Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Adnabod Ardal - Wrecsam
Ardal ar y ffin â Lloegr sydd â sawl hanes diddorol i'w adrodd am yr enwogion a fagwyd yn y cylch.

Wrth geisio cyfleu natur glos y gymdeithas yn Wrecsam, disgrifiwyd y dref gan un o hen olygyddion papur newydd lleol fel "pentref a oedd wedi anghofio tyfu'i fyny."

Dros ganrif cyn hynny yr oedd George Borrow wedi cyhuddo Wrecsam o beidio ag edrych yn Gymreig gan ychwanegu hefyd nad oedd ei thrigolion ychwaith "yn meddu ar edrychiad nac iaith y Cymry."

Yn 1854 oedd hynny, ac er gwaethaf twf rhyfeddol mewn addysg Gymraeg yn yr ardal, Saesneg ydi'r iaith a glywir fwyaf ar y stryd hyd heddiw.

Marchnad y boblOnd yr arwydd Cymraeg sy'n cael y flaenoriaeth uwchben mynedfeydd Marchnad y Bobl yno ac y mae'r dref yn gyrchfan i nifer o gefnogwyr pêl-droed Cymraeg ar brynhawniau Sadwrn. Dyma gartref "Y Cochion" neu'r "Robins" a sylwodd gyntaf ar alluoedd Ian Rush fel pêl-droediwr.

Yn dref digon salw ei gwedd rai blynyddoedd yn ôl, mae wedi ei gweddnewid yn ddiweddar gyda chanolfan siopa braf a strydoedd i gerddwyr yn unig a lle helaeth i eistedd a hamddena mewn sgwâr y tu allan i'r Guildhall.

Mae marchnad boblogaidd yma ar ddyddiau Llun a marchnad gwerthu nwyddau fferm ganol yr wythnos.

Gwesty WynnstayTafarn ac eglwys yw adeiladau hynotaf canol y dref - gwesty mawreddog yr olwg y Wynnstay ac Eglwys St Giles yr adlewyrchir ffurf ei thŵr ym Mhrifysgol Iâl yn yr Unol Daleithiau er parch i Elihu Yale yr enwyd prifysgol enwocaf America ar ei ôl, ac sydd wedi claddu gerllawr eglwys yn Wrecsam.

O'r brifysgol honno yn America y daeth y garreg goffa iddo sydd ar fur yr eglwys ger ei fedd.

Er mai yn Boston y ganwyd Elihu, o Blas-yn-Iâl ger Wrecsam y mudodd ei dad i'r America yn 1637.

Mae mynediad i'r eglwys - sy'n cael ei hystyried yn un o saith rhyfeddod Cymru - drwy giatiau haearn trawiadol a wnaed gan weithwyr haearn enwog o'r ardal yn y ddeunawfed ganrif, Robert a John Davies.

Enwogion Wrecsam
Nid yw Wrecsam heb enwogion eraill ychwaith. Yn Neuadd Acton y ganwyd y Barnwr Jeffreys, y crogwr enwog.

Yn Wrecsam hefyd y dienyddiwyd Richard Gwyn, ysgolfeistr o Lanidloes, yn 1584, wedi ei gyhuddo o frad oherwydd ei ddaliadau Pabyddol.

Y mae Wrecsam yn ganolbwynt i nifer o bentrefi diwydiannol fel Rhostyllen, Y Bers, Coed-poeth a'r Mwynfa neu Minera lle mae gweddillion hen weithfeydd plwm wedi eu hadfer ar gyfer ymwelwyr.

Y mae'r Bwlchgwyn yn cael ei ddisgrifio fel y pentref uchaf yng Nghymru er nad yw'n ymddangos felly!

I gyfeiriad Caer y mae hen waith glo Gresffordd lle bu tanchwa mor ddychrynllyd yn y tridegau, ac syn dal yn rhan o gof gwerin yr ardal.

Ardal hyfryd yw Dyffryn Clywedog gyda'i llwybrau i gerddwyr ac yn arwain i hen waith haearn Y Bers a sefydlwyd yn yr ail ganrif ar bymtheg i greu peli gynnau mawr i'r brenhinwyr yn ystod y Rhyfel Cartref.

Yma hefyd y dyfeisiwyd math newydd o ganon a ddefnyddiwyd yn Rhyfel Cartref America ac yn erbyn Napoleon yn Ewrop. Yng Nghanolfan treftadaeth Y Bers y mae ystafell i goffáu y gŵr y tu ôl i hyn oll, John "Iron-mad" Wilkinson.

Atyniad lleol poblogaidd arall ydi plasty Erddig lle mae deunawfed ganrif ei adeiladu yn cael ei hail-fyw er difyrrwch i ymwelwyr.



Cyfrannwch

Jessica Davies o Wrecsam
Mae Wrecsam yn wych! Mae ysgolion, hefyd siops, natur...beth arall ydych chi eisiau?
Sat Nov 1 20:48:44 2008

Ceri Millen
omaigod!! dach chi'n disgrifio wrecsam fel ryw tip-hole i fyw yn!! Ma Wrecsam gyda ardaloedd mooooor brydferth fel Mynydd minera, a erbistock xxxx
Wed Jun 20 12:44:54 2007

Carys Mol o Wrecsam
Dw i'n mwynhau fyw yn Wrecsam yn fawr!Rydw i'n mynd i ysgol arbennig, sy'n teimlo'n Gymraeg iawn. Mae 'na gymaint o bethau i wneud hefyd, e.e. siopa, nofio, parciau.....Yn fy marn i, Wrecsam yw un o'r llefydd orau i tyfu fyny!C'mon Eisteddfod yr Urdd! Fedra'i ddim aros! xox
Fri May 25 22:11:50 2007

Paul Matthias
Arbennig - mae gan Wrecsam popeth sydd ei angen - heblaw am farchnad digon da. Siomedig am yr ysgolion :D
Wed Mar 28 22:59:28 2007

Lois Morus
Mae Coedpoeth yn gret a mae Wrecsam yn agos iawn i fi gael mynd i nofio neu i siopa efo fy ffrindiau. Ydych chi yn gwybod pryd mae Steddfod yr Urdd yn dod i Wrecsam nesaf?
Thu Oct 19 12:01:05 2006

Tesni Prys Mathias Jones
Mae Wrecsam yn lle gwych i fyw!! Mae yna lawer o bethau i wneud yma e.e mynd i'r llyfrgell os rydych yn hoffi darllen neu siopa ar gyfer y bobl sydd yn hoffi gwario arian!Alla i ddim disgwyl tan mae Eisteddfod yr Urdd yn dod i Wrecsam ynwaith eto! Mi roedd o'n wych!!!
Thu Oct 19 10:01:44 2006


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý