Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Eleri Wyn Jones Taclo technoleg
Mae cwmni Monitor Cymru yn cyflwyno pecyn newydd o ddysgu sgiliau cyfrifiadurol trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Eisteddfod eleni.

Cwmni newydd sbon o Lanfairpwll ar Ynys Môn sy'n gyfrifol am y cynllun o ddysgu sgiliau cyfrifiadurol trwy gyfrwng y Gymraeg, ar ffurf fideo rhyngweithiol.

Mae Monitor Cymru yn rhan o Gymdeithas Meddalwedd Cymraeg, ac mae'r cyfarwyddwr, Eleri Wyn Jones, yn obeithiol iawn am y cynllun.

"Fe wnes i waith ymchwil a darganfod nad oedd dim byd ar gael ar ffurf fideo rhyngweithiol i ddysgu gam wrth gam sut mae defnyddio rhaglenni fel Word, Powerpoint ac Excel trwy gyfrwng y Gymraeg."

Sefydlodd Monitor Cymru i lenwi'r bwlch a dysgu sgiliau cyfrifiadurol mewn ffordd syml a hawdd trwy gyfrwng CD-Rom.
Mae'n addas ar gyfer pobl o bob oed.

Cam wrth gam
"Dwi'n gobeithio y bydd ystod eang o bobl yn elwa ohono - pobl sydd am ddechrau busnes, dechrau gweithio neu sydd eisiau gwella eu sgiliau cyfrifiadurol yn gyffredinol. Mae gan lawer o bobl ofn dechrau defnyddio cyfrifiaduron ond mae'r gwersi yma yn hwylus a syml ac yn esbonio popeth yn glir gam wrth gam," meddai.

"Mae'n cynnig dull arloesol o addysgu drwy gyfrwng fideo rhyngweithiol, ynghyd â thasgau a chwis, sydd wedi eu seilio ar gynnwys y cyrsiau."

Ar ddiwedd y cwrs mae tasgau a chwis hwylus i'w cwblhau sy'n cyflwyno ffordd arall o gofio cynnwys y fideo.

Dywedodd iddi gael ymateb gwych hyd yn hyn gyda nifer o unigolion a sefydliadau wedi dangos diddordeb mawr yn y cynllun.

Yn yr Eisteddfod mae'r deunydd yn cael ei arddangos a'i werthu ym mhabell Prifysgol Bangor neu gellir ymweld a gwefan


Mwy o storiau Dydd Mawrth

sunny Abertawe
isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

Rhagolygon 5 diwrnod


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý