Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
cantorion
Caryl Parry Jones
Caryl Parry Jones

Ganwyd: 1958

Magwyd: Prestatyn

Addysg: Ysgol Mornant, Ffynnon Groyw ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy


Un o'n cantorion enwocaf, perfformwraig, hyfforddwraig a Bardd Plant Cymru.

Ganed yn 1958 ym Mhrestatyn ar aelwyd gerddorol. Mae ei thad, Rhys Jones, yn fwy adnabyddus fel cyflwynydd cerddoriaeth ar y radio a bu am flynyddoedd yn gyflwynydd Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Bu hefyd yn feirniad cerdd ac arweinydd corau.

Roedd ei mam, Gwen, yn hyfforddi plant lleol ar gyfer cyngherddau ac eisteddfodau. Wedi ei magu mewn awyrgylch a bwrlwm fel hwn, does ryfedd i Caryl etifeddu dawn mor rhyfeddol.

Mynychodd Ysgol Mornant, Ffynnon Groyw ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy a Phrifysgol Cymru, Bangor, lle'r astudiodd y Gymraeg a Chymdeithaseg.

Tra yn yr ysgol, ffurfiodd y band Sidan. Gyda'u harmonïau clos a chaneuon swynol fel 'Ble'r ei di?' ac 'Ai Cymro Wyt Ti?', daeth y band yn boblogaidd yn fuan iawn gan chwarae mewn cyngherddau a nosweithiau llawen o Fôn i Fynwy.

Rhyddhawyd dwy record fer ac un record hir gan Sidan, sef 'Teulu Yncl Sam'. O ystyried oed y genod, roedd yn record aeddfed a rhagorol, sy'n parhau i swnio'n ffres fwy na chwarter canrif yn ddiweddarach.

Tra roedd yn y coleg, ymunodd â'r 'supergroup' Cymraeg cyntaf, Injaroc. Roedd yr aelodau yn cynnwys y rhelyw o gyn-aelodau Edward H, Endaf Emlyn a Geraint Griffiths. Er na pharhaodd y grŵp am fwy na naw mis a llond llaw o gigs, rhyddhawyd un record 'Halen y Ddaear', sy'n tystio i botensial aruthrol y grŵp. Roedd hefyd yn gam pwysig iawn yn natblygiad cerddorol Caryl, a chafodd un o'i chaneuon oddi ar yr albym, 'Calon', ailwampiad disgo gan y band Diffiniad yn y 1990au.

Ar ôl gadael y coleg, dechreuodd Caryl gyflwyno rhaglenni fel y rhaglen blant Bilidowcar a'r gyfres bop, Sêr 2. Yn ystod yr un cyfnod, ffurfiodd Bando gyda grŵp o gerddorion Caerdydd, a hithau'n brif leisydd. Rhyddhawyd eu record hir cyntaf, 'Hwyl ar y Mastiau' yn 1980, a oedd yn cynnwys y clasur 'Space Invaders'.

Roedd adleisiau o reggae a ffync Injaroc i'w glywed yn y cyd-chwarae, ac roedd ail albym Bando 'Shampw' (1982) yn dilyn y trywydd hwnnw hefyd. Ar y record honno y mae'r gân a gysylltir amlaf â Caryl, 'Chwarae'n troi'n chwerw'.

Pan chwalwyd Bando, dechreuodd Caryl berfformio o dan yr enw Caryl a'r Band, a pharhaodd i gyflwyno rhaglenni teledu. Bu'n actio yn y ffilmiau Gaucho (1983) a The Mimosa Boys (1983), ond nid oedd actio'n strêt yn mynd â'i bryd.

Ysgrifennodd sgript a chaneuon Y Dyn Nath Ddwyn y Nadolig (1985) ar y cyd â Hywel Gwynfryn, ffilm i blant a dderbyniodd gryn glod ac a ddaliodd yn nychymyg ieuenctid Cymru.

Cafodd gyfle i arddangos ei doniau dynwared aruthrol yn y gyfres Dawn, a dyma gyflwyno cymeriadau Glenys, Lavinia a Delyth i'r byd! Yn dilyn hynny, perfformiodd mewn pedair cyfres ei hun (Caryl, 1983-1987) a oedd yn gyfuniad o berfformiadau cerddorol a sgetsys. Y cymeriadau hyn oedd y sail ar gyfer y ffilmiau Ibiza, Ibiza! (1986) a Steddfod, Steddfod (1989), gyda chymorth Siw Hughes ac Emyr Wyn.

Heb os, roedd seren ddisgleiriaf Cymraeg S4C yn yr 1980au wedi dod o hyd i'w llais y tu allan i'r stiwdio recordio, ac mae'r cymeriadau hyn wedi eu serio ar gof cenhedlaeth o wylwyr.

Dydi Caryl byth ymhell iawn o'r sgrîn deledu, ac yn fwy diweddar, bu'n hyfforddi tu ôl i'r llwyfan ar y gyfres Wawffactor ar S4C. Mae'n parhau i chwarae'n fyw gyda'i band newydd, Y Milionêrs, a rhyddhaodd albym newydd 'Adref' (2005), a gafodd groeso ymysg ei chefnogwyr ffyddlon.

Mae bellach yn byw yn y Bont-faen y tu allan i Gaerdydd lle mae wedi magu ei theulu gyda'i gŵr Myfyr Isaac.

Cyfraniad arbennig
Caryl gyda'i gwobr yn seremoni Gwobrau RAP 2007Cydnabyddwyd cyfraniad Caryl i'r byd cerddorol yng Nghymru a'i brwdfrydedd wrth gyfrannu at ei ffyniant pan enillodd wobr cyfraniad arbennig i gerddoriaeth yng Ngwobrau Roc a Phop (RAP) Â鶹Éç Radio Cymru 2007.

Meddai'r DJ Ian Cottrell, a oedd yn cyflwyno'r wobr iddi yn y seremoni yn Venue Cymru, Llandudno : "Dwi'n ffan 'masif' o Caryl a nes i dyfu lan gydag Injaroc a Bando. Mae hi'n gyfansoddwraig anhygoel ac iddi hi mae'r diolch am dynnu cerddoriaeth Gymraeg y 70au i mewn i'r 80au. Roedd ei phroffesiynoldeb hi wrth gynhyrchu yn gosod y safon i grwpiau eraill, ac mae'n dal i wneud hynny heddiw.

"Hi yn fwy na neb ddaeth â dylanwad Americanaidd disco, ffync a soul i gerddoriaeth Gymraeg gan eu lapio mewn parsel pop mainstream. Ei chân hi oedd Calon ac roedd yn grêt mod i a Diffiniad wedi gallu ail-ryddhau'r clasur pop."

Bardd Plant
Yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2007 cafodd Caryl ei gwneud yn Fardd Plant Cymru ar gyfer 2007-2008, yr wythfed person i ddal y swydd.

Yn aelod o dîm beirdd Y Taeogion sy'n cystadu'n gyson ar raglen barddoni Â鶹Éç Radio Cymru, y Talwrn, dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at y gwaith: "Does dim yn fwy deniadol, gonest a byw na dychymyg plentyn ac mae cael cyfle i grwydro drwy'r tiroedd breision hynny yn ddim llai na braint. Dwi'n gobeithio cael oriau o hwyl a sawl agoriad llygad," meddai.

  • Cliciwch yma i gael stori Caryl yn Fardd Plant Cymru yn llawn

  • Cyfrannwch

    Dosbarth Mr Thomas, Ysgol Aberhafesp
    Rydym yn canu un o ganueon Caryl yn y sioe Nadolig. Does neb ohonom yn siarad Cymraeg - eto! Ond mae Mrs Sali Ann Preston a Mr Thomas yn ceisio eu gorau i'n cael ni yn rhugl! Diolch am y gan!
    Tue Dec 9 15:24:48 2008

    Gary Jones Bala
    Mae hi yn hen bryd i Caryl rhyddau ffilmiau, y dyn nath dwyn nadolig, ibiza ibiza a'r gweddill.
    Mon Aug 27 17:11:19 2007

    Joyce Roberts o'r Parc
    Mae Caryl yn wir ffefryn i mi, a byddaf yn gyson yn gwrando ar ei chrynno ddisgiau yn y ty ac yn y car. Yn wir, rwyf yn ffanatic am y ferch dalentog yma. Hoffwn pe tawn i yn gallu canu fel y hi.
    Mon Jul 23 15:24:56 2007

    huw caerdyd
    ysgwn oes gan unrhyw un gopt o'teulu yncls sam'gan y grwp pop SIDAN ???
    Fri May 4 17:57:59 2007

    Emma Edwards o Landysul
    Mae'r dudalen yn eithaf da ond mae angen mwy o wybodaeth a mwy o luniau am Caryl Parry Jones.
    Wed Apr 18 15:09:20 2007


    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý