Erin yn seren 'Little Star'
Dysgu'r trwmped mewn diwrnod
Ond pwy fydd yn pigo nesaf?
Yr her i Erin Richards, un o gyflwynwyr Mosgito, ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod oedd dysgu canu Twinkle, Twinkle, Little Star ar y trwmped cyn hanner awr wedi tri y pnawn.
Ac fe brofodd Erin yn dipyn o seren ei hun - trwy gyflawni'r her a osodwyd iddi gan ei chyd gyflwynydd, Trystan, am hanner awr wedi deg y bore ar y teledu.
"Ych chi byth yn gwybod gyda Trystan! - ac fe dreulies i'r diwrnod wedyn yn cael gwersi ac awgrymiadau gan aelodau o'r gwahanol fandiau oedd yn cystadlu yn yr Eisteddfod ar y diwrnod," meddai Erin sydd yr wythnos hon yn un o gyflwynwyr rhaglenni y 麻豆社 o faes y Brifwyl.
"Yr oedd e'n lot o hwyl."
Ac am hanner awr wedi tri ar y teledu gwelwyd ei pherfformiad cyntaf gydag Alex ac Alun o fand Crwbin yn cynorthwyo yn y cefndir.
"Ac fe aeth pethau'n gr锚t a dim ond un nodyn ddim yn berffaith - rwy'n edrych ymlaen yn awr at ymuno a band o ryw fath fy hun," meddai Erin dan wenu.
"Mae fy nghariad mewn band roc - efallai gwnai ofyn iddo fe!" meddai.
Er ei bod yn canu'r git芒r, y delyn a'r piano dywedodd mai hwn oedd y tro cyntaf iddi geisio canu offeryn chwyth."
"Yr oedd e ychydig yn haws nag oeddwn i wedi ofni," meddai, "unwaith yr oeddwn i wedi dysgu cyffyrddiad y gwefusau."
"Ac yr oedd Trystan, sy'n chwarae'r tromb么n wrth ei fodd. Yn eithaf impressed," meddai.
Ond gwrthododd Erin ddatgelu a fydd hi'n ceisio talu'r pwyth yn 么l yn ystod yr wythnos am yr her annisgwyl.
"Dwi ddim am ddweud - ond mae e yn syniad. Gwyliwch chi!
Arwydd nad oes wybod gyda chriw Mosgito pwy fydd yn pigo nesaf!