Â鶹Éç

Gwaith celf gan seiciatrydd

Artist yn treiddio i'r meddwl

Bydd gwaith celf gan seiciatrydd i'w weld ar faes yr Eisteddfod gydol yr wythnos.

Dangosir gwaith Rhys Bevan Jones, Darlunio'r Meddwl, yn arddangosfa agored Y Lle Celf - y pafiliwn celfyddydau gweledol.

Meddai Rhys, 32 oed, sy'n gweithio ym myd iechyd meddwl yng Nghaerdydd ond yn dod o Landysul yn wreiddiol:

"Rwy'n ymddiddori yn y berthynas rhwng y byd gweledol a meddygaeth, yn enwedig seiciatreg a seicoleg.

"Rwyf wedi ymchwilio'r berthynas hon drwy edrych ar yr ochr therapiwtig, er enghraifft, seicotherapi a'r celfyddydau mewn iechyd yn ogystal â defnyddio delweddau a gwaith celf a ffilm er mwyn dysgu agweddau seiciatreg i fyfyrwyr meddygol.

"Yn ogystal, rwyf wedi astudio sut mae'r meddwl a'r ymennydd wedi cael eu portreadu drwy hanes fel mapiau'r meddwl. Fel rhan o'r ymchwil holais fy ffrindiau, fy nheulu a'm cydweithwyr sut y maent yn 'gweld' y meddwl ac rwyf wedi darlunio rhai o'r syniadau hyn drwy ddefnyddio pen ac inc a gwneud printiadau leino a cholograff, gan ddefnyddio delweddu digidol i ddod â'r cyfan at ei gilydd.

"Mae gen i ddiddordeb mewn sut mae delweddau'n gallu cyfleu syniadau cymhleth mewn ffyrdd syml, effeithiol ac, weithiau, doniol. Mae'r ddelwedd ei hun maint A1 ac yn cynnwys rhyw 20 syniad gwahanol."

Dywedodd Rhys - sy'n cyfrif Edward Much (Y Sgrech) a Saul Steinberg ymhlith ei hoff artistiaid - iddo ymddiddori mewn darlunio ers yn blentyn.

"Roeddwn i'n ddigon lwcus i gael fy nghomisiynu i ddarlunio llyfrau ac ennill cystadlaethau, er enghraifft, i ddylunio logos ar gyfer sefydliadau a digwyddiadau, gan gynnwys yr Eisteddfod," meddai.

Pwysleisiodd Robyn Tomos, Swyddog Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod, nad yw'r arddangosfa agored flynyddol yn gyfyngedig i artistiaid proffesiynol yn unig.

"Dros y blynyddoedd mae gwaith gan gyn weithwyr dur, cyn nyrsys a meddygon wedi cael eu dewis," meddai.


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.