Mae rhai o drysorau hanesyddol yr ardal yn cael eu harddangos am y tro cyntaf yn Nghanolfan Treftadaeth Llys Ednowain. Un o'r prif atyniadau ydy copi o Gwpan Trawsfynydd - sef tancard o bren ac efydd sy'n dyddio nôl i gyfnod y Celtiaid. Mae hefyd ben bwyall o Oes y Cerrig i'w gweld yno ac arddangosfa amlgyfrwng o'r enw Y Sant a'r Bugail sy'n olrhain hanes Hedd Wyn a'r Sant John Roberts OSB. Mae'r ysgol gynradd leol wedi rhoi'r groes wreiddiol oddi ar fedd Hedd Wyn i'w harddangos yn yr amgueddfa.
Mae canolfan Llys Ednowain wedi ei lleoli ynghanol y pentref yn hen adeilad Highgate, sef yr hen goparét, sydd wedi ei brynu a'i adnewyddu gan gwmni Trawsnewid. Meddai Dewi Prysor, rheolwr cyntaf y ganolfan: "Lle i addysgu ein pobl ein hunain am ein hanes fydd hwn - rhywbeth y dylen ni fod wedi ei ddysgu yn yr ysgol. Rydyn ni'n gobeithio y bydd o fudd i ysgolion, y gymuned leol ac i Gymru gyfan." Ychwanegodd mai'r bwriad ydy denu twristiaeth ddiwylliannol a chynaladwy a fydd yn y pendraw yn rhoi hwb i economi'r pentref: "Y gobaith ydy y bydd yn cyfrannu at adfywio Trawsfynydd, sef holl bwrpas sefydlu cwmni Trawsnewid yn dilyn cau'r atomfa," meddai. Yn ogystal â chanolfan dreftadaeth mae lloriau uchaf yr adeilad wedi ei droi yn hostel hunangynhaliol i feicwyr, cerddwyr a physgotwyr er mwyn manteisio ar yr ymwelwyr sy'n heidio i'r ardal i fwynhau ei hadnoddau naturiol fel canolfan feicio fyd-enwog Coed-y-Brenin gerllaw. "Mae'r ganolfan wedi ei henwi ar ôl Ednowain," ychwanegodd Dewi Prysor, "sef Arglwydd Ardudwy yn y 12fed Ganrif, a oedd yn cynnwys gogledd Meirionnydd hefyd wrth gwrs. A fo roddodd yr enw gwreiddiol ar Drawsfynydd hefyd - sef Llanednowain." Mae'r ganolfan ar agor i'r cyhoedd rhwng 10am a 5pm, saith diwrnod yr wythnos yn ystod tymor yr haf a'r Pasg a phum diwrnod yr wythnos weddill y flwyddyn. Rhif ffôn: 01766 770 324. Gall ymwelwyr sydd am holi am yr hostel ffonio tu allan i oriau agor yr arddangosfa.
|