Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon lleol

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Steven Jones ar faes yr Eisteddfod gyda'i lyfr, Pêl-droedwyr Sir y Fflint: cliciwch i'w glywed yn siarad Pêl-droedwyr Sir y Fflint
Er yn byw yng Nghaerdydd bellach, mae'n amlwg mai Sir y Fflint ydy cartref ysbrydol Steven Jones, a ffrwyth ei ddiddordeb angerddol yn hanes pêl-droed ei sir enedigol ydy ei lyfr, Pêl-droedwyr Sir y Fflint.
Er bod y llyfr wedi ei gyhoeddi ers 2005, cafodd Steven, sy'n dod o Garmel ger Treffynnon, gyfle i siarad am rai o fawrion lleol y gamp ac am ei ddiddordeb personol yn hanes pêl-droed sir ei fagwraeth ar faes eisteddfod Sir y Fflint 2007.

Taniwyd ei ddiddordeb mewn pêl-droed gan ei dad a oedd yn 'ffanatic' pêl-droed ac wedi chwarae i nifer o dimau lleol. Ond pam fod yr ardal wedi meithrin cymaint o bêl-droedwyr mawr a dilynwyr brwd?

Dywedodd Steven mai un rheswm dros y ffaith fod yr ardal yn gadarnle i'r gamp ydy, yn syml, ei bod yn ardal mor boblog. Yn ogystal, mae'n agos iawn at Lerpwl a Manceinion: dinasoedd y mae pobl y sir wedi hen arfer â mynd iddynt i fwynhau gwylio rhai o chwaraewyr gorau'r byd.

Ond un o'r rhesymau pennaf am lwyddiannau'r ardal ym maes pêl-droed yn ôl Steven, ydy bod strwythur hyfforddi o'r radd flaenaf yn y sir, o fewn addysg uwchradd ac, yn arbennig, cynradd. Enwodd fawrion fel Tony Norman, Kevin Ratcliffe, Michael Owen, Barry Horne ac Ian Rush fel enghreifftiau o chwaraewyr a fanteision o fod yn rhan o strwythur ysgolion cynradd y sir.

Ac nid tuedd ddiweddar ydy hon - wrth ymchwilio daeth Steven Jones ar draws y chwaraewr Everton, TG Jones o Gei Cona, a oedd yn chwarae cyn ac ar ôl yr ail ryfel byd a ddisgrifiwyd gan neb llai na Dixie Dean fel y chwaraewr cyflawn gorau a welodd erioed.

Soniodd hefyd am Roy Vernon o Ffynnon Groyw, rhywun y clywodd ei dad a'i gyfeillion yn rhyfeddu at ei ddawn lawer gwaith ond na chafodd Steven erioed gyfle i'w weld yn chwarae ei hun. Arwyr lleol eraill mwy diweddar ydy Gary Speed, sy'n parhau i chwarae yn yr uwch-gynghrair yn 37 oed ac, wrth gwrs, Ian Rush, mab i weithiwr yng ngwaith dur Shotton o dre'r Fflint, a wnaeth fwy na neb i roi pêl-droed Cymru ar y map.

Argymhellodd Steven hefyd bod unrhyw un sydd â diddordeb ym mhêl-droed Fflint yn mynd i weld arddangosfa am hanes Cymdeithas Cynghrair Ysgolion Cynradd Sir y Fflint yn Ysgol Gynradd Bryncoch yn yr Wyddgrug.

Traddododd Steven Jones ei ddarlith yn y Babell Lên yng nghwmni Moi Parri, rheolwr Clwb Pêl-droed y Glannau a'r sylwebydd pêl-droed Nic Parry.

  • Mwy am lyfr Steven Jones
  • Mwy am Eisteddfod Sir y Fflint


  • Chwaraeon
    Hanes
    Ar y Marc


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý