Dan y teitl Marchog y Fflint mae'n helpu i ddod â hanes yn fyw ym mhabell CADW ar y maes, trwy ymddangos fel marchog o'r bymthegfed ganrif - Syr Preis Yrrwyl (am y cyntaf i ddatrys y pôs yn yr enw!).
Fel cymeriad dychmygol a fagwyd ar fferm gefnog ym Mhenmaenmawr ac a anfonwyd i Sir y Fflint yn saith oed i ddysgu trin cleddyf, mae'n adrodd sut y byddai plant bonedd yn cael eu hanfon i ffwrdd at deuluoedd mawr neu gestyll gyda'r gobaith eu bod yn tyfu drwy'r rhengoedd i ddod yn farchog cefnog.
Meistr Syr Preis dychmygol Graham oedd Iarll Swydd Derby, Thomas Stanley, sef ffigwr hanesyddol go iawn.
Ond beth am yrfa Graham Morris ei hun? Wedi ei fagu yn y Rhos, symudodd i lawr i dde Cymru yn 1978 lle bu'n athro am 14 mlynedd mewn ysgol anghenion arbennig. Mae bellach wedi ymddeol ac yn byw yn Aberdâr. Mwy o'r Eisteddfod
|