Ffynhonnau oedd thema Oedfa'r Eisteddfod fore Sul, Awst 5, gyda'r Parchedig Elfed ap Nefydd Roberts yn annerch rhwng y gwahanol gyflwyniadau. Dyma gynnwys ei anerchiad yn llawn.
Arweiniad
Thema ein hoedfa y bore 'ma yw Ffynnon Ffydd..
Mae'r ddelwedd o'r ffynnon wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd crefyddol Cymru dros y canrifoedd, o oes i seintiau cynnar hyd heddiw. O fewn cwta ddeng milltir i safle'r Eisteddfod y mae un o'r hynaf a'r pwysicaf o ffynhonnau Cymru, Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon.
Yn ôl y chwedl fe darddodd y ffynnon ar yr union fan y codwyd y Santes Gwenffrewi o farw'n fyw gan ei hewyrth, Beuno Sant a thros y canrifoedd mae Ffynnon Gwenffrewi wedi denu pererinion wrth eu miloedd ac mae'n dal i wneud hynny.
Ond i ni symbol yw'r ffynnon o ffydd fyw, a'i ffrydiau o ddŵr glân, gloyw, byrlymus yn arwyddo effeithiau ffydd, yn iacháu, puro, bywhau ac ysbrydoli. Hanfod a chanolbwynt y ffydd honno yw'r Arglwydd Iesu Grist. Ymuno ym moliant y cyfanfyd - haul lloer a sêr - a wnawn ni yn ein hemyn cyntaf i ddatgan mai Iesu yw'r Iôr: 'Canwch yr Halelwia i Iesu, ein Iôr'.
Emyn
Y Ffynhonnau
'Iesu yw'r Iôr! ohono ef daw bywyd.' Ffynhonnau'r Ffydd heddiw yw'r cyfryngau hynny sy'n dwyn bywyd Crist i'n cyrraedd ni ac i gyrraedd ein byd.
O safbwynt Cristionogaeth Gymraeg y ffynhonnau hynny yw'r capeli a'r eglwysi sy'n cynnal eu haddoliad a'u tystiolaeth trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Yn y rhan hon o Gymru, fel mewn llawer ardal arall, y mae'r capeli Cymraeg wedi lleihau'n arw o ran eu nifer ond y mae'r rhai sydd wedi goroesi yn parhau yn ffyddlon ac yn weithgar ac yn dwyn tystiolaeth i bwysigrwydd ffydd fel ffynhonnell diwylliant a moesoldeb a'r gwerthoedd uchaf.
Yr hyn sy'n drist yw fod cymaint o'n cyd Gymry bellach heb weld unrhyw werth yn y ffynhonnau ac wedi cefnu ar yr hyn y mae nhw'n ei ystyried yn sefydliadau hen ffasiwn, yn cynnal traddodiad marw.
Fel y peidiodd pobl â chredu yn rhinwedd dyfroedd yr hen ffynhonnau, mae yna lawer o Gymry sydd wedi peidio â chredu fod gan ein capeli a'n heglwysi unrhyw beth o werth i'w gynnig i'n byd ac i'n cenedl. Yn eu golwg hwy 'does yna ddim byd yn y dŵr, na chwaith yn y ffydd sy'n rhoi i'r dŵr ei rin.
Ffynnon Ffydd
Wrth gerdded i fyny'r mynydd at Ffynnon Rasmws yr oedd pobl yn gwella, nid wrth yfed y dŵr. Ac wrth gerdded i gyfeiriad ffynhonnau'r ffydd y mae canfod ystyr a diben bywyd.
Nid mynychu capel neu eglwys yn unig (er ei fod yn cynnwys hynny,) ond sicrhau fod holl ogwydd a chyfeiriad ein bywyd tuag at hanfod a gwrthrych ffydd, sef Iesu Grist.
Wrth ddod at ffynnon i godi dŵr y cyfarfyddodd gwraig o Samaria â Iesu a chael ganddo ddŵr rhagorach na dim a gai o'r ffynnon.
Yn union dros y ffin o Sir Y Fflint y mae dinas Caer ac yng ngardd Eglwys Gadeiriol Caer y mae cerflun hynod o Iesu a'r Wraig o Samaria gan y cerflunydd, Stephen Broadbent.
Mae'r cerflun, sydd wedi ei osod mewn ffynnon yng nghanol yr ardd, yn portreadu Iesu yn derbyn padell o ddŵr o ddwylo'r wraig, ac wrth wneud hynny'n edrych i fyw ei llygaid. Ond yr hyn sy'n drawiadol yw fod dŵr yn byrlymu o'r badell ac yn llifo i'r ffynnon islaw. Yr hyn sy'n cael ei gyfleu gan y cerflun yw fod pob cyfarfyddiad â Christ yn troi yn ffynnon - yn ffynhonnell bywyd a gobaith a chychwyn newydd. Dyna'n sicr fu profiad y wraig o Samaria.
Cyflwyniad: 'Iesu a'r Wraig o Samaria.'
Cân: 'Diolch ein Tad am weld dy gariad hael.'
Ffydd - Ffynnon Diwylliant
Yn y gerdd hyfryd yna mae'r Parchedig John Gwilym Jones yn diolch am y ffynnon sy'n 'llifo i'n bywydau ni;
Er baeddu'n daear ac er llygru'r tir,
Diolch am ffynnon lle mae'r ffrwd yn glir.'
O ffynnon ffydd y mae cymaint o bethau gwerthfawr yn tarddu. Un ohonyn nhw ydi diwylliant. Neu, hwyrach y dylwn i ddweud, gwir ddiwylliant, oherwydd mae'r gair diwylliant, yn enwedig y gair Saesneg culture wedi colli llawer o'i ystyr. Mae wedi mynd i olygu ffordd pobl o fyw, o feddwl ac o ymagweddu.
Fel y dywedodd yr Archesgob Derek Warlock o Lerpwl rai blynyddoedd yn ôl, 'Diwylliant (culture) yw be sy'n digwydd ffordd hyn.' O ganlyniad fe glywn ni bobl yn sôn am 'ddiwylliant cyffuriau,' 'diwylliant ieuenctid,' 'diwylliant trais.'
Y gair Cymraeg
Ond y mae tarddiad y gair Cymraeg, di-wylltio, yn amgrymu fod diwylliant yn fater o wareiddio bywyd, o'i godi i lefel uwch tuag at y cain, y prydferth a'r dyrchafol; o ymhyfrydu, chwedl Paul, 'ym mha beth bynnag sydd bur, pa beth bynnag sydd hawddgar, pa beth bynnag sydd ganmoladwy, pob rhinwedd a phopeth sy'n haeddu clod.'
Ac fe gawn ni gyfle yn yr eisteddfod hon, fel ymhob eisteddfod arall, i fwynhau a dathlu cerddoriaeth, llenyddiaeth, barddoniaeth a chelfyddyd, a hynny yn ein hiaith ein hunain ac yn erbyn cefndir ein hetifeddiaeth fel Cymry. Gweithgarwch creadigol ydi diwylliant : dathlu ac adlewyrchu prydferthwch y byd a dirgelwch bywyd. I Gristnogion y mae popeth creadigol yn deillio o'r Creawdwr mawr ei hun.
Y mae pob portread o brydferthwch yn deillio o ffynhonnell pob prydferthwch, y Duw prydferth ei hun. Ac y mae pob ymgais i blymio i ddirgelwch bywyd yn deillio o ddyhead i blymio dirgelwch rhyfeddol y Duwdod.
Felly, yn yr ystyr ehangaf, y mae pob gwir ddiwylliant yn grefyddol, yn tarddu o Dduw ac yn ein cyfeirio at Dduw. Mae Simone Weil yn sôn am brydferthwch y byd fel gwên dyner Duw yn ein cyrraedd trwy ei gread, a phob gweithgaredd creadigol yn tarddu ohono ac yn offrwm iddo. Dyna pam y mae gwir ddiwylliant, wrth ymhyfrydu yn y prydferth, hefyd yn ymchwil am wirionedd, ac yn symbyliad i ddaioni.
A dyna yw ystyr dweud mai ffydd yw ffynnon diwylliant. Cefnwn ni ar ffydd ac y mae'r hull ac aflednais yn cymryd lle'r prydferth; mae celwydd yn diorseddu'r gwir ac y mae drygioni'n alltudio daioni. Diolch am y ffynnon sy'n dal i olchi'r aflan ac i'n tywys at y glân, y pur a'r prydferth. A dyna yw thema ein hemyn nesaf: 'Caned nef a daear lawr, / fe gaed ffynnon.'
EMYN
Ffydd - ffynnon moesoldeb
Ydi, mae ffynnon ffydd yn ein glanhau, yn ein rhyddhau o afael ein pechodau ac yn estyn i ni faddeuant. Ond y mae'n gwneud mwy na hynny - mae'n rhoi i ni werthoedd a safonau moesol i ymgyrraedd atyn nhw.
'Dywedodd wrthyt, feidrolyn, beth sydd dda, a'r hyn a gais yr Arglwydd gennyt,' meddai'r proffwyd Micha.
Duw sydd yn rhoi i ni werthoedd ac egwyddorion ac yn dangos i ni sut y dylem ni fyw, sef, meddai Micha eto, 'gwneud beth sy'n iawn, caru ffyddlondeb a rhodio'n ostyngedig gyda'th Dduw.'
Mae'r Beibl drwyddo, yn y Deg Gorchymyn, yn y Bregeth ar y Mynydd, ac yn fwy na dim, ym mywyd ac esiampl yr Arglwydd Iesu Grist yn rhoi i ni ganllawiau moesol i'w dilyn a'u hefelychu. A does dim dwywaith mai un o ganlyniadau cefnu ar grefydd, ffydd ac addoli, yw'r chwalfa foesol sy'n tanseilio bywyd cymdeithas heddiw.
O droi cefn ar ffydd fe welson ni dwf yr athroniaeth unigolyddol sy'n datgan nad oes yna bellach ddim safonau moesol cyffredin, gwrthrychol; mae be sy'n iawn ydi be sy'n iawn i mi; be sy'n dda ydi be sy'n dda i mi, a be sy'n ddrwg ydi be sy'n anghyfleus, neu'n annerbyniol i mi.
Ac y mae hyn wedi esgor ar genhedlaeth sydd ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg; sydd ddim yn gweld dim o'i le ar ladrata a lladd a thwyllo; sy'n credu bod purdeb yn chwerthinllyd o hen ffasiwn a dweud celwydd yn gwbl normal.
Tua deugain i hanner can mlynedd yn ôl peth cyffredin oedd clywed pobl yn dweud na fedren nhw ddim derbyn athrawiaethau'r ffydd Gristnogol. Fedren nhw ddim credu mewn gwyrthiau ac atgyfodiad a'r elfennau goruwchnaturiol mewn crefydd, ond roedden nhw'n bendant eu bod am lynu wrth ddysgeidiaeth foesol Cristnogaeth - wrth egwyddorion y Bregeth ar y Mynydd a'r Damhegion.
Ond erbyn hyn mae'r ddysgeidiaeth foesol hefyd wedi ei thaflu o'r neilltu. Mae W Rhys Nicholas yn ei Salm i'r Gweddill yn dweud mai gwaith pobl Dduw heddiw yw tynnu
'y dŵr o ffynhonnau doe
I gawgiau'r heddiw blin,
A bydd yfory'n gwybod gwerth y gamp...'
sef dal ati i dystio i ffordd dra rhagorol Iesu Grist.
Dysgeidiaeth foesol Iesu sy'n cynnig ffordd i ni o afael y trais, y gormes a'r rhyfela a'r sy'n bygwth dyfodol ein byd. Iesu sy'n ein dysgu mai'r unig ffordd i oresgyn casineb yw trwy garu; mai'r unig ffordd i oresgyn trais a chreulondeb yw trwy ymarfer addfwynder a chymod; mai'r unig ffordd i oresgyn dirmyg a loes yw trwy faddau. Mae hon yn ddysgeidiaeth sy'n datgan mai cariad yw Duw yn ei hanfod ac mai trwy ymarfer ei gariad ef yn ein perthynas â'n cyd-ddynion y mae canfod llwybr o gors casineb, trais a rhyfel.
Yn ffynnon ffydd y mae canfod y gwerthoedd yma a'n gwaith ni yw dal ati 4. dynnu dŵr ohono i gawgiau blin heddiw. Yn y cyflwyniad sy'n dilyn cawn glywed be ddigwyddodd i dref fechan pan gollwyd gwasanaeth Ceidwad y Ffynhonnau.
Cyflwyniad: 'Ceidwad y Ffynhonnau.'
Ffydd - ffynnon cyfrifoldeb
Pobl oedd yn dioddef pan dagodd y ffynhonnau a phan lygrwyd y cyflenwad dŵr, fe roedd pobl yn diodde yn y llifogydd enbyd yn ddiweddar. Ac wrth ffynnon ffydd y dysgwn ni fod pobl yn bwysig a bod ganddo ni gyfrifoldeb tuag atyn nhw.
Un o gwestiynau cyntaf y Beibl yw cwestiwn Cain 'Ai fi yw ceidwad fy mrawd?'
Ie, meddai Duw. Ie, meddai proffwydi mawr yr Hen Destament. Ie, meddai Iesu Grist: fy ngorchymyn i ydi i ti garu Duw a charu dy gyd-ddyn fel ti dy hun.
Does dim pechod mwy na cham-drin pobl neu ymddwyn yn ddi-hid ac yn ymwrthod â'n cyfrifoldeb tuag at eraill.
Mi fu'r diweddar Tom Nefyn Williams yn weinidog am gyfnod yn Rhosesmor - rhyw dair milltir o'r Wyddgrug yma. Fo a ddywedodd, 'Does dim sy'n fwy annuwiol na diffyg dynoliaeth, na dim sy'n fwy duwiol na'r dynol.' Dyna pam y mae'r tlodi affwysol sy'n llethu ac yn lladd miliynau ar draws gwledydd tlawd y byd, nid yn unig yn drasiedi dynol, mae'n sefyllfa annuwiol.
Dyna pam mae'r bomio a'r ffrwydro sy'n lladd y diniwed yn Iraq ac Afghanistan a'r Dwyrain Canol yn fwy na chreisis gwleidyddol, mae'n bechod yn erbyn Duw y Tad sy'n caru pob un o'i blant. A dyna pam y mae miloedd ar filoedd o Gristnogion yn gweithio i hybu gwaith Cymorth Cristnogol a mudiadau tebyg ac yn ymgyrchu i wared y byd o dlodi.
Nid mod i'n awgrymu am funud mai Cristnogion yn unig sy'n gweithio dros anffodusion y ddaear. Mae yna anffyddwyr a phobl o grefyddau eraill yn rhannu'r un consyrn am gyflwr dynol-ryw. Ond yr hyn yr ydw i yn ei ddweud ydi mai wrth ffynnon ffydd yr yda chi a minnau debyca o ymdeimlo â'n cyfrifoldeb tuag at eraill, oherwydd dyma lle rydan ni'n dysgu fod pob person yn blentyn i Dduw ac yn frawd a chwaer i ni yn Iesu Grist.
Cefnwn ni ar y ffynnon ac yn hwyr neu'n hwyrach fe fyddwn yn cefnu hefyd ar ein cyd-ddynion. Roedd yna hen bregethwr yn Sir Fôn oedd yn cyfeirio at ddosbarth arbennig o bobl fel 'pobl y waeth gen i!' Rhain oedd y bobl oedd yn dweud 'Waeth gen i am gapel, na chrefydd na Duw.' A'r rhain oedd fwyaf tebygol o ddweud 'Waeth gen i am gyd- ddyn Waeth gen i am yr anghenus! Waeth gen i am drueiniaid rhyfel. Does wnelo nhw ddim byd â mi.'
Mewn eiliad byddwn yn clywed y Côr Plant yn canu cân o waith Aled Lloyd Davies, 'Mae 'na ffynnon.' Ga'i orffen drwy ddyfynnu pennill ohoni:
Mae hi'n hawdd, medd rhai, i ddadlau droi yn gweryl;
Hawdd i'r heriwr droi yn fwli blin a chas;
Hawdd i heddwch ein cymdeithas droi yn rhyfel,
Gan arddel gorsedd trais, nid gorsedd gras.
A dyma'r cytgan:
Mae 'na ffynnon yn y mynydd
Sydd yn fwrlwm ymhob tywydd;
Mae ei dŵr hi'n berlog beunydd,
Ac yn fythol lân ei li....
Hon ydi ffynnon ffydd.
Ohono y tardd ein diwylliant, ein gwerthoedd moesol a'n cyfrifoldeb tuag at gyd-ddyn yn ei angen. Ohono y tardd popeth sydd yn gyfiawn, yn bur, yn hawddgar ac yn ganmoladwy.
Dychwelwn ato. Glynwn yn ffyddlon wrtho. Yfwn o'i ddyfroedd byw er lles i'n heneidiau ac i fywyd ein cenedl. Amen.