| |
Cael ei dynnu gan ddwy Gymraes
Traddododd Aelod Seneddol Maldwyn ei araith Gymraeg gyntaf erioed oddi ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol nos Wener.
A chyfaddefodd ei fod yn cael ei dynnu nid yn unig rhwng dwy Gymraes ond rhwng dwy Gymraeg hefyd.
Cymraeg y gogledd mae ei athrawes, Delyth, yn ei ddysgu iddo ond Cymraeg y de sydd gan ei gariad, Sian Lloyd, dynes tywydd y teledu.
Ac mewn araith llawn hiwmor wrth gymryd rhan yn seremoni agoriadol yr Eisteddfod dywedodd Lembit hefyd ar pwy y dylai eisteddfodwyr roi'r bai os na fydd tywydd da ym Meifod.
Dyma gynnwys ei araith: Fy enw yw Lembit Öpik. Dyna enw od, dwi'n clywed chi'n deud ond mae rhai pobl yn galw fi Llembit ab Öpik rhan fwya yn Llundain!
Dydi o ddim yn dod o Gymru. Daeth fy rhieni o Estonia. Gadawsant fel plant yn ystod yr ail ryfel byd.
Mae gan y Cymru a phobl Estonia un peth yn debyg eu hoffder o ganu. Roedd y chwyldro nath arwain at ryddid o gomiwnyddiaeth yn cael ei alw'n Chwyldro ar Gân.
Yn wir enillodd Estonia yr Eurovision song contest ond nil points gafodd Prydain. Mae'n hen bryd i Gymru gael cais ei hunan!
Fel dysgwr Cymraeg mae genni broblem. Delyth, fy athrawes. Mae hi'n gorfodi fi i weithio'n rhy galed. Ond mae Delyth yn dysgu y Gymraeg gywir i mi, sef Cymraeg y Gogledd - er bod Sian yn trio dysgu'r Gymraeg anghywir i mi. Sian, den ni'n deud rwan fyny fan hyn!
Dwi yma trwy'r wythnos i fwynhau y barddoni, llenyddiaeth, celf a chrefft, gwyddoniaeth, yn ogystal â'r canu ac adrodd o lwyfan yr Eisteddfod.
Braint o'r mwyaf yw i mi groesawu'r Eisteddfod yn ôl i Sir Drefaldwyn ac yn arbennig i Feifod.
Diolch yn fawr i bawb ohonoch sydd wedi bod yn gweithio mor galed ledled y sir yn ystod y tair blynedd diwethaf i godi'r holl arian i wneud yn siwr bod yr Eisteddfod yn un llwyddiannus. Diolch hefyd i'r holl bobl fydd yn gweithio yn ystod yr wythnos i sicrhau fod popeth yn mynd yn hwyliog.
Diolch am y fraint o gael y cyfle i ddweud yr ychydig eiriau hyn. Gobeithio nai ddysgu mwy o Gymraeg yn ystod yr wythnos. A chofiwch, os gwena'r haul, rhowch y diolch i Sian.
Os gawn ni law, beiwch y Llywodraeth!
|
|
|
|