Cafwyd eisteddfod lwyddiannus iawn nos Wener, Hydref 6ed, 2006 gyda saith awr o gystadlu o safon uchel.
Y prif feirniaid eleni oedd Einir Wyn-Williams, Rhiwlas, Bangor - cerdd a cherdd dant; Ann Fychan, Abercegir - llefaru a barddoniaeth; Siân Northey, Pentrefelin - llenyddiaeth; Elin Jones, Penrallt - llawysgrif; Annette Morris, Y Wern - arlunio, a Helen Kelly, Llys Addysg - ffotograffiaeth.
Llywydd yr eisteddfod oedd Dewi Prysor, Ffesnitiog a'r arweinyddion oedd Lynne Edwards, Gerallt Rhun a Robin P Jones.
Cyfeiliwyd gan Tudur P. Jones, Tywyn.
Cefndir
Pentre bach tua hanner milltir o Drawsfynydd yw Stesion. Yn y 1920au, yr oedd yn lle prysurach na'r Traws, gan mai dyma, fel mae'r enw yn ei awgrymu, yw lleoliad yr orsaf reilffordd agosaf.
Y mae tocyn Eisteddfod y Stesion a gynhaliwyd ar Chwefror 16, 1924, wedi goroesi hyd heddiw. Arno, mae'n dweud mai Emlyn Williams oedd yn arwain, Bobbie Evans oedd yr ysgrifennydd a bod rhaid talu hanner ceiniog i gymryd rhan.
Yn ôl yr hanes, byddai Idris Jones hefyd yn un o'r arweinwyr. Pan fyddai plentyn yn ennill cystadleuaeth, byddai'n galw allan "O Ble?", a byddai'r plant yn ateb: "O'r Stesion!".
'Pin' oedd y pris mynediad ers talwm ac roedd yr eisteddfod yma yn cael ei hadnabod fel Eisteddfod y Pin am rai blynyddoedd ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf.
Cynhaliwyd yr eisteddfod yma yn wreiddiol yn y llofft stabl ger yr orsaf. Ond wedi iddi gael ei gohirio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, symudwyd yr achlysur i'r Capel Sinc, sy'n cael ei enw o'r deunydd a ddefnyddiwyd i adeiladu'r to.
Yna, wedi adeiladu'r Neuadd Goffa yn Traws yn y 1930au, symudodd yr eisteddfod i'w chartref parhaol presennol.
Er nad yw'r eisteddfod yma'n cael ei galw yn un gadeiriol, mae Cadair Stanley Huws yn cael ei chynnig yn wobr i enillydd cystadleuaeth wahanol bob flwyddyn.
Mae Glyn Heddwyn (uchod) yn gyn enillydd cadair yr eisteddfod am ysgrif yn hel atgofion am ei ddyddiau ysgol yn Nhrawsfynydd.
Cysylltwch i ddiweddaru tudalen eich eisteddfod os gwelwch yn dda.