Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

Â鶹Éç Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
O'r Maes
Y profiad o sgwennu Ann!

Dolwar FachPenri Roberts o Gwmni Theatr Maldwyn yn sôn am y profiad o sgrifennu sioe gerdd am Ann Griffiths, Dolwar Fach.





Bydd cynhyrchiad Cwmni Theatr Maldwyn o Ann! yn y pafiliwn nos Iau. Y cyfarwyddwyr yw Derec Williams, Linda Gittins a Penri Roberts.

Dyma Penri Roberts yn dweud yr hanes.

Cawsom wahoddiad i ysgrifennu sioe i Eisteddfod Maldwyn 2003, ym Meifod. Fe ddechreuon ni ar y gwaith o drafod testunau yn Ionawr 2002, gan benderfynu ystyried ysgrifennu sioe ar fywyd Ann Griffiths, Dolwar fach.

Unwaith eto, roedden ni'n ymwybodol iawn ein bod yn delio gydag arwres cenedl, yn ogystal a'r cyfrifoldeb sy'n dod gyda hynny.

Roedd yn rhaid i ni ofyn dau gwestiwn:
Oes na ddeunydd sioe yma?
A allwn ni'n tri ysgrifennu'r sioe honno?

Darllen yn helaeth
Mae llawer wedi'i ysgrifennu am y ferch ifanc, a ystyrid heddiw i fod yn un o brif emynwyr Cymru. Fe geision ni ddarllen yn helaeth, ymgynghori gydag arbenigwyr fel Derec Llwyd Morgan a threulio amser yn Nolwar fach gyda'r teulu presennol - teulu sy'n haeddu rhyw fath o anrhydedd gan genedl y Cymry am barhau i gynnig drws agored i bererinion, fel eu cyndadau dros y ddau can mlynedd diwethaf.

Treuliasom oriau difyr yng nghwmni Nia Rhosier yn Hen Gapel John Hughes - dyma wraig arall sydd wedi gwneud cymwynas â'r genedl.

Os cewch chi gyfle yn ystod y Brifwyl ym Meifod, ewch yno am dro. Aethom draw i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, lle cawsom weld yr unig lythyr sydd ar gael yn llawysgrifen Ann Griffiths, gan ryfeddu ar lawysgrifen daclus merch na chafodd unrhyw addysg ffurfiol.

Daethom i'r penderfyniad yn haf 2002, wedi oddeutu chwe mis o ddarllen a thrafod, ein bod am roi cynnig ar ysgrifennu sioe ar Ann Griffiths.

Tua chwe mis
Mae'r broses o ysgrifennu sioe gerdd yn cymryd tua deunaw mis i ni fel rheol a byddwn yn cychwyn trwy ymchwilio, trafod ac yna trwy ysgrifennu'r llyfr'.

Golyga hyn wythnosau lawer o waith, cyn y gallwn fentro ysgrifennu gair o'r sioe ei hun. Byddwn yn trafod cynnwys pob golygfa a rhinweddau pob cymeriad, penderfynnu beth yw hanfod y sioe. Sioe Gerdd yw'r cyfrwng a thrwy'r cyfrwng hwnnw y byddwn ni'n darlunio bywyd y ferch o Ddolwar Fach.

Hawdd fyddai ysgrifennu pasiant, gan gynnwys nifer o'i hemynau hi ac, yn sicr, byddai'r cyfrwng hwnnw yn plesio llawer ond nid ni ein tri.

Gwyddom ein bod yn ei mentro hi wrth ddefnyddio cyfrwng y sioe gerdd ac amser a ddengys, a fyddwn ni'n llwyddiannus ai peidio.

Ann, John Hughes a Iesu Grist
Tri phrif gymeriad fydd yn y sioe Ann, John Hughes ac Iesu Grist.

Un o'r problemau mwyaf a wynebwn yw sut i ddarlunio perthynas gyfriniol Ann â Christ.

Capel pendref lle cafodd Ann ei throedigaethCredwn y gall y cyfrwng ein helpu trwy'r gair, cerddoriaeth, trefniant lleisiol ac offerynnol, llwyfanu, set a golau a pherfformiad y prif gymeriad gobeithiwn fedru darlunio berthynas unigryw Ann â Iesu Grist.

Er inni benderfynnu ar y dechrau na fyddem yn cynnwys emynau Ann yn y sioe gerdd, mae'n anhygoel sut mae ei geiriau a'i hymadroddion wedi treiddio i'n caneuon ni.






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

lluniau'r wythnos
Eisteddfod Meifod - lluniau dydd Sadwrn

Lluniau dydd Gwener

Mwy o luniau o'r Orsedd wedi ymgynull

Gorsedd y Beirdd yn paratoi i ymgynull

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Mercher

Oriel "Nics"

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Llun

Ioan Gruffudd ym Meifod (2)

Ioan Gruffudd ym Meifod (1)

Lluniau dydd Sadwrn a Sul

Lluniau'r ardal

O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cysylltiadau eraill


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý