Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Gwilym Owen Gwilym Owen o'r maes: dydd Iau
Mae Gwilym Owen yn darlledu o'r maes bob bore ar y Post Cyntaf, Â鶹Éç Radio Cymru
Troi tu min
Cyfarchion o faes Felindre ar fore Iau.

Wyddoch chi be, mae Nedwyn John y ci bach cysglyd a finna wedi cael dipyn o sioc. Clywed fod dau eisteddfodwr brwd wedi cael eu dal yn cario cyllyll tra'n ymweld ag adeilad y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd.

Gwilym Owen Dyma ichi William John Davies o Lanbrynmair y Cyn Oruchwyliwr llwyfan gweithgar a geisiodd fynediad yn cario ei gyllell boced ar gyfer gwaith garddio medda fo.

A wedyn y Cyn Archdderwydd Robyn Llyn oedd yno yn cynrychioli Bwrdd yr Orsedd.

Cyllell i dorri brechdan iddo'i hun oedd gynno fo yn ei fag. Hynny ar gyfer taith hirfaith boenus ar un o drenau Arriva o'r Gogledd.

Digon yw dweud y bu'n rhaid i'r ddau hepgor eu harfau tra'n cerdded coridorau grym.
Ar ôl clywed hynna aeth Nedwyn yn ôl i gysgu!

Dod yn eu blaenau
Mae sibrydion ar droed fod Bwrdd yr Orsedd wedi penderfynu (tu ôl i ddrysau caëdig wrth gwrs) y bydden nhw'n urddo yr enwog Glyn Wise o Dŷ'r Brawd Mawr i urdd Derwydd er anrhydedd in absent fore Gwener.

Os gwir y gair dyma glamp o wythnos fawr i Stiniog.
Coron i Eigra a choban wen i Glyn, y ddau wedi eu magu o fewn tafliad llechen i'w gilydd.

Gormod o wybodaeth
Tydi hi'n hawdd pechu deudwch.
Pobl yn cwyno rŵan fod yr arweinydd Siân Thomas wedi bod yn cyflwyno gormod o wybodaeth am y cystadleuwyr cyn cystadlu.

Datgan pwy yw'r hyfforddwyr a phetha felly.

Sori Siân Thomas mae rhai pethau na ddylid eu dweud ym myd y cythrel cystadlu.

Boed anwybodaeth . . .
A sylwi fod Menna Elfyn yn ei cholofn yn y Western Mail yn pwysleisio nad oedd ganddi hi na'i chyd feirniaid y syniad lleiaf pwy oedd enillydd Coron Abertawe.

Bobol bach onid felly y dylai hi fod?

Ond mi garwn i petai hi wedi esbonio sut y bu iddi hi a Damian Walford Davies fod yn ddigon gwrol i anghytuno â barn Gwyneth Lewis.

Onid y Fonesig Lewis oedd ein Bardd Cenedlaethol cyntaf ac onid yw'r fath anghytundeb yn sen ar yr arswydus swydd honno?

Bwlio
Bwli mawr y Gymru hon.
Dyna ddisgrifiad ardderchog Ron Jones o gwmni Telesgop o ddinas Caerdydd.

A holodd pam fod sefydliadau cwbl Gymraeg fel S4C, Bwrdd yr Iaith, a'r Eisteddfod Genedlaethol yn cynnal breichiau'r bwli yma.

Nid yng Nghaerdydd y dylen nhw fod medda fo. Ond a fydd y Sanhedrin a'r lleill yn ymateb yn gadarnhaol.
Go brin.

Mae'r maes a'r pafiliwn pinc yn dal i fod yn destun gwawd a beirniadaeth.

Y disgrifiad gorau a glywais i o'r babell newydd ydi ei bod hi fel hwch fagu ar wastad ei chefn yn yr haul.

Ond meddai hen wag arall wrtha i:
'Dew', medda fo, 'mae'n dipyn o newid gweld y jyncet genedlaethol yn y pinc am unwaith - mae'r hen garpan dlawd wedi bod yn y coch yn ddigon hir.'

Ac ni all neb ddadlau efo hynny.

Ond a ydi petha yn gwbl hynci dori tua'r maes carafannau eleni? Rhyw gwestiwn bach fel yna, o Felindre.


Mwy o storiau Dydd Iau

sunny Abertawe
isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

Rhagolygon 5 diwrnod


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý