Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Cerdyn geni Jac y Jwc
Bu un o hoff gymeriadau llenyddiaeth plant yn crwydro'r Maes yn Abertawe bnawn Llun.

Yr oedd Jac y Jwc yno ar gyfer cyhoeddi cerdyn llongyfarch babi newydd i deuluoedd dwyieithog lleol.

Arweiniodd orymdaith o blant a'u rhieni ar draws y maes i stondin y Mudiad Ysgolion Meithrin lle'r oedd teuluoedd lleol oedd newydd gael babi yn disgwyl (!) amdano.

Lluniwyd y cerdyn ar y cyd rhwng Mudiad Ysgolion Meithrin a Twf gyda neges oddi mewn yn annog cyflwyno'r Gymraeg o'r crud i blant.

Mae manylion hefyd am ddarpariaethau'r Mudiad i helpu magu plant yn ddwyieithog a chyflwyno addysg Gymraeg o oed gynnar iawn i blant. "Bydd 30,000 o'r cardiau arbennig yma'n cael eu dosbarthu i rieni pob babi a enir yng Nghymru, gan rwydwaith o fydwragedd ledled Cymru er mwyn atgoffa ac annog rhieini i gyflwyno'r Gymraeg o'r crud i'r babi newydd,' meddai Meryl Pierce, Cydlynydd Cenedlaethol Twf.

LLuniwyd cwpledi ar gyfer y cardiau gan Tudur Dylan Jones.

'Mae'n iaith i blant ac 'Mae'n iaith i'w meithrin o ddim i gant mewn cân a chwerthin'

Meddai Iola Jones, Cyfarwyddwr Marchnata Mudiad Ysgolion Meithrin,
'Roeddwn i'n awyddus i gael rhyw bennill bach cofiadwy yn y cerdyn gan fod hynny'n ffordd dda o gael y rhieni i gofio'r neges bwysig o'i mewn, ac hefyd mae pobl yn debycach o gofio cardiau sy'n cynnwys pennill bach syml y tu mewn.

"Yn ychwanegol at hyn mae gofod ar waelod y cerdyn i'r fydwraig ei lenwi sy'n nodi pwysau, ac amser geni'r plentyn ac yna'i lofnodi er mwyn gwneud y cerdyn yma'n un arbennig, ac yn un y bydd y fam yn siŵr o'i gadw."

Mwy o storiau Dydd Mawrth

sunny Abertawe
isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

Rhagolygon 5 diwrnod


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý