Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gwilym Owen Gwilym Owen o'r Maes - Mawrth
  • Enaid eisteddfodol

  • Cyfarchion o faes Felindre ar fore Mawrth.
    A dwi'n falch o ddweud fod Nedwyn y ci bach unwaith eto wedi cyrraedd pabell y wasg.

    A wyddoch chi be, mae o yn un mor ddiffygiol mewn brwdfrydedd eisteddfodol ag yr oedd o y llynedd.

    Troi ei gefn a chysgu fydd hi am weddill yr wythnos iddo fo a breuddwydio am fod adref yn Sir Fôn.
    Enaid bach doeth ryfeddol.

  • Prinder bandiau

  • A doedd Nedwyn ddim wedi sylwi fel rhai o'r sylwebwyr fod yna brinder bandiau o Ogledd Cymru yn y brifwyl eleni.

    Doedd band enwog Trefor hyd yn oed ddim wedi ymddangos.

    Tybed a yw'r arweinydd wedi penderfynu fod sathru cyrn o Set y Gornel yn Y Cymro yn llawer mwy bendithiol na hyfforddi bois y band i chwythu eu cyrn hwy?

  • Addysg prifysgol

  • Arwydd Clywed stori fach ddiddorol am daith grŵp o blismyn iaith swyddogol y Brifwyl yn mynd o gwmpas y maes yma fore Sadwrn i arolygu Cymreictod y stondinau - a chael dipyn o sioc o ganfod mai stondin arlwywyr bwyd Indiaidd oedd wedi gwneud yr ymdrech orau.

    Ond y llwy bren yn mynd i Brifysgol Bangor a lwyddodd i gamsillafu y gair University.
    O diar, diar.

  • Ceisio lloches

  • Wn i ddim a oes yna wirionedd yn y sibrydion y bydd yna loches arbennig ar gyfer gwragedd sy'n cael eu curo gan eu gwÅ·r yn cael ei hagor ar y maes carafannau.

    A hynny am fod y Sanhedrin wedi caniatáu i'r gân honedig ofnadwy Tafarn y Rhos sy'n moli trais meddwl gwŷr at eu gwragedd gael ei chanu ar lwyfan y Steddfod.

    Gwarthus meddai'r ffeministiaid.

  • Corff corfforaethol?

  • Pasio stondin Bwrdd yr Iaith Gymraeg pan ofynnodd rhywun imi a oedd y Cwango iaith yn dal mewn bodolaeth.
    Yr awgrym oedd mai dim ond y Cadeirydd sydd â hawl i fod yn ei swydd bellach gan fod tymor aelodaeth y gweddill wedi dod i ben.

    Felly, y cwestiwn ydi a ddylai'r Bwrdd fod yn cyfarfod o gwbl fel corff?
    Dim ond gofyn.

  • Mewn da bryd

  • Y ddau frawd Llongyfarchiadau rŵan i'r Prif weinidog hoff am lwyddo i gyrraedd cynhadledd i'r wasg ar yr union amser penodedig fore ddoe.

    Ond efallai y dylwn ddweud bod ei frawd hÅ·n yn cadw cwmni iddo - sy'n awgrymu efallai fod yr Athro Prys Morgan yn gallu dweud faint o'r gloch yw hi yn well na'r Prif weinidog Rhodri.

    Ac o gofio'r gorffennol dydi hynny fawr o gamp.

  • Detio

  • Ond i ddod yn ôl at y plismyn iaith a fu'n chwynnu'r stondinau. Oni alle nhw fod wedi dechrau wrth eu traed a sylwi ar y pechod ar glawr Rhaglen y Dydd.

    Be welwch chi ond Abertawe a'r Cylch, August 5th to the 12th.
    Och gwae - onid oes eisiau deryn glân i ganu! A dyna le da i minnau gau fy mhig am y tro.

    Mwy o storiau Dydd Mawrth

    sunny Abertawe
    isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

    Rhagolygon 5 diwrnod


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý