Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Adolygiad: Y Mentor
Adolygiad Carys Edwards o Y Mentor gan Luned Emyr. Dan ofal Llwyfan Gogledd Cymru

Cafwyd sesiwn ddifyr iawn yn Theatr y Maes brynhawn Llun, lle gwelwyd rhannau o ddrama newydd Luned Emyr - Y Mentor yn cael eu perfformio, a lle cawson ni fel cynulleidfa y profiad o weld 'drama dan ddatblygiad'

Yn ddiweddar bu Luned yn cydweithio gyda Gruff Jones a chriw o actorion i dreialu, cwtogi ac addasu ei drafft cyntaf o ddrama.

Proses eithaf anodd
Dyma broses eithaf anodd mae'n siŵr lle mae'n rhaid i awdur roi ei waith yn nwylo eraill a'i wylio yn cael ei drafod a'i ddatgymalu gyda'r gobaith o gael gwell drama ar ddiwedd y broses.

Roedd Luned yn amlwg yn gwerthfawrogi'r cyfle a bu'r drafodaeth ar ddiwedd y perfformiad, lle bu'n egluro fel roedd cymeriadau'r ddrama wedi datblygu a darnau wedi'i cwtogi a'u newid, yn werthfawr iawn iddi fel dramodydd.

Mae modd cyfleu mwy ar lwyfan drwy ystum neu symudiad weithiau yn hytrach na thrwy air ac mae'n rhaid mynd drwy'r broses llwyfannu er mwyn sylweddoli hyn.

Dychwelyd i Gymru
Ar yr wyneb, stori am deulu sy'n dychwelyd i Gymru i gladdu mam yw'r ddrama.

Daw Gerwyn, rhyw fath o fab afradlon, a'i wraig Meriel a'u merch sy'n ddwy ar bymtheg oed gydag ef.

Ond mae mwy na dod adref i roi trefn ar eiddo ei fam yn digwydd.

Cawn gipolwg ar berthynas cythryblus y fam a'r ferch, gyda'r tad wastad yn ceisio cadw'r ddisgl yn wastad rhwng y ddwy.

Mae'r ferch yn enghraifft berffaith o blentyn 17 oed yn brwydro gyda phwy ydi hi a beth yw ei daliadau a'i chredoau.

Mae'r fam histerical, sy'n ceisio rheoli pawb a phopeth yn mynd ar ei nerfau a cheir brwydr am sylw'r tad a'r gŵr yn gyson.

Mae Gerwyn yn ceisio ysgrifennu nofel sy'n amlwg yn rhyw fath o gatharsis am yr hyn na wnaeth wrth iddo "adael tir" a mynd i borfeydd brasach.

Ym mhob drama dda ceir gwrthdaro wrth gwrs a daw hyn yn ffurf bachgen ifanc, neu'r garddwr, oedd yn amlwg yn agos iawn at y fam ac wedi creu'r berthynas na chafodd cymeriad yn ei dro wynebu ei broblemau ei hun. ac fe welwn lawer o bethau sydd wedi bod yn cuddio ers amser yn dod i'r wyneb.

Ffraeth a diddorol
Mae gan Luned y gallu i sgwennu deialog ffraeth a chreu cymeriadau diddorol o gig a gwaed.

Mae'r tri chymeriad yn gwbl gredadwy ac iddynt sawl haenen fel nionyn, ac wrth i'r ddrama fynd yn ei blaen, cawn wybod am lawer problem sydd wedi bod yn cronni ers amser.

Nid ydym yn cael gwybod popeth am bawb yn unionsyth a hyn sy'n cadw diddordeb y gwyliwr, mae 'na ddirgelwch am bob cymeriad a hynny sy'n gwneud stori dda.

Cipolwg yn unig a gawsom yn y theatr y dydd o'r blaen ond roedd yr abwyd yn ddigon i fod isio mwy, ac edrychaf ymlaen yn fawr yn awr at weld y ddrama gyfan ar daith ddechrau'r flwyddyn nesaf.

Efallai bod yna broses boenus am rai misoedd eto i ddod ond rwy'n siŵr y bydd Luned yn falch o fynd drwy'r broses honno er mwyn sicrhau y bydd ganddi ddrama o wead tynn, stori gyffroes a chymeriadau lle gallwn gydymdeimlo â hwy a'u casáu yr un pryd.

Does dim dwywaith fod creu partneriaeth rhwng dramodydd , actorion a chyfarwyddwr yn un gwerthfawr a gobeithiaf y bydd hyn yn parhau i ddatblygu yn y dyfodol agos.


Mwy o storiau Dydd Sadwrn

sunny Abertawe
isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

Rhagolygon 5 diwrnod


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý