Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Staff y British School Hawlfraint Archif Wrecsam Addysg Oes Fictoria
Roedd y Fictoriaid yn rhoi bri ar addysg, ond dim ond addysg sylfaenol iawn a dderbyniai'r rhan fwyaf o blant.

Roedd ysgolion rhad yn brin. I lawer, yr Ysgol Sul oedd yr unig ysgol oedd ar gael. Roedd y plant oedd yn mynd i'r ysgol yn dysgu darllen, ysgrifennu a rhifyddeg, yn astudio'r Beibl ac yn dysgu'r catecism ar eu cof.

Fel arfer roedd y plant yn gorfod dysgu popeth ar eu cof. Roedd papur yn gostus, llyfrau yn brin oherwydd hynny, a dim ond llechi ar gael i ysgrifennu arnyn nhw. Saesneg oedd cyfrwng y gwersi. Dim ond yn yr Ysgolion Sul y ceid y Gymraeg.

Roedd crefydd yn fater o bwys yn addysg y 19eg ganrif. Cefnogai Eglwys Lloegr yr Ysgolion Cenedlaethol yn Y Waun, Rhiwabon, Rhos a Wrecsam. Roedd yr Anghydffurfwyr yn anfon eu plant i'r Ysgolion Prydeinig, fel yr un yn Brook Street, Wrecsam.

Yn 1847, sefydlodd y llywodraeth Gomisiwn i Ymchwilio i Gyflwr Addysg yng Nghymru. Roedd gan y Comisiynwyr lawer o ragfarnau ynghylch yr iaith Gymraeg ac Anghydffurfiaeth.

"The scholars are very dirty and ragged, uncouth... and being altogether uncivilized, appear to require discipline even more than instruction." Adroddiad am Ysgol Brydeinig, Rhosllannerchrugog, 1847.

Dadlennodd Adroddiad y comisiynwyr ar yr ysgolion yng nghyffiniau Wrecsam pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa; athrawon nad oedden nhw wedi derbyn fawr ddim hyfforddiant ac ysgolion prin eu hadnoddau.

Achosodd yr adroddiad gryn gynnen, ond fe'i gwelwyd yn lleol fel her. Agorwyd Ysgolion Cenedlaethol newydd yn Wrecsam a Rhiwabon a thalodd y teuluoedd bonheddig lleol am Ysgol i'r Tlodion yn Wrecsam i ddarparu addysg i blant o deuluoedd tlawd.

Yn 1870, sefydlodd y Llywodraeth fyrddau ysgolion oedd yn cael eu hethol yn lleol.

Eu swyddogaeth oedd darparu addysg i'r traean o blant nad oedden nhw'n mynychu'r ysgol, ynghyd â gwella'r ysgolion oedd yn bodoli eisoes.

Sylweddolodd y gwahanol eglwysi y byddai pwy bynnag oedd yn rheoli'r byrddau ysgol hefyd yn rheoli addysg yr ifanc.

Fodd bynnag, sicrhaodd y farn gyhoeddus, a gâi ei harwain gan bapurau lleol, nad oedd un eglwys yn tra-arglwyddiaethu ar y bwrdd ysgolion.

Roedd safbwyntiau cryfion ynghylch yr hyn y dylai plant ei ddysgu yn yr ysgol.

Teimlai llawer mai dim ond y medrau oedd yn eu paratoi i fod yn weision neu forynion oedd yn briodol i enethod, tra oedd angen rhoi pwyslais ar waith ymarferol yn yr addysg i fechgyn.

Yn raddol, sefydlwyd Ysgol Bwrdd ym mhob cymuned gan y Bwrdd Ysgolion i ddiben darparu addysg elfennol [cynradd], ar wahân, i fechgyn a genethod.

Erbyn 1901 roedd addysg yn rhad ac yn orfodol hyd at 13 oed, er y byddai plant yn colli'r ysgol weithiau oherwydd eu bod yn gorfod gweithio.

"Attendance has suffered during the current week on account of many children having to help their parents in the potato fields." George Bristow, Log yr Ysgolfeistr, Bwrdd Ysgol Y Bers.

  • Y tlawd



  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý