麻豆社

Araith gyntaf T James Jones o'r Maen Llog.

03 Gorffennaf 2010

T James Jones yn traddodi ei araith gyntaf

Araith yr Archdderwydd newydd yn seremoni'r cyhoeddi yn Wrecsam

Diolch

"Fy ngair cyntaf yw diolch. Diolch am y fraint aruthrol hon ac wrth ddiolch dwi'n deall bod i'r anrhydedd ei chyfrifoldeb a gobeithio y cai'r nerth i gyflawni'r cyfrifoldeb hwnnw.

"Diolch i bawb a'i gwnaeth yn bosib i mi gyrraedd y mae hwn. Cyfeillion a thylwyth, Manon, fy mrodyr, fy mhlant . Diolch am eich cefnogaeth .

"Felly hefyd i holl garedigion yr Eisteddfod yn Wrecsam a'r Fro am ein croesawu i'r llwyfan llawen hwn yng nghanol eich tref ac am yr holl weithgaredd yma yn ystod y dydd ac a fyddd i ddigwydd eto heno.

"Gwerthfawrogaf ran y dirprwy Archdderwydd Selwyn Iolen am fy nhywys mor urddasol drwy'r ffordd. Am ei wasanaeth gwerthfawr i'r Orsedd ac i'r Eistreddfod rwy'n diolch iddo fe ac yn arbennig am iddo di'r adwy yn y cyfyngder o golli Dic yr Hendre. Gwerthfawrogaf ymhellach ei ymdrech hynod ddewr i fod yma heddiw. Pob dymuniad da i chi i'r dyfodol Selwyn."

Dic Jones a heddwch

"Fe fu colli Dic yn ergyd enbyd heb s么n am y golled i Sian a'i theulu ac i'w genedl rwy'n cydnabod fy ngholled bersonol innau gan ddiolch ar yr un pryd am ei gyfeillgarwch ar hyd y blynyddoedd. Roedd hi'n fraint cael ei adnabod.

"Yn agos at ddiwedd ei yrfa fel bardd fe ganodd linell mor amserol ei neges, 'Ni all lladd ennill heddwch'.

"Yng ngwledydd Prydain galwyd y Sadwrn diwethaf yn Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ac mae hi'n weddus ac yn bwysig inni gofio'n dyner am y bechgyn a'r merched a fu farw mewn rhyfeloedd yn Irac ac affganistan ac am y miloedd a anafwyd ac am y rhai sy'n galaru ar 么l eu hanwyliaid .

"Ond dylem gofio hefyd fod rhyfel Irac yn 么l pob tebyg yn un anghyfreithlon a gofyn pam nad yw'r gwleidyddion a'n harweiniodd i'r drychineb honno wedi eu dwyn o flaen eu gwell.

"Fe ddywedodd un o enwogion y fro hon, Morgan Llwyd yn Llyfr y Tri Aderyn , 'Fe fyn y gwir o'r diwedd ei le.' Hyderwn y gwireddir y dyhead.

"Mae rhyfel Affganistan wedi troi'n drychineb arall ac yn ein hatgoffa o'r newydd pa mor anweddus yw clodfori rhyfel mewn unrhyw ffordd a dyna ergyd llinell Dic, 'Ni all lladd ennill heddwch.'

"A phe tase fe wedi cael byw fe fydde ef fan hyn yn cyhoeddi fod heddiw yn ddiwrnod lluoedd heddwch . Yn ddiwrnod cyhoeddi cariad at gyd-ddyn pwy bynnag y bo ac yn ddiwrnod canmol diwylliant a iaith sy'n ein gwareiddio.

Neges galonogol

"Fel Morgan llwyd roedd Dic yn feistr ar greu diarhebion a'r rheini, fel y disgwylid gan Dic, ar gynghanedd ac o gofio prif amcan cynnal yr Eistedddfod yn Wrecsam ymhen y flwyddyn dyma un o'i gwpledi;'Y Gymraeg i mi yw'r iaith Ond gwn ei gwadu ganwaith'.

"Bellach, ar 么l y gwadu ganwaith neges galonogol sydd gan Wrecsam i'w chyhoeddi am sefyllfa'r Gymraeg yn yr ysgolion. Fis Medi eleni bydd dros 200 o ddisgyblion y flwyddyn yn cael eu derbyn i ddechrau addysg gyfrng y Gymraeg yn Sir Wrecsam.

"Mae hyn yn gynnydd o 50 y cant mewn tair blynedd . Ar hyn o bryd mae rhyw 15 y cant o holl ddisgyblion Wrecsam a'r fro yn cael addysg cyfrwng Cymraeg ac fe ddengys rhagolwg fod tua 40 y cant orieni am roi'r addysg honno i'w plant a bydd galw am ail ysgol uwchradd yn y fro gan fod Ysgol Morgan Llwyd yn cyrraedd ei llawn dwf.

"Dod yma i gefnogi ac i ghadarnhau y chwydro hwnnw fyddwn ni yn Eisteddfod Wrecsam a'r Fro ymhen blwyddyn.

Cofio Glyndwr a Sycharth

"Ym mhapur bro Y Clawdd adroddir hanes enwi'r coleg yma yn Wrecsam yn Brifysgol Glyndwr. Meddai'r Is- Ganghellor Michael Scott, 'Rwy'n edmygu Owain Glyndwr am ei ddawn, ei arweinyddiaeth a'i weledigaeth ym myd addysg a chrefydd ac fe ddown y flwyddyn nesaf, yn ysbryd y tywysog a roddodd senedd i Gymru ag iddi urddas statws rhyngwladol.

"Gyda llaw, hon yw seremoni gyntaf y Cofiadur newydd , Penri Tanad. Dymunwn yn dda iddo yn ei swydd wrth gofio mai Penri oedd Owain Glyndwr yn y ddrama gerdd enwog a chaf fy nhemtio i ofyn iddo ganu ei ran unwaith eto ond fe fodlonwn ni'n awr ar ran o gywydd Iolo Goch , uno feirdd yr Uchelwyr , i ganmol y croeso a gai yn Sycharth, Llys owainni welit na chliced na chlo , na gwall na newyn na gwarth na syched fyth yn Sycharth.

"Fwy na thebyg i Iolo farw cyn dechrau gwrthryfel Glyndwr ac yn sicr cyn llosgi Sycharth yn ulw gan y Saeson a dod a gwall a newyn a gwarth i'r llys godidocaf ac mewn fforddmae'r gwarth yn parhau heddiw oherwydd hyd yn hyn nid ydym wedi mynnu sefydlu henebyn urddasol yn Sycharth ar gyfer ymwelwyr.

"Gobeithio y gall y Brifysgol newydd ymgyrchu i ddylanwadu ar yr awdurdodau perthnasol i roi Sycharth ar y map.

Nifer o beryglon

"Wrth ymweld 藛a henebyn pwysig arall, Castell y bere, sylwais ar arwydd yn rhybuddio'r ymwelwyr i gymryd gofal wrth gerdded y llwybrau. A dyma'r rhybudd, 'Gll henebion fod yn beryglus'. Fe welais i'r eironi ar unwaith . Diolch i'r drefen fe all henebion fod yn beryglus.

"Fe allan nhw feithrin ysbryd cenedlaetholgar, fe allan nhw gryfhau ein hymdeimlad o Gymreictod.

"Wrth sefyll ar ben un o furiau Castell y bere fe ddychmygais y Cymry yn gweld byddin Edward y Cyntaf yn dod lan y cwm i ymosod arnyn nhw ac fe gefais foment beryglus o gydymdeimladol a'r Cymry ac yr oeddwn i mewn perygl o fagu yn fy nghalon fwy a mwy o benderfyniad i wrthsefyll pob ymosodiad ar Gymreictod .

  • Mae na berygl i ymweliad yr Eisteddfod 芒 Wrecsam a'r Fro fagu ynddom deimladau tebyg.
  • Maer na berygl i ni, hyd yn oed yma ar y ffin rhyngom a Lloegr fynnu diogelu'n Cymreigrwydd.
  • Mae na berygl i chi arweinwyr a xchynghorwyr yn Wrecsam , yn ymyl Clawdd Offa, roi'r dewis nid i rai ond i bob plentyn gael addysg cyfrwng Cymraeg.
  • Mae na beryg inni fynnu mwy a mwy o bwerau i'n Senedd fel ein bod ni yn y pen draw yn cael yr hawl i ddewis peidio byth eto 芒 mynd i ryfeloedd megis Irac ac Affganistan.(Cymerdawyeth)
  • Mae na berygl na welir yr un Tryweryn arall yn ein hanes nac ychwaith unrhyw Epynt.
  • Mae na berygl na chlywir caneuon Saesneg ar Radio Cymru.
  • Mae na berygl inni ddod 芒 de a gogledd Cymru yn nes at ei gilydd drwy fynnu gwell trafnidiaeth ym mhob man fel na fydd rhaid i'n plant ac i blant ein plant gael eu condemnio i ddilyn loriau Mansell Davies weddill milltiroedd eu bywyd.
  • Mae na berygl na fydd yr Archdderwydd yn mynd i unrhyw arwisgo yng Nghaernarfon.
  • Mae na berygl y gall Cymru guro Lloegr nid yn unig mewn rygbi ond hefyd mewn p锚l-droed.
  • Mae na berygl i ni, fel yr Alban ac Iwerddon fynnu cael ein t卯m criced ein hunain.
  • Mae na berygl inni fynnu chwifio'r Ddraig Goch yn y Gemau Olympaidd.

A dyna ddigion o faniffesto i garedigion Eisteddfod Wrecsam am flwyddyn. Ond yn y cyfamser dewch ymhen y mis ar hyd Clawdd Offa i ddathlu'n Cymreictod mewn Eisteddfod arall yng Nglynebwy ym Mlaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd"


Blogiau 麻豆社 Cymru

:

Nia Lloyd Jones

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

Canlyniadau

Bandiau pres

Rhestr lawn

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.