Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý

Mae Gwilym Owen yn darlledu o'r maes bob bore ar y Post Cyntaf, Â鶹Éç Radio Cymru
Cyfarchion o'r lleuad
Gwilym Owen Cyfarchion unwaith eto o Faes Felindre - maes yn ôl rhai sinigiaid - nid y fi - cofiwch - sydd yn debycach i wyneb llychlyd a charegog y lleuad na'r un maes erioed o'r blaen.

Ond eto, efallai mai dyna pam mae rhywun yn clywed am bobl efo syniadau arallfydol mewn ambell i gyfarfod.

Refferendwm tywysogaidd
Dyna ichi Adam Price yr aelod seneddol ar gefn ei geffyl yn galw am refferendwm arall - refferendwm a fyddai'n rhoi cyfle i bobl Cymru benderfynu a ydy nhw eisiau cadw'r teitl Tywysog Cymru air peidio.

Siawns nad oes gan y genedl bethau pwysicach i feddwl amdanyn nhw na symud dyn o'r lleuad fel'na.

Dogfen ddel
A dogfen arall sydd fel pe byddai hi wedi'i pharatoi ar y lleuad ydi'r baldorddiad diweddaraf ar yr iaith Gymraeg gan y Lingo Cwango.

Cyflwyniad lliwgar ystadegydd y Bwrdd ydi hwn - a dwi'n siŵr yn rhywbeth sydd wedi costio ceiniog neu ddwy ond sori, bois bach, dydw i damaid callach ar ôl ceisio'i dreulio fo.

Ond duwcs, mae llygoden fach yn edrych yn ddel. Ond i be mae hi'n da?

Tant-ro
Stori dristaf yr wythnos hyd yma yw'r un am wraig o'r ardal oedd am gystadlu ar yr unawd telyn ddydd Llun - ond, och a gwae, cyn cyrraedd y pafiliwn fe gollodd ei hoff offeryn.
Galwyd yr heddlu.
Roedd y prif stiwardiaid mewn panig llwyr.
Ond jyst mewn pryd daeth y delyn goll i'r fei.
Aeth y delynores ar y llwyfan a rhoi o'i gorau dan yr amgylchiadau.

Dim ond un cystadleuydd arall oedd yna.
Ond yn awr, mwy o och a gwae.
Chafodd y naill na'r llall mo'r wobr.
Ei hatal oedd y dyfarniad.
O diar! O diar!

Bŵm, bŵm
Embaras, hwnna ydi o.
Pabell Un o uchel swyddogion Awdurdod S4C yn edrych ar draws y maes a gweld clamp o stondin gyda'r enw Boomerang o'i gwmpas. Dew, medda fo, mi âi heibio i weld rhai o gynhyrchwyr mwyaf talentog yr S4C newydd.

Ond cafodd glamp o sioc.
Doedd yno ddim cyfryngi yno o gwbl.
Pabell fwyta enfawr ydi'r lle.
Owch.

Creu cymdogion
Ac o sôn am stondinau - pwy sy'n penderfynu trefn pebyll y maes dwedwch?

Pwy, osododd yr undeb athrawon, NASVWT Cymru y drws nesaf i rywbeth a elwir yn Ogof Lladron?

A phwy ddwedodd mai rhwng Pabell y Beibl a Phabell Cymru Nicaragua y dylai'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig gartrefu am wythnos.

Marciau duon
Ac mae yna dderyn bach wedi dweud wrtha i fod Prif Gwnstabl Gogledd Cymru yn pryderu dipyn bellach ynglŷn â chael ei urddo i'r Orsedd fore Gwener.

Poeni mae o, ar ôl clywed yr Archdderwydd yn taranu am deyrngarwch, y bydd o yn cael tri marc du ar ei goben wen dderwyddol bob tro y bydd y prif Gopyn yn methu â phresenoli ei hun yn seremonïau'r Orsedd.

Does a wnelo'r ffaith i'r Archdderwydd ei hun gael tri phwynt yn ddiweddar ar ei drwydded am yrru gormod drwy Gorris ddim a'r peth.

Cysgu'n dawel
Ond fel pob ci ar y lleuad, dal i gysgu mae Nedwyn dan y bwrdd ym mhabell y Wasg . . .
  • Bydd cyfraniad arall gan Gwilym Owen yfory. Cliciwch ar ddydd Iau


  • Mwy o storiau Dydd Mercher

    sunny Abertawe
    isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

    Rhagolygon 5 diwrnod


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý