Nofel wedi ei sgrifennu gan gi Daniel Owen a enillodd wobr goffa yr awdur yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent heddiw.
Spot y Ci oedd y ffugenw a ddefnyddiwyd gan Grace Roberts wrth gyflwyno'i nofel Tri Thro i L枚yn Byw ac eglurodd wedi'r seremoni i'w anrhydeddu ar lwyfan y Pafiliwn mai dyna enw ci Daniel Owen!
"Yr oedd ganddo fo gi o'r enw Spot a phan fyddai Spot y ci yn mynd am dro fe fyddai'n rhedeg ffordd yna a rhedeg fforcw, sniffian rhywbeth yn fama, sniffian rhywbeth yn fancw . Doedd o byth yn cerdded ar hyd llinell unionsyth a dydi'r nofel yma ddim wedi cerdded ar hyd llinell unionsyth ychwaith," meddai.
Ac yn wir, bu'r nofel ar y gweill ers Chwefror 2007.
"Mi es i cyn belled a phennod pump ac mi aeth y bennod o chwith ac fe ddaru hynny fy nigalonni fi'n llwyr oherwydd mae'n debyg nad oeddwn i'n dal yn ddigon iach i dderbyn hynny," meddai gan gyfeirio ar iselder a chwalfa nerfol y bu'n dioddef wrtho.
"Mi wnes ei gadael wedyn am flwyddyn a hanner ond medru mynd ymlaen 芒 hi wedyn i'r diwedd.
Dywedodd mai'r broblem fawr gyda'r nofel oedd nad oed wedi ei chynllunio o gwbl dim ond dilyn ei thrwyn.
Dywedodd i'r nofel fod yn fodd iddi ddygymod 芒'i salwch ond hyd yn oed wedi ei chwblhau dywedodd nad oedd ganddi'r hyder i'w chyflwyno i gyhoeddwr wrth ei henw ei hun.
"Ond ar 么l bod yn bustachu efo hi roeddwn i'n meddwl ei bod yn biti wir jyst ei stwffio hi'n 么l i'r dr么r ond roeddwn i'n dal i fethu cael hyder i fynd a hi at gyhoeddwr ond rydach chi'n cael beirniadaeth dan ffugenw yn y Steddfod ," meddai gan ddweud mai dyna pam y'i hanfonodd.
Yr oedd yn un dair nofel anfonwyd i'r gystadleuaeth ond fe'i disgrifiwyd hi fel llenor aeddfetaf y gystadleuaeth.
Er mai at Tri Thro y Gl枚yn Byw y cyfeiriai'r beirniaid yn eu beirniadaeth fel Adenydd Gl枚yn Byw y cyhoeddwyd hi sef y teitl a luniwyd ganddi hi gyntaf gyda'i gyfeiriad at y chaos theory.
Dywedodd Grace Roberts iddi ymwrthod 芒 newid yn niwedd y nofel a awgrymwyd gan y beirniaid gan ei bod hi yn hapus gyda'r diweddglo a luniwyd ganddi.
"Dwi'n hapus efo'r ffordd mae'r nofel wedi gorffen. Dwi'n gwybod nad ydi'r beirniaid ddim ond dyna fo, roedd gen i hawl i gadw beth oeddwn i eisiau," meddai gan chwerthin.
Ond ychwanegodd: "Mae yna lot o bethau eraill wedi cael eu newid, amryw byd o bethau wedi cael eu newid ond dwi wedi gadael y diweddglo fel mae o . Maen nhw'n dweud y gwir, mae o'n hurt o hapus - oherwydd fy mod i wedi bod yn s芒l ac eisiau cadw fy hun yn 么l ar even keel yr oedd yn rhaid i hon gael diwedd hapus," meddai.
Ond os edrychwch chi yn agos fydd pawb ddim yn hapus . . . ond dwi'n hapus!" meddai.
Cadarnhaodd hefyd bod unrhyw newidiadau yn rhai y cytunai a hwy ac nid yn rhai a orfodwyd arni.
Pwysleisiodd nad nofel am salwch meddwl yw hi ond ychwanegodd y tybiai ei bod yn bwysig siarad yn agored am iselder yn hytrach na'i guddio - ond nid er mwyn ennyn cydymdeimlad.
Y feirniadaeth
Wrth draddodi'r feirniadaeth ar ran ei gydfeirniaid Jane Edwards ac Alwena Williams dywedodd Gareth Miles mai "siomedig" oedd ansawdd y gwaith ar y cyfan.
Dywedodd bod tebygrwydd rhwng dwy ymgais i'r graddau eu bod yn sgrifennu am dair cenhedlaeth teulu.
"Dyna lle mae'r gymhariaeth yn gorffen oherwydd mae yna fyd o wahaniaeth yng nghyflwyniad y ddwy nofel," meddai.
Mae awdur Tri Thro i l枚yn Byw yn llenor aeddfetach, yn deall sut i draethu stori ac wrth ei fodd yn rhaffu digwyddiadau a chreu cymeriadau lliwgar.
"Ond weithiau mae'n cael cymaint o hwyl ar sgrifennu fel na wyro ryd i docio a chywasgu.
"Ein gobaith yw y bydd golygu llym ar y penodau lle mae'r afiaith yn mynd dros ben llestri ac y cytuna'r awdur i sobri diweddglo llesmeiriol o hapus fyddai'n fwy derbyniol mewn pantomeim," meddai.
Ychwanegodd fod gan yr awdur "glust fain" a'i galluogai i gofnodi tafodiaith mwy nag un ardal a chenhedlaeth.
"Ac mae'r traethu bob amser yn llyfn a thryloyw," meddai.
"Llwyddwyd i greu amrywiaeth eang o gymeriadau credadwy sy'n ein denu i mewn i'w byd a chyflwynir inni nifer o agweddau ar natur y gymdeithas fel ag y mae yng Nghymru heddiw.
Ond ychwanegi i'r nofel roi mwy o foddhad iddo ef ac Alwena Williams nag i Jane Edwards ond serch hynny eu bod yn gytun y dylid ei gwobrwyo fel "nofel sy'n mynd i roi llawer o bleser i lawer o ddarllenwyr".
Blogiau 麻豆社 Cymru
:
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...