Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Corwen
Eisteddfod Ffermwyr Ifanc 2007
Bydd dros 500 o aelodau rhwng 10 a 26 mlwydd oed yn cystadlu yn Eisteddfod Cenedlaethol CFfI Cymru, bydd yn cael ei gynnal ym mhafiliwn Corwen.

Cyn i'r Eisteddfod gymryd lle bydd aelodau yn cystadlu mewn rowndiau rhanbarthol er mwyn ceisio ennill lle yn Eisteddfod Genedlaethol CFfI Cymru.

Unwaith eto, mae'r Eisteddfod yn argoeli fod yn wledd o ddiwylliant Cymraeg ac adloniant. o ensemblau lleisiol i ddeuawdau doniol fe fydd rhywbeth at ddant pawb.

Noddwyr y gadair eleni yw Cangen Meirionnydd o'r FUW, a chaiff ei saernïo gan Ieuan Edwards, aelod o CFfI Dinas Mawddwy.

"Gyda gweithgareddau'n cychwyn am 11 o'r gloch y bore, bydd yr Eisteddfod yn parhau tan oriau man bore dydd Sul, a phob math o gystadlaethau i ddiddanu'r dorf, o'r ystod draddodiadol i'r rhai newydd, modern ac ysgafn," meddai Geraint Rowlands, Cadeirydd Pwyllgor Eisteddfod CFfI Cymru

"Rwy'n edrych ymlaen at groesawu aelodau a chefnogwyr ar draws Gymru gyfan i'r Eisteddfod, ac i'r rhai ohonoch sydd fethu mynychu gwrandawch ar y cyffro ar Â鶹Éç Radio Cymru o 8pm ymlaen.

"Mae 'na ddeuddeg o siroedd yn Ffermwyr Ifanc Cymru ac mae wyth ohonynt yn cystadlu yn gyson yn yr Eisteddfod.

"Mae 'na amrywiaeth o gystadleuaethau fel yr adran lefaru, adran gerddoriaeth, yr adran ysgafn yn ogystal a'r seremoni gadeiriol.

Dywed Geraint fod naws wahanol i'r Eisteddfod hon o'i gymharu gydag Eisteddfodau eraill.

"Mae 'na elfen o hwyl yn perthyn i'r Eisteddfod, gyda'r aelodau ddim fel arfer yn cymryd rhan mewn Eisteddfodau," meddai.

"Ond mae cystadlu ar ran eu clwb neu sir yn hwb bach iddynt ac yn annog aelodau fyddai byth yn dod i 'Steddfod fel arfer.

"Ar ôl dwy flynedd o drefnu, bydd hi'n braf yn awr cael gweld ffrwyth ein llafur."


Cyfrannwch

Sir Fon
Da iawn Ynys Mon. Llongyfarchiadau mawr i'r aelodau a oedd yn cystadlu nos Sadwrn. Mi wnaethoch yr Ynys yn 'prowd'

ruth williams o ben llyn
C'mon Eryri!


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Trefi
Radio Cymru
Papurau Bro


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý