麻豆社

Gwilym Owen

Steddfod Gwilym Owen

Ambell i frathiad o wersyll Pontcanna - bob dydd

Diffyg brwdfrydedd Nedwyn heb ball!

Cyfarchion o wersyll cynnull Pontcanna ble mae jyncet niwrotig flynyddol Cymreeictod yn mynd ff诺l sb卯d.

Ond dal i wrthod cael ei styrbio gan y cenedlaethol d芒n y mae Nedwyn John y cyfaill o gi bach sy'n cadw cwmni i ni ers blynyddoedd yn Stafell y Wasg.

Chafodd o mo'i gyffroi gan y sibrwd bod Brian Hanrahan gohebydd enwog Rhyfel y Malvinas yma yn arbennig i gyfrif addolwyr oedd wedi dod i'r Maes yn rhad ac am ddim i wrando ar Archesgob Cymru yn pregethu yn y Pafiliwn.

Tybed a gawn ni ei glywed o'n dweud; "Fe'u cyfrais i nhw i mewn ac fe'u cyfrais i nhw i gyd ar y ffordd allan."

Gobeithio te, yn enw egwyddor.

Celpan llyfr

Sgwn i hefyd a welwn ni aelodau Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn mwynhau darllen cyfrol newydd Gwion Lewis, Hawl i'r Gymraeg o Wasg y Lolfa a gyhoeddir ar y Maes heddiw.

Mae'r awdur yn honni nad oes gan yr aelodau ddigon o arbenigedd mewn meysydd ieithyddol.

Yn wir, medda fo, dim ond un ohonyn nhw a all honni bod ganddo brofiad sylweddol o gynllunio ieithyddol - a dydi hwnnw ddim yn dangos llawer o arweiniad medda fo wedyn.
Wps - hen gelpan gas.

Iaith cyfathrebu

Ac o'm rhan i siawns nad ydi Leanne Wood, aelod Plaid Cymru, yn y Cynulliad dros Ganol De Cymru yn haeddu bonclust fechan am anfon datganiad i'r Wasg yn gwneud m么r a mynydd o'r ffaith mai'r Gymraeg yn unig fydd hi'n siarad ar y Maes heddiw.

Ond mae hi wedi tua'r Bae yna ers blynyddoedd cofiwch.

Nedwyn John - mor ddi-ddiddordeb ag erioed

Plismyn iaith ar y b卯t

Ac o s么n am Gymreictod y Maes mae'n ymddangos fod dau blismon iaith swyddogol y Steddfod wedi cael cwmni annisgwyl eleni ar eu taith o gwmpas y stondinau ddydd Sadwrn; Prifardd o Eifionydd oedd Plismon Rhif Tri ac yn cynrychioli Cymdeithas yr iaith Gymraeg yn 么l y s么n.

Ac mae sibrydion ei fod o wedi dangos ei ddannedd fwy nag unwaith.
A glywn ni fwy am hyn yn ystod yr wythnos tybed?

Argyfwng t芒n?

A oes rhywun a 诺yr i ble roedd un o weinidogion yr Annibynwyr yn rhuthro ar draws y Maes fore ddoe efo diffoddwr t芒n mawr coch yn ei law?

Does bosib fod pethau wedi mynd yn boeth ar stondin Cytun - yn enwedig gan fod Cyngor Alcohol a Chyffuriau Cymru yn noddi diodydd arbennig i'r ifanc eleni am y tro cyntaf erioed.
Iechyd da!

Chwerthin? Na ddim

A llongyfarchiadau hefyd i ddwy o ysgolion uwchradd Cymraeg Caerdydd ar ddathlu dau ben-blwydd go arbennig.

Ac fe gawson nhw glamp o sbloet ar lwyfan y Pafi Pinc nos Wener i agor y Brifwyl.

Popeth yn dda - roedd yn syniad ardderchog ond, sori, sioe i bobl y Brifddinas ei hunan oedd hon nid un i'w theledu yn ei chrynswth.

Ond eto fe brofodd y sioe un peth imi - nid y ffaith mod i'n hen gojar o josgin cefn gwlad sy'n cyfrif na fedra i byth chwerthin yng nghwmni y ddau 'standyp' Daniel a Matthew Glyn.

Yn 么l tystiolaeth nos Wener dydi pobl ddinesig, soffistigedig, Caerdydd ddim yn chwerthin chwaith.

Ac mae hynny'n gwneud i mi deimlo'n well!

O wersyll cynnull Pontcanna, hwyl fawr.

Mae Gwilym Owen yn darlledu o'r Steddfod ar y Post Cyntaf, 麻豆社 Radio Cymru, bob bore.


麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.