|
|
Bydd gwaith artistiaid sy'n cael eu disgrifio fel "rhai o artistiaid gweledol gorau Cymru" i'w weld ym Mhafiliwn Celfyddydau Gweledol Eisteddfod 2006 yn Abertawe.
Mae gweithgareddau'r pafiliwn yn cael ei drefnu mewn cydweithrediad a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Dywedodd y Cyngor mai ei nod yn Abertawe yw "addysgu ac ysbrydoli pobl o bob" ac i'r diben hwnnw cynhelir gweithdai yn amrywio o sesiynau creu i berfformiadau dawns, cynyrchiadau theatr, darlithoedd am gerddoriaeth a darlleniadau.
Hefyd, bydd tîm o dywysyddion i helpu pobl ddeall a gwerthfawrogi'r gwaith.
Meddai Peter Tyndall, Prif Weithredwr CCC: "Bwriadwn i'n gweithgarwch yn yr Eisteddfod eleni gyflawni dau brif nod: rhoi sylw i'r cyfoeth rhyfeddol o gelfyddydau ac ymarferwyr yn y maes sydd i'w cael yng Nghymru a rhoi cyfle i ymwelwyr â'r Eisteddfod gymryd rhan yn y broses o greu celf."
Ychwanegodd mai'r gobaith yw y bydd ymwelwyr â'r arddangosfa yn ymweld a chanolfannau celf eraill o fewn yr ardal.
"Hyderwn y bydd yr ymwelwyr a ddaw i ardal yr Eisteddfod yn mynd ati i ddarganfod y cyfoeth o ganolfannau a gweithgareddau celfyddydol sydd i'w cael yn y fro hon.
"Mae'r rhain yn amrywio o Oriel Mission ac Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe i weithgareddau celfyddydol a gynhelir yng Nghanolfan y Celfyddydau Pontardawe, Neuaddau Lles y Gweithwyr yn Ystradgynlais a Rhydaman, Canolfan y Celfyddydau Taliesin a Theatr y Grand, Abertawe - ceir arddangosfa, digwyddiad neu berfformiad at ddant pawb yn y mannau hyn,".meddai.
Ateb cwestiynau
Bydd y tîm o dywysyddion yn y pafiliwn celf a chrefft yn yr Eisteddfod ar gael drwy'r wythnos i ateb cwestiynau a thywys pobl o gwmpas yr arddangosfa gan gychwyn gyda'r agoriad swyddogol am 6.30pm ddydd Sadwrn Awst 5 gydag Alun Pugh AC, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon a Syr Roderick Evans yn bresennol.
Wrth edrych ymlaen at yr arddangosfa dywedodd Alun Pugh: "Mae'r drafodaeth a'r sylwadau a ysgogir gan yr Arddangosfa Gelf Weledol bob blwyddyn yn brawf o ddiddordeb pobl Cymru yn y celfyddydau. Rwy'n falch dros ben y bydd y Pafiliwn Celf eleni'n rhoi cyfle pellach i bobl ymwneud â'r celfyddydau drwy ddarparu cyfleoedd iddynt ddatblygu eu creadigrwydd personol ymhellach a rhoi cyfle iddynt gwrdd ag artistiaid a dysgu am y broses greadigol."
Bydd y gweithgareddau yn y Pafiliwn Celfyddydau Gweledol yn amrywio o weithgareddau creu i bobl ifanc fel ymateb i waith a welir yn yr arddangosfa i gyfleoedd i ymwelwyr bori ar wefan newydd Cynulleidfaoedd Cymru www.whatsonwales.co.uk sy'n rhestru'r digwyddiadau celfyddydol a gynhelir ym mhob cwr o Gymru.
Fel rhan o'r arddangosfa yn y pafiliwn eleni, mae dau artist yn dathlu traddodiad gwydr lliw Abertawe sy'n dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, - yr artist cysyniadol, Tim Davies, enillydd y Fedal Aur am Gelf Gain ym Meifod yn 2003 ac enillydd gwobrau yn 1994 ac 1995, a'r artist gwydr lliw, Catrin Jones, a enillodd y wobr gyntaf am wydr pensaernïol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1980 ac 1982.
Fe fuo nhw yn ymchwilio "i gysyniadau ehangach golau, lle a lliw" wrth gynllunio'r arddangosfa.
|
|
|
|
|
|