Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Ennis Lewis Peter Roberts - BEM
Bu sawl aelod o deulu Ennis Lewis o Drelogan yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw ym Mhrestatyn yn gweithio yn y Parlwr Du ac fe gafodd ei thaid ei anrhydeddu am y gwasnaeth hiraf yn y pwll.

"Roedd sawl ewythr ar ochr fy mam yn gweithio lawr y pwll ac roedd fy nhaid - Peter Roberts o Gwespyr - hefyd yn gweithio yn y Parlwr Du.

Peter Roberts

"Fe oedd y glowr gyda'r gwasanaeth hiraf yn y pwll. Nid wy'n siwr ond mae'n bosib iddo weithio yno am 70 mlynedd.

"Cafodd ei wobrwyo gyda medal y BEM - y British Empire Medal.

"Y stori 'dwi 'di clywed yw na gafodd ei wahodd, ond yr hanes gan aelodau eraill o'r teulu yw nad oedd yn methu mynd i Lundain oherwydd iddo golli ei wraig - fy nain.

"Mae'n debyg iddynt ddod i ogledd Cymru i'w wobrwyo gyda'r BEM.

"Enillodd fy nhad ysgoloriaeth addysg, ond yn 14 oed gwrthododd taid iddo fynd - roedd rhaid iddo fynd lawr y pwll.

Y Fedal

"'Dwi'n meddwl mai fo oedd yr unig fab aeth lawr y pwll.

"Doedd o ddim eisiau mynd lawr y pwll - roedd hi'n waith caled.

"Roedd o'n rhwystredfig oawn ac roedd yn casau gweithio lawr y pwll.

"Ar ôl priodi fe aeth i weithio ar y rheilffyrdd ac fe ail-gydiodd yn ei addysg yn hwyrach ymlaen."




0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý