Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Yr Wyddgrug
Philip Lloyd gyda cherflun Daniel Owen yn yr Wyddgrug. Cerflun Daniel Owen
Drwy gyfrwng lluniau a sain, mae Philip Lloyd o Gymdeithas Ddinesig yr Wyddgrug a'r Cylch, yn sôn mewn ffilm fer am gerflun enwog Daniel Owen yn y dref ac amgylchiadau ei godi.

Trawsgrifiad: "Philip Lloyd ydy fy enw i. Rydw i'n byw yn yr Wyddgrug ac wedi byw yn yr Wyddgrug am dros 20 mlynedd.

Dyma lun o'r gofgolofn o Daniel Owen a ddadorchuddiwyd gan yr Arglwydd Kenyon ar yr ail ar bymtheg o Hydref 1901. Bu farw Daniel Owen ym 1895 ac o fewn blwyddyn neu ddwy casglwyd gymaint â 400 punt trwy gronfa apêl genedlaethol ac mae'n debyg bod hynny'n ddigon i fedru comisiynu W. Goscombe John, cerflunydd mwya blaenllaw Cymru ar y pryd, i wneud cerflun efydd ohono.

Dyma'r diwrnod mawr - y dadorchudddio - ac roedd rhai o bobl yr Wyddgrug braidd yn bryderus i weld sut gynrychiolaeth o'r nofelydd y byddai'r arlunydd wedi ei gyflawni.

Ond doedd dim angen pryderu o gwbl, roedd yn naturiol iawn, er bod na beth dadlau ynglŷn ag osgo yr het. Mae'n debyg bod y bobl oedd yn nabod Daniel Owen yn dweud y byddai'n gwisgo ei het ar dipyn bach o ongl, braidd yn chwareus, ond roedd Goscombe John wedi derbyn llun ohono gyda'r het yn hollol wastad ar draws ei gorun a beth bynnag, mae'n debyg bod pobl wedi dod i arfer â'r peth yn y man."

  • Philip Lloyd a Thaith Daniel Owen
  • Bywgraffiad: Daniel Owen

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Eisteddfodau


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý