Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Manon Steffan Ros Y fedal ddrama: "Diolch mawr"
Manon Steffan Ros yw enillydd y fedal ddrama eleni am yr ail flwyddyn yn olynnol.

Yr un bregeth oedd gan feirniaid y fedal ddrama eleni a rhai y llynedd - y dylai'r fedal ddrama sefyll ochr yn ochr â seremonïau'r gadair a'r goron ar brif lwyfan y pafiliwn.

Ar hyn o bryd, mae seremoni y fedal ddrama yn cael ei chynnal yn theatr fach y maes, ac "nid yw hyn yn dderbyniol" yn ôl Branwen Cennard, un o'r beirniaid eleni. Dywedodd bod hyn yn cynrychioli ei barn hithau a'i chyd-feirniad Meic Povey oedd methu bod yn bresennol.

"Y rheswm o bosib yw'r patrwm o ddifyg teilyngdod dros y blynyddoedd, ond pam bod hyn yn digwydd?" gofynnodd.

Cynigodd ddau bosibiliad. Dywedodd yn gyntaf, ei fod yn gamp aruthrol i ysgrifennu drama, a'i fod yn cymryd disgybliaeth lwyr. "Mae'r gofynion yn enfawr a does dim syndod nad oes mwy yn cystadlu," meddai.

Dywedodd hefyd nad gwaith un person fel arfer yw ysgrifennu script ar gyfer y teledu a llwyfan, ond gwaith tîm. Awgrymodd bod angen edrych unwaith eto ar reolau'r gystadleuaeth gan efallai gynnig system fentora ac hyfforddi, fyddai'n codi'r safon drwyddi draw ac yn codi statws y gystadleuaeth yn ogystal.

Cyfaddefodd fod y dyfodol yn edrych yn ddu i ddrama a scriptio yng Nghymru, ac oni bai bod trafodaethau yn dechrau yn fuan, y bydd hi'n amhosib adfer y sefyllfa.

Aeth ymlaen wedyn i drafod cystadleuaeth y ddrama hir. Deg ddrama daeth i law, saith yn y trydydd dosbarth a thri yn yr ail ddosbarth.

"Yn anffodus, roedd y gwendidau yn ddiflas o gyffredin, a'r un mwya' oedd yr anallu i ysgrifennu stori dda," meddai, gan gyhoeddi nad oedd teilyngdod yn y gystadleuaeth.

Pymtheg sgript ddaeth i law yn y gystadleuaeth ddrama fer, 12 yn y trydydd dosbarth, dau yn yr ail ddosbarth ac un yn y dosbarth cyntaf "ac mae diolch mawr mawr amdani".

"Y mae'r ddrama Miri yn sefyll ben ac ysgwydd yn uwch na'r dramâu eraill yn y gystadleuaeth [drama fer] ac yng nghystadleuaeth y ddrama hir."

Cyflwynwyd y fedal ddrama felly i Manon Steffan Ros o Riwlas, Bangor, a oedd yn fuddugol yn y fedal ddrama llynedd hefyd.

Mae ei drama yn sôn am ddau ddieithryn yn cwrdd mewn mynwent yn dilyn cynhebrwng Miriam (Miri) a oedd ar un adeg yn gariad i'r ddau. Wrth iddynt hel atgofion daw yn amlwg fod eu cof amdani yn bur wahanol.

Yn ôl y beirniad camp fwyaf y ddrama yw sut y mae'n creu darlun mor grwn a chyflawn o Miriam heb iddi fod yn bresennol.

"Mae ei phresenoldeb anweledig yn hawlio'r sioe."

popeth a ddisgwylir
"Mae'n cwmpasu popeth a ddisgwylir gan feirniad a chan gynulleidfa ac yn ddi-os saif mewn dosbarth ar ei phen ei hun: drama sydd yn dweud stori dda a'r stori'n cael ei datgelu'n gelfydd . Drama ac ynddi gymeriadau crwn, cymhleth, diddorol, cymeriadau y gellir cydymdeimlo ac uniaethu â nhw a'r rheiny yn gymeriadau wedi eu gosod mewn sefyllfa gwbl gredadwy." Canmolwyd hefyd y defnydd o ddeialog naturiol a gafaelgar.

"Drama sy'n haeddu cael ei gweld, yn wir, drama y bydd disgwyl eiddgar am ei gweld gyda'r posibilrwydd cyffrous o allu ei chynhyrchu mewn aml gyfrwng."

Estynodd y ddau feirniad eu gwerthfawrogiad a'u llongyfarchiadau gan ddweud ei fod yn bleser cyflwyno'r fedel ddrama i Manon.


Mwy o storiau Dydd Mawrth

sunny Abertawe
isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

Rhagolygon 5 diwrnod


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý