Julia yn ennill Dysgwr y Flwyddyn
05 Awst 2010
Julia Hawkins o Grughywel yw enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2010.
Daeth y fam o dri yn fuddugol yng nghystadleuaeth dysgwyr Cymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Cynhaliwyd y rownd derfynol yn Sefydliad Llanhiledd nos Fercher. Roedd Julia yn brwydro yn erbyn Shirley Cottam, Helen Price a Dai Williams.
Beirniaid y gystadleuaeth oedd Robat Powell, Roy Noble a Donna Edwards.
Cafodd Julia Hawkins ei hysbrydoli i ddysgu'r iaith oherwydd yr atgofion sydd ganddi am ddwy athrawes, Carys Whelan ac Yvonne Matthews.
Cyflwynwyd y Tlws i Julia yn y Pafiliwn heddiw gan Gadeirydd y Cyngor, Prydwen Elfed-Owens.
Mwy
Blogiau 麻豆社 Cymru
:
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...