caernarfon
Sadwrn, 24 Gorffennaf - Ras yr Wyddfa, Llanberis
Iau, 12 Awst - Sioe y Siroedd Unedig, Caerfyrddin
Sadwrn, 14 Awst - Sioe Llanfyllin, Llanfyllin
Mawrth, 17 Awst - Sioe Sir Benfro, Hwlffordd
Sadwrn, 21 Awst - Sain Ffagan, Caerdydd
Mercher, 25 Awst - Sioe Sir Meirion, Llandrillo ger Corwen
Llun, 30 Awst - Carnifal Aberaeron, Aberaeron

Am fwy o fanylion am Daith Haf Â鶹Éç Radio Cymru a Planed Plant S4C, cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 600 4141.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý