Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Matt Goss yn sgwrsio gyda Bill Wyman ar y Cei Llechi, Caernarfon. Gŵyl Caernarfon
Croesawodd Caernarfon enwau mawr i'r dref fel rhan o'r ŵyl a gynhaliwyd yno rhwng 17-25 Gorffennaf 2004.

Roedd Emma Bunton, Bill Wyman ac Elin Fflur yn perfformio yn y dref yn ystod dathliad Big Buzz Radio Wales a wynebau cyfarwydd Radio Cymru ac S4C yn diddanu yn ystod Taith Haf Â鶹Éç ac S4C.

Yn ystod yr ŵyl ei hun, cynhaliwyd brwydr bandiau i grwpiau lleol, diwrnod country and western a gorymdaith drwy'r dref. Ar ddydd Mercher, 21 Gorffennaf roedd rhedwyr o glwb athletau lleol yn rasio yn erbyn trên Rheilffordd Eryri o Gaernarfon i Ryd Ddu.

  • I gael manylion llawn y ŵyl ewch i'w gwefan:

    Y Daith Haf
    Ar ddydd Gwener, 23 Gorffennaf, roedd yr ŵyl yn croesawu sêr y byd teledu a radio wrth i ddarlledwyr a diddanwyr Planed Plant S4C a Â鶹Éç Radio Cymru ymweld â'r dref a darlledu'n fyw oddi yno.

    Roedd Alun o Planed Plant yn cyflwyno sioe arbennig ac roedd cyfle i gyfarfod â rhai o hoff gymeriadau Planed Plant Bach gan gynnwys Sali Mali, Sam Tân, SuperTed a chymeriadau bach bywiog cyfres y Â鶹Éç, y Bobinogi.

  • Lluniau o ymweliad y Daith Haf â Chaernarfon.

    Big Buzz
    Ar ddydd Sul, 25 Gorffennaf, roedd Â鶹Éç Radio Wales yn dod â gŵyl fawr y Big Buzz i'r gogledd am y tro cyntaf.

    Roedd rhai o berfformwyr mwyaf y byd pop yn ymddangos ar y Cei Llechi gan gynnwys y cyn Spice Girl, Emma Bunton, Liberty X, Bill Wyman a'r Rhythm Kings, Pheena, Elin Fflur a'r Band a TNT.

    Hefyd yn ymddangos yng Nghaernarfon, ar ôl methu â dod i'r Big Buzz yn Abertawe, roedd Matt Goss, un o'r cogyddion a lwyddodd i bara drwy'r gyfres Hell's Kitchen a chyn aelod o un o grwpiau mawr yr 1980au, Bros. Perfformiodd ei sengl newydd, Fly yn ogystal ag un o hen ffefrynnau Bros, I Owe You Nothing.

    "Rydyn ni wrth ein boddau bod Matt wedi chwarae yng Nghaernarfon wedi methu â dod i Abertawe. Mae'n berfformiwr gwych ac rydw i'n siŵr bod y dorf wedi mwynhau gwrando arno," meddai cynhyrchydd y digwyddiad Paul Forde.

  • Mwy am y Big Buzz
  • Mwy o luniau'r sêr yng Nghaernarfon.


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý