"Pedwar mis ar ddeg da' ni wedi gael hyd 'rŵan i drefnu'r Eisteddfod, tra mewn gwirionedd o dan yr hen drefn fasa ni hefo pedwar ar hugain o fisoedd i baratoi.
"Oherwydd yr amgylchiadau roeddan ni bron flwyddyn yn hwyr yn cychwyn.
"Ond mae'r ymateb o fewn y sir wedi bod yn rhyfeddol, nid yn unig gan y Cyngor Sir ond Cynghorau Tref yr Wyddgrug, Bwcle, Fflint, Treffynnon a llefydd ar y glannau hefyd.
"Mae 32 o gynghorau cymuned o fewn y sir wedi cyfrannu'n ariannol, sydd wedi bod yn gymorth mawr.
"Chwarae teg i bobl Cilgwri ac i bobl Lerpwl, mae 'na ymgyrchoedd yn y fan honno sydd wedi ein helpu ni eisoes.
"Mae 'na weithgareddau di-ri wedi digwydd, megis cyngherddau a dawnsfeydd. 'Dwi 'di yfed mwy o goffi a 'di bod mewn mwy o gyngherddau nag erioed!
"Ond 'dwi ddim wedi cael fy ngwthio mewn pram fel un dyn o Nercwys i'r Wyddgrug ac yn ôl i'r Wyddgrug!
"Ac ar yr ugeinfed o fis Mai byddwn yn cerdded terfynau'r sir mewn un bore.
"'Da ni wedi hollti perimeter y sir yn saith adran ac mae 'na dimau i gyd yn cychwyn am naw o gloch y bore ac am orffen am un o'r gloch y pnawn.
"Yna medrwn ddweud ein bod wedi cerdded rownd y sir mewn bore.
"Heb gymorth ariannol y di-Gymraeg, 'dwi ddim yn meddwl y byddan ni wedi cyrraedd y targed.
"'Da ni wedi ceisio gwneud nifer o bethau i geisio hwyluso hynny.
"Da ni wedi cael dwy sesiwn ble roedd busnes a masnach o fewn y sir yn cael gwahoddiad i gael eglurhad o be' fedren nhw ei wneud a be ydi'r 'Steddfod.
"'Da ni hefyd wedi cynnal noson ble roedd gwahoddiad i unrhyw un di-Gymraeg oedd naill ai'n hollol ddi-glem am be oedd Steddfod neu a oedd eisiau gwybod mwy.
"Mae ymateb y cynghorwyr, llawer ohonynt yn ddi-Gymraeg, wedi bod yn gefnogol iawn.
"Da ni'n ffodus bod y targed ariannol oedd wedi ei osod - £197,000 - wedi ei basio, ond da' ni'n dal ati.
"A 'dwi'n siŵr y byddwn ni'n gwella dipyn eto ar y targed.
"Dwi'n edrych ymlaen at yr wythnos, ond mae pawb arall hefyd.
"Mae'r syniad o berchnogaeth rhywbeth yn golygu dipyn. Maen nhw'n teimlo mai'n 'Steddfod 'ni' yw hon.
"Doedd y safle â ddefnyddiwyd ym 1991 ddim digon mawr.
"Rhyfedd meddwl bod y 'Steddfod wedi ymestyn ei chortynnau mewn un mlynedd ar bymtheg.
"Mae hon yn safle fwy, yn safle hollol wastad ac yn ddiddorol iawn nid yw yn nhiriogaeth tref yr Wyddgrug o gwbl - mae hi ym mhlwy' Coed Llai.
"Ond mae'n faes hwylus tu hwnt ac o ran traffig mae llai o broblemau gyda hi na'r tro blaen.
"Mae pethau'n dod i fwcl rwan ac mae pwyllgorau pwnc a thestun yn dal i gyfarfod.
"Mae mwy wedi ymgeisio ar gystadleuaeth nofel Daniel Owen nag erioed o'r blaen.
"A 'dwi'n meddwl y bydd ganddon ni yn y seremoni honno un peth na fedr yr un dref arall feddwl am ei wneud.
"Mae gennym rywbeth i fyny ein llawes fydd efallai'n gwneud pethau'n wahanol.
"Mae pobol wedi gorffen rhoi eu henwau erbyn hyn ar gyfer y cystadlaethau ac mae pethau'n edrych yn addawol iawn."