Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Eisteddfod Llangollen
Willard White Llond Lle o Hwyl yn Llangollen 2009
Ffion Clwyd Edwards yn enwi rhai o'r sêr disglair wnaeth ymddangos yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen blwyddyn diwethaf.

Bu yr enwog Barbara Dickson, sydd wedi gwerthu miliynau o recordiau ac wedi dathlu 40 mlynedd yn y byd cerddorol, ynghyd â phedwarawd lleisiol gwrywaidd sydd wedi cyrraedd brig y siartiau Blake, y soprano odidog Natasha Marsh, a Syr Willard White y baritôn-bas o Jamaica, yn ymuno i swyno'r dorf yng nghyngherddau y 63ain Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol yn Llangollen eleni.

Mewn datblygiad newydd a chyffrous eleni, mi wnaeth James Bond ddod i Langollen, wrth i'r arweinydd a'r cyfansoddwr Carl Davis, gyfarwyddo cerddoriaeth 007, gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, Mary Carewe a Simon Bowman. Bu un o gariadon enwog Bond, Pussy Galore, yn gwneud ymddangosiad arbennig hefyd wrth i'r actores Honor Blackman dywys y gynulleidfa drwy gyngerdd nos Sul, 12 Gorffennaf.

Yn ôl Mervyn Cousins, Cyfarwyddwr Gweithredol Eisteddfod Ryngwladol Llangollen: "Mae'r Eisteddfod yn datblygu ac esblygu bob blwyddyn, ac mae gennym fwy a mwy o bethau i'w cynnig i'n cystadleuwyr, ymwelwyr a thrigolion y fro. Mae Llangollen wedi hen ennill ei phlwyf bellach, ac i ni fel trefnwyr, mae'n broses naturiol ehangu gweithgareddau'r maes ddydd Sul, 12 Gorffennaf!"

Barbara Dickson, yr actores a enillodd Wobr 'Olivier' fu'n camu ar lwyfan yr Eisteddfod nos Sul (7 Gorffennaf) i agor y cyntaf o'r chwe cyngerdd min nos. Dechreuodd yr artist o'r Alban yrfa lewyrchus ym myd actio a chanu yn y saithdegau cynnar. Daeth yn wyneb cyfarwydd i 10 miliwn o wylwyr teledu bob wythnos, gyda'i hymddangosiadau cyson ar y gyfres 'The Two Ronnies'. Mae wedi serennu mewn sawl sioe gerdd fel 'Blood Brothers' (1982), 'Chess' (1984), a 'Spend, Spend, Spend' (2000). Aeth y ddeuawd 'I know him so Well' (Chess) ar y cyd ag Elaine Paige, i rif un y siartiau pop am wythnosau lawer, a dyma'r gân y mae pobl yn ei chysylltu fwyaf â Barbara Dickson.

Dydd Mercher 8 Gorffennaf, ein Llywydd Terry Waite fu yn arwain Cyngerdd Heddwch Llangollen. Bydd y Seremoni Groeso ar ddechrau'r cyngerdd yn gweld cynrychiolwyr byd eang y cystadlaethau yn ymdeithio i'r llwyfan yn eu gwisgoedd godidog. Yna dan gyfarwyddyd cerddorol Brian Kay, cyn sefydlydd ac aelod y grŵp 'King's Singers', daw plant a phobl ifanc o ddeg gwlad ymlaen i ganu mewn cytgord, cyn i weddill y cyngerdd barhau.

Fe wnaeth Sir Willard White ddychwelyd ar gyfer cyngerdd nos Iau (9 Gorffennaf) i bortreadu bywyd a cherddoriaeth y diweddar Paul Robeson, Americanwr, actor, cerddor ac eicon cydraddoldeb ac iawnderau dynol. Teitl y noson oedd 'Robeson Re-Explored', a bu Willard White yn perfformio gyda grŵp o gerddorion a phedwarawd llinynnol gan ddod â seiniau ysbrydol, jazz a gwerin i'r llwyfan, gan gynnwys caneuon fel 'Steal Away', 'Ain't Necessarily So' ac 'Ol' Man River'.

Nos Wener 10 Gorffennaf, roedd cyffro cerddorol yn Llangollen, wrth i Blake, pedwarawd gwrywaidd sydd wedi dringo i frig y siartiau, berfformio gyda'r soprano hyfryd o Aberhonddu, Natasha Marsh.

Unwaith eto, roedd cyngherddau Cerddoriaeth y Byd am 6 ar lwyfannau awyr agored bob nos yn cynnig amrywiaeth eang o artistiaid eleni. Un o'r uchafbwyntiau yn 2009 oedd perfformiad gan Etran Finatawa, grŵp sy'n cynnwys perfformwyr o ddau o lwythi crwydrol, traddodiadol, gorllewin Affrica (Wodabe a'r Twareg) sydd wedi uno i greu seiniau llesmeiriol y blws crwydrol. Bydd chwe pherfformiwr o'r anialwch yn eu tiwnigau traddodiadol a'u twrbanau o blu estrys, yn diddanu tyrfa Llangollen nos Iau (9 Gorffennaf) am 6 yr hwyr.

Mae'r Eisteddfod Ryngwladol yn cynnig llwyfan i bobl o holl wledydd y byd gyfarfod a sgwrsio trwy ieithoedd rhyngwladol cerddoriaeth a dawns, gan hyrwyddo heddwch, cytgord a gwell dealltwriaeth o ddiwylliant y byd. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 862001 neu ewch i



Digwyddiadau
Adolygiadau
Trefi


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý