|
|
|
Pasiant 300 o blant Ar y llwyfan fore Sul |
|
|
|
Bydd dros 300 o blant rhwng dwy a phedair oed yn cymryd rhan mewn pasiant arbennig ym mhafiliwn yr Eisteddfod am 11.30 fore Sul, Awst 6.
Mae'r plant yn mynychu cylchoedd ac unedau meithrin ysgolion Cymraeg rhanbarth Abertawe a threfnwyd y pasiant, sy'n dilyn yn syth ar ôl oedfa'r bore, gan y Mudiad Ysgolion Meithrin.
Meddai Catrin Stevens, cyd-awdur y cynhyrchiad Fi a Fy Ffrindiau ar Lan y Môr:
"Mae'r caneuon a ddewiswyd yn cyd-fynd â thema'r Ŵyl Feithrin eleni sef Fy ffrindiau a Fi. Mae'r plantos wrth eu boddau yn cymryd rhan yn y cynhyrchiad."
Bydd y plant, o 18 o gylchoedd meithrin a chylchoedd Ti a Fi ac ysgolion cynradd Cymraeg Abertawe, ar y llwyfan am tua hanner awr a bydd parti i ddathlu'r pasiant yn uned S4C yn syth wedi'r perfformiad.
Yno bydd pob un gymerodd ran yn derbyn pecyn o nwyddau â thystysgrif
Meddai Catrin Thomas, y cynhyrchydd:
"Bydd dau westai arbennig iawn yn ymweld â ni yn ystod y Pasiant gan ymuno yn yr hwyl, yn canu a dawnsio ar lwyfan y Pafiliwn a fydd yn llawn lliw. Bydd yn brofiad bythgofiadwy i'r plant a'u teuluoedd."
Y cylchoedd meithrin a'r cylchoedd Ti a Fi sy'n cymryd rhan yw:
Y Mwmbwls;
Sgeti;
De Gŵyr;
Gendros;
Treboeth;
Treforys;
Llangyfelach;
Clydach;
Trebanws;
Parc y Werin;
Penllergaer;
Y Login Fach;
Penclawdd;
Lôn Las;
Llansamlet;
'Lots of Tots' (meithrinfa ddydd, Tairgwaith);
Felindre;
Pontarddulais;
Ysgolion Llwynderw, Brynymor, Tirdeunaw, Pontybrenin, Y Login Fach, Bryniago a Felindre.
|
|
|
|
|
|