Â鶹Éç

Risg, priodas ac ennill y Daniel!

04 Awst 2009

Fflur Dafydd

Priodas ddydd Sadwrn - y Daniel ddydd Mawrth!

A hithau newydd gael ei disgrifio ar lwyfan yr Eisteddfod fel "dewin llenyddol" cyfaddefodd Fflur Dafydd iddi "gymryd risg" gyda'r nofel a enillodd iddi Wobr Goffa Daniel Owen - a'r clod gyda'r mwyaf hael a gafwyd erioed yn y gystadleuaeth.

"Dwi di cymryd risg da'r nofel yma o ran cynnwys a rhai o'r pethau dwi'n ddweud a dwi mor falch gweld fy mod i wedi cael ymateb positif gan y beirniaid a'u bod nhw wedi gweld beth oeddwn i'n drio'i wneud," meddai.

Nofel ddychannol am y Llyfrgell Genedlaethol ydi Y llyfrgell a'r llyfrgell honno yn ddrych o Gymru gyfan.

"Felly mae'n dod a lot o wahanol bobl at ei gilydd, academyddion ac ymchwilwyr a llyfrgellwyr a phorthorion , gweision sifil - a jyst eu taflu nhw at ei gilydd mewn un sefyllfa bisâr a sinistr ar adegau a gweld beth sy'n digwydd pan fo'r holl bethau yma yn digwydd mewn lle sydd wedi arfer bod mor dawel a thangnefeddus," meddai mewn cynhadledd i'r wasg wedi'r seremoni wobrwyo yn y pafiliwn.

Fflur Dafydd

"Dyna beth oedd yn fy niddori i fod rhywbeth cwbl annisgwyl yn digwydd a bod y Llyfrgell Genedlaethol fel ti rioed wedi gweld hi o'r blaen!"

Ond dywedodd nad oedd yn syniad newydd iddi - bu'n ei 'gadw' ers pum mlynedd cyn mentro ei roi ar bapur.

"Mae'r syniad wedi bod da fi ers 2004 ond doeddwn i ddim yn barod i sgwennu'r nofel tan y llynedd achos dwi'n credu fod raid i ti gyrraedd pwynt yn dy fywyd lle ti wedi gwneud digon o ymchwil ac wedi darllen digon o lyfrau eraill i wybod dy fod ti'n mynd i allu gwneud cyfiawnder â'r syniad.

Rhan o risg ei sgrifennu meddai oedd gosod y nofel yn y dyfodol yn 2020 a hynny rhag cael ei chaethiwo gan unrhyw realiti cymdeithasol neu wleidyddol.

"Mae da ti brif weinidoges, prif lyfrgellwraig felly mae lot o bethau sy'n chwarae ar y confensiynau sy da ni yng Nghymru ar hyn o bryd ac falle'n tynnu blewyn o drwyn ambell i berson," meddai.

"Mae hefyd yn sôn am feirniadaeth lenyddol yng Nghymru a chodi cwestiynau a yw beirniadaeth lenyddol yng Nghymru yn ddiduedd achos ein bod ni'n leiafrif," ychwanegodd.

Dywedodd iddi "orfod" ei hanfon i'r gystadleuaeth er mwyn cael darlleniad "cwbl ddiduedd er mwyn gallu profi'r pwynt oeddwn i'n trio'i wneud", meddai.

Dywedodd ei bod yn defnyddio gofod y Llyfrgell mewn ffordd na fyddai neb yn ei ddisgwyl er mwyn gwneud pwyntiau difrifol mewn ffordd ddoniol.

"Mae hiwmor yn bwysig," meddai i gael drosodd unrhyw neges wleidyddol neu atronyddol achos ti eisiau i bobl fwynhau beth maen nhw'n ei ddarllen a bron ddim yn sylweddoli nes maen nhw wedi gorffen dy fod yn gwneud rhai pwyntiau difrifol," meddai.

"Achos roeddwn i'n teimlo fod y syniad yn enfawr a mod i ddim wedi bod yn ddigon enfawr tan y llynedd lle roeddwn i'n teimlo bod fy nychymyg i yn barod i ddelio gyda'r stori," meddai.

Dywedodd iddi gymryd chwe mis i'w sgrifennu gyda chwe mis o blotio cyn hynny.

Priodas a nofel

Yn anorfod gofynnwyd iddi gymharu ei diwrnod yn yr Eisteddfod gyda'r Sadwrn diwethaf, dydd ei phriodas gydag Iwan Evans sy'n aelod o'i band, Fflur Dafydd a'i Barf ac fe ddisgrifiodd y naill ddiwrnod fel diwrnod ffantastig pwysig iawn yn ei bywyd ond y llall, heddiw fel cam pellach o ran gyrfa.

"Mae'r ddau beth wedi bod yn eithaf dramatig mewn ffyrdd gwahanol," meddai.

A'er wythnos nesaf bydd hi a'i gŵr yn teithio i'r Eidal ar eu mis mêl.

Wtythnos, yn wir, ac iddi gyffro nofelaidd - a'r wobr o £5,000 yn mynd i dalu am y mis mêl meddai'r awdur!


Straeon eraill

Newyddion

Blogiau Â鶹Éç Cymru

Nia Lloyd Jones

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

Nia Lloyd Jones, 13 Awst 2012

Canlyniadau

Côr Cynta i'r Felin

Rhestr lawn

Canlyniadau'r wythnos yn llawn.

Cylchgrawn

Ffilm

Y celfyddydau

Blog, adolygiadau a straeon o fyd y theatr, llyfrau a ffilm gydol y flwyddyn.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.