麻豆社

Explore the 麻豆社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

麻豆社 Homepage
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Adolygiad: Noson fwyaf Maes B?

mm

Mae dau lwyfan ar faes B heno, a chwe band da iawn yn chwarae. Anodd yw dewis pwy i fynd i'w weld. Ond mae'n neis gallu dewis ond eto i gyd mae'n anodd pan rydych chi am weld dau fand sy'n chwarae yr un pryd!

Mozz
Band ifanc o Aberystwyth sy'n agor y noson. Gyda'i ganeuon seicadelig roc gwnaeth Mozz yn dda iawn yn ddiweddar ac newydd recordio ei ep cyntaf (demozz).

Gyda'u dylanwadau yn amrywio o Led Zeppelin, y Beatles a Zabrinski mae Mozz yn wych heno ac er eu bod yn ifanc maen nhw'n ymddwyn yn broffesiynol iawn ar y llwyfan.

Amrywia eu caneuon o fod yn eitha seicadelig ac electronig i roc a r么l. Does dim llawer yn dawnsio ond mae digon yno i'w gweld.

Rhys Llwyd sy'n chwarae b芒s heno yn lle Meilyr ond dyw hyn ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth i berfformiad y band ac edrychant yn ddigon cyfforddus yn perfformio.

Mae Mozz ar hyn o bryd yn trefnu gig am ddim yn Aberystwyth ar ddiwedd mis Awst (Castle Rock) a fydd yn cynnwys rhai o brif fandiau Cymru fel. Gogz, Maharishi, Kentuky AFC, GHR2, ac wrth gwrs, Mozz.

"Rydyn ni am roi y cyfle i fands lleol chwarae gyda bandiau sydd 芒 llawer o brofiad chwarae yn fyw," meddai Sam, prif leisydd a gitarydd Mozz.
"Fe fydd y bandiau i gyd yn chwarae am ddim ac fe fydd y mynediad am ddim hefyd, ond efallai byddwn ni'n gofyn am gyfraniad ariannol gan bawb at achos da. "

Mae'r band yn gobeithio recordio albwm cyn bo hir ond rhaid iddyn nhw ddod o hyd i gwmni recordiau gyntaf ("rhywun fel Ankst neu Sony yn ddelfrydol" yn 么l Dylan sy'n chwarae'r allweddellau).

Kentuky AFC
Kentuky AFC sydd nesaf ar lwyfan dau gyda set hwylus ac yn llawn egni. Maen nhw'n cael llawer o bobl i ddawnsio ac yn amlwg yn boblogaidd iawn ymysg yr Eisteddfotwyr!

Fe fydd gan Meinir Gwilym albwm newydd fis Tachwedd, a hi sy'n cefnogi Anweledig ar lwyfan un. Cawn flas ar sawl c芒n newydd ac maen nhw'n swnio'n addawol iawn. Mae Meinir yn edrych yn dda ar y llwyfan ac yn amlwg yn mwynhau.

Anweledig
Ac yna i uchafbwynt y noson (ac efallai, hyd yn oed yr wythnos ar Faes B) - Anweledig. Mae'r band wedi bod yn gwneud llawer o gigs flwyddyn yma ac mae'n neis cael nhw nol yn chwarae'n fyw.

Maen nhw'n dechrau'r noson gyda Graffiti Cymraeg sy'n cael pawb i ddawnsio'n wyllt. Mae'n amlwg pa mor boblogaidd yw Anweledig gan fod y lle yn llawn dop a phawb yn gwybod pob gair i bob c芒n!

Mae'r band yn hollol wych yn fyw, ac mae Ceri Cunningham yn edrych yn gyfforddus iawn ar y llwyfan ac yn amlwg yn joio mas draw!

Cawn amrywiaeth o ganeuon - clasuron fel Dwi'n gwybod sut ti'n licio dy de, Cae yn Nefyn, Torri gwair am dyfu gwair i rai newydd e.e. Parchus.

Yn sicr mae Anweledig werth eu gweld heno a phawb yn amlwg wedi mwynhau yn fawr iawn. Dyma un o fandiau gorau Cymru ar hyn o bryd a dydyn nhw byth yn siomi!

Mae wedi bod yn noson ffantastig o gerddoriaeth orau Cymru.

"A dwi mor hapus", oedd Kentuky AFC yn canu yn gynharach yn y noson a dwi'n credu gallwn ni gyd gytuno gyda nhw ar 么l heno.






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

lluniau'r wythnos
Eisteddfod Meifod - lluniau dydd Sadwrn

Lluniau dydd Gwener

Mwy o luniau o'r Orsedd wedi ymgynull

Gorsedd y Beirdd yn paratoi i ymgynull

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Mercher

Oriel "Nics"

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Llun

Ioan Gruffudd ym Meifod (2)

Ioan Gruffudd ym Meifod (1)

Lluniau dydd Sadwrn a Sul

Lluniau'r ardal

O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cysylltiadau eraill


About the 麻豆社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy