Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Radio Luxembourg Adolygiad gig nos Iau
Lowri Johnston sy'n adolygu gig nos Iau Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe.

Cyn dechrau, dwi am sôn am bwyntiau negyddol y noson, gan bwysleisio ei bod yn noson wych heblaw am ddau beth!
Fy mai i oedd y cyntaf sef colli band cyntaf y noson, Derwyddon Dr Gonzo oherwydd prinder bysys o'r Maes Ieuenctid i ganol y ddinas.
Poen!

Yn ail, rhaid imi sôn pa mor wael oedd y system sain yn Bar 5, gigs Cymdeithas yr Iaith.

Credwch chi fi, fi 'di clywed rhai gwaeth, ond mae'n drueni pan fo system sain wael yn effeithio ar fand.

siwt a thei
Yn anffodus, fe wnaeth e effeithio ar Bob, y band agorodd y noson i mi. Ond mwynheuais eu set nhw, ac roedd Sion y prif leisydd yn edrych yn smart iawn yn ei siwt a thei!

Roedd Dafydd y drymiwr yn wych, gyda'r band i gyd yn cyd-chwarae'n dda, a 'Defaid' oedd cân orau'r set.

Llwybr Llaethog Uchafbwynt y noson i mi oedd nesa' sef y Llwybr Llaethog yn chwarae gyda Sleifar (a rhai o'r Teulu), a sypreis y noson - Geraint Jarman!

Roedd e'n wych ond er gwaethaf presenoldeb Jarman, cân orau y set i mi oedd 'Cynrychioli' gyda Sleifar, Chef, Aneirin Karadog ac Ed Holden yn rapio gyda Llwybr Llaethog.

Dathlu ugain mlynedd
Noson dathlu 20 mlynedd ers iddyn nhw ryddhau'r deunydd rap cyntaf yn y Gymraeg oedd hi, caset oedd yn chwyldroadol ac a fu'n ddylanwad ar lawer o artistiaid Cymraeg dros y blynyddoedd.

Radio Luxembourg oedd nesaf, ac erbyn hyn roedd y llawr ddawnsio yn llawn, pawb yn mynd yn wyllt am y band o Aberystwyth.

Ma' nhw'n fand ffantastig ac os oes 'na un band yng Nghymru ar hyn o bryd sydd wir am lwyddo, dwi'n ffyddiog mai Radio Luxembourg fydd rheini.

Ond, dwi'n teimlo eu bod nhw'n newid braidd ac yn colli y peth hynny sy'n eu gwneud nhw'n wahanol, er mae'n anodd dweud beth yn union sydd wedi newid...

Gobeithio nad ydy e'n newid parhaol! Ond wedi dweud hynny, dwi wir yn mwynhau eu set - yr hynod wych 'Lisa Magic a Porfa' yn enwedig!

Penderfynais fynd draw i Maes B ar ôl Radio Luxembourg i weld Euros Childs, gan golli Jakakoyak, yn anffodus.

Ond roedd Euros Childs yn wych. Pawb yn mynd yn nyts.

Chwaraeodd ganeuon o'i albwm 'Chops' gan gynnwys ei sengl gyntaf 'Donkey Island'.

Yn anffodus ni allwn weld dim o'r llwyfan o ganol y gynulleidfa, ond mwynheais yn fawr tabeth!


Mwy o storiau Dydd Gwener

sunny Abertawe
isaf 10°CÌýÌýuchaf 15°C

Rhagolygon 5 diwrnod


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý