| |
Shân Cothi - yn ôl yn y fro!
Nid yw'n syndod fod Shân Cothi yn teimlo mor gartrefol ym Mhrifwyl Meifod. Bu'r gantores a gymerai ran yng nghyngerdd nos Lun yn byw ar fferm Mathrafal sydd biau'r tir!
"A thra'r oeddwn yno fe brynais i feic racer ac fe fyddwn i'n mynd arno fe bob dydd ar hyd y ffyrdd yn mynd rownd y bloc fel petae er wn i ddim i be ond rwy'n adnabod y ffyrdd o gwmpas yr ardal yn dda iawn," meddai Shân.
Athrawes cerdd yn ysgol Llanfair Caereinion oedd Shân ar y pryd.
"Rwy'n cofio, ar ôl cael y swydd, mynd o gwmpas yr ardal gyda fy Mam a Nhad yn chwilio am rywle i aros a methu chael lle'n byd. Yna dyma rhywun yn un lle gwnaethom ni alw yn awgrymu ein bod yn galw yn fferm Mathrafal.
Wel, fe gawsom ni shwt groeso ac yno y bues i'n aros yn lojer, am dair blynedd a hanner gyda Beryl a David Jones. Mae'n rhoi cymaint o wefr i mi yn awr bod yr Eisteddfod ar gaeau'r fferm," meddai.
Ac ychwanegwyd at y wefr honno pan gafodd wahoddiad i ganu yng nghyngerdd nos Lun yn y pafiliwn mawr.
"Y mae cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn unrhyw eisteddfod yn fraint ond yr oedd yn arbennig y tro hwn oherwydd y cysylltiadau eraill," meddai Shân sydd wedi manteisio ar y cyfle i gyfarfod â llawer o hen ffrindiau ar y Maes.
Yn ystod ei chyfnod yn athrawes yn yr ardal, cyn troi'n gantores broffesiynol, yr oedd Shân sy'n dod o Ffarmers yn Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol yn aelod o Aelwyd adnabyddus Penllys ac yn canu yng nghôr yr aelwyd.
"Mae gen i atgofion pleserus iawn am yr ardal a'i phobl ac am Fathrafal a'r teulu," meddai.
A hithau'n cymryd rhan yn narllediadau'r Â鶹Éç o'r Maes cyfaddefodd fod ganddi fwy o ddiddordeb nac arfer y tro hwn yn hynt cystadleuwyr lleol.
|
|
|
|