| |
Eisteddfod yn wers i Lydawyr
Dywedodd gwr o Lydaw sydd ar ymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod mai ei ddymuniad ef fyddai i bob Llydawr fynychu un o eisteddfodau cenedlaethol Cymru.
Gwnaeth yr Eisteddfod gymaint o argraff ar Brieg Ar Menn, Llydawr sydd wedi dysgu Cymraeg, dywedodd:
"Hoffwn i bawb o Lydaw ddod i eisteddfod er mwyn iddyn nhw gael gweld beth mae'r Cymry wedi ei ennill trwy frwydro. Hoffwn i bob Llydawr ddod yma i weld dwyieithrwydd go iawn."
Dyma'r ail dro i Brieg dreulio wythnos mewn Eisteddfod Genedlaethol, y tro cyntaf oedd yn Llanelwedd.
Gartref yn Llydaw mae'n gweithio i gymdeithas o'r enw Stumdi sy'n cynnal dosbarthiadau Llydaweg i oedolion.
"Rwy'n falch dweud bod yna gynnydd yn nifer y rhai sydd â diddordeb mewn dysgu Llydaweg. Mae llawer mwy o rieni eisiau i'w plant ddysgu Llydaweg ac yr ydym ni am weld mwy o gyfle iddyn nhw wneud hynny," meddai.
Dywedodd ei bod yn anodd amcangyfrif faint yn union o siaradwyr Llydaweg sydd yna ond awgrymodd fod rhwng 250,000 a 400,000.
"Ac mae nifer y dysgwyr yn tyfu bob blwyddyn ond yn anffodus mae yna fwy o siaradwyr yn marw nag sydd yna o rai newydd yn cymryd eu lle."
Gofidiai mai ychydig o gefnogaeth sydd yna i'r Llydaweg gan lywodraeth Ffrainc gydag awydd ganddi i wneud Ffrainc yn wlad unieithog.
"Ond yr hyn a hoffem ni ei weld ar y llaw arall yw gweld y Llydaweg yn ennill statws swyddogol gyda Llywodraeth Ffrainc yn arwyddo y siarter ieithoedd bychain. Mae Ffrainc yn gwrthod gwneud hynny," meddai Brieg.
Dywedodd, fodd bynnag, fod y Llydawyr yn bobl cwbl wahanol i'r Ffrancwyr ."
Dywedodd ei fod yn argyhoeddedig y bydd y Llydaweg yn parhau.
"Ond wnaiff hynny ddim digwydd heb inni frwydro llawer," meddai.
|
|
|
|